bondio, adeiledd a phriodweddau Flashcards
Beth yw priodweddau ffisegol metelau?
- Mae gan fetelau ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel oherwydd bod angen llawer o egni i dorri’r bondiau metelig (atyniadau electrostatig) cryf.
- Mae meetelau yn ddargludyddion trydanol oherwydd bod ganddynt for o electronau dadleoledig sy’n rhydd i symud.
- Mae metelau yn ddargludyddion thermol oherwydd bod ganddynt for o electronau dadleoledig sy’n rhydd i symud.
- Metelau yn hydrin, hydwyth ac yn hyblyg oherwydd pan roddir grym ar y metel mae’r haenau o ionau positif yn llithro dros ei gilydd.
Wrth fynd ar draws cyfnod, mae ymoddbwyntiau’r metelau’n cynyddu, gan fod y bondio metelig yn gryfach.
Beth yw bondio ionig?
- Gall atomau rhai elfennau lenwi eu plisg allanol drwy golli neu ennill electronau, oan fyddant yn adweithio gydag atomau eraill i ffurfio ionau.
- Y bond ionig yw’r atyniad electrostatig rhwng yr ionau positif a negatif.
Beth sy’n diwgydd yn ystod broses bondio ionig?
Mae atomau metel yn colli electronau o’u plisgyn allanol ac mae atomau anfetelau yn ennill electronau yn eu plisgyn allanol. Felly yn ystod bondio ionig mae atomau metelau yn trosglwyddo electronau i atomau anfetelau.
Beth yw priodweddau cyfansoddion ionig?
Mae gan gyfansoddion ionig ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel oherwyddd bod atyniadau electrostatig cryf iawn rhwng yr ionau positif a negatif oddi wrth ei gilydd, sef torri’r bondiau ionig.
Beth yw priodweddau ffisegol cyfansoddion ionig?
- Galed ac yn frau.
- Galed oherwydd mae’n anodd torri’r atyniadau electrostatig cryf rhwng yr ionau a gwefrau dirgroes.
- Frau oherwydd pan riddir grym ar y solid, cyrhaeddir pwynt pan nad yw’r atyniad rhwng yr haenau o’r ionau yn gallu eu dal nhw gyda’i giludd, ac mae dwy haen yn llithro drost ei gilydd gan achosi inau o wefr debyg i fod nesa at ei gilydd.
- Hydawdd mewn dwr oherwydd mae’r atyniadau rhwng yr ionau a’r moleciwlau dwr yn gryfach na’r atyniadau rhwng y moleciwlau dwr a’i gilydd.
Beth yw ystyr bondio cofalent?
Y bond cofalent yw’r par o electronau sy’n cael eu rhannu rhwng niwclews dau atom mewn moleciwl.
Beth yw priodweddau ffisegol sylweddau cofalent moleciwlaidd syml?
- Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel oherwydd dim ond grymoedd van der waals sydd rhwng y molecwilau felly nid oes angen llawer o egni i’w gwahanu.
- Dim yn dargludo trydan- nid oes gwefr gan sylweddau cofalent moleciwlaidd syml.
- Llai hydawdd/ anhydawdd mewn dwr oherwydd mae’r atyniad rhwng moleciwlau’r sylwedd cofalent a’r moleciwlau dwr yn wannach na’r atyniad rhwng y moleciwlau dwr a’i gilydd.
Beth yw’r 5 sylweddau cofalent enfawr? (a’i phriodweddau)?
- Diemwnt, graffit, ffwlerenau, nanotiwbiau, carbon a graffen. (alotropau).
- cynnwys atomau carbon yn unig.
Beth yw nodweddion diemwnt?
- Pob atom carbon yn rhannu electronau gyda 4 atom carbon arall, gan ffurfio 4 bond cofalent sengl.
- Gan ddiemwnt ymdoddbwynt a berwbwynt uchel iawn (+3000c) oherwydd bod angen llawer o egni i dorri’r 4 bond cofalent ctyf sydd rhwng yr atomau.
- Diemwnt yn ynysydd trydanol gan nid oes ganddo electronau rhydd.
- Diemwnt yn galed iawn gan bod 4 bond cofalent cryf iawn rhwng yr atomau carbon.
- Anhydawdd mewn dwr, gan fod bondiau cofalent cryf iawn rhwng yr atomau carbon.
Beth yw priodwedday graffit?
- Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau cryf gan bod rhaid cael llawer o egni i dorri’r bondiau cofalent cryf rhwng yr atomau.
- dargludydd trydan gan bod ganddo electronau dadleoledig sy’n rhydd i symud rhwng yr haenau.
- Meddal, yn frau ac yn llithrig, gan mae dim ond grymoedd gwan van der waals sy’n dal yr haenau at ei gilydd, felly mae’n hawdd i’w gwahanu.
- Anhydawdd mewn dwr, bondiau cofalent cryf iawn rhwng yr atomau carbon.
Beth yw priodweddau nanotiwb carbon?
- dargludyddion trydanol (electronau sbar sy’n cael eu dadeoli tu fewn i’r tiwb).
- ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel.
- anhydawdd mewn dwr.
- gryf iawn, dwysedd isel iawn.
Beth yw priodweddau graffen?
- Ysgafn.
- Cryf.
- tryloyw.
- dargludydd trydanol ardderchog.
Beth yw priodweddau ffwleren?
- Dosbarth mawr o alotropau carbon.
- molecylau gyda 60 atom carbon qedi drefnu mewn sffer gwag.
- dargludydd trydan gan bod gyda electron sbar sydd yn gallu symud a dargludo trydan.
- gan nanotiwb ffwleren cryfder tynnol ugain gwaith aloi dur, cryfder uchel.
- hydawdd mewn hydoddiannau organig fel petrol sydd yn annhebyg i’r alotropau carbon arall.
Beth yw nanogwyddoniaeth?
Gwyddoniaeth a wnei’r ar raddfa nano.
Pam ydy wyddonwyr gyda ddiddordeb mewn raddfa nano?
Priodweddau defnyddiau yn gallu bid yn wahanil iawn i pan maent ar raddfa fawr. Mae’r priodweddau yma’n newid o 100nm a lawr.
Beth rydym yn defnyddio nanoronynnau amdano?
- Mae ganddynt arwynebedd arwyneb mawr iawn o’i gymharu a’i cyfaint, felly gallent adweithio’n gyflym iawn, felly maent yn defnyddiol fel catalyddion, e.e hunanlanhau ffenestri.
Beth defnyddwyd titaniwm deuocsid am, ac beth yw ei priodweddau?
- solid gwyn sy’n cael ei defnyddio mewn paent ty ac mewn rhai siocledi sydd a haen felys drostynt.
- nanoronynnau titaniwm deuocsid mor fach nad ydynt yn adlewyrchu golau gweladwy (ni allwn weld), felly defnyddiwyd mewn eli haul gan bod yn atal uwchfioled niweidiol o’r haul heb edrych yn wyn ar ein croen.
- hefyd yn catalyddu’r proses o ddadelfennu baw ym mhresenoldeb golau uwchfioled ac maent hefyd yn peri i ddwr ymestyn allan gan greu haenen denau.
Beth yw priodweddau nanowyddoniaeth ac beth maent yn cael eu defnyddio am?
- gwrthfacteria, gwrth firws a gwrth ffwng nanoronynnau arian yn cael eu defnyddio mewn chwistrelli diheintio i lanhau ystafelloedd llawdriniaeth mewn ysbytai ac i araenu arwynebau mewnol oergelloedd.
Beth gall nanowyddoniaeth arwain at ddatblygu?
- catalyddion newydd.
- cyfrifiaduron newydd.
- defnyddiau adeiladu cryfach ac ysgafnach.
- synwyryddion sy’n canfod symiau bach iawn o sylweddau unigol.
Beth yw rhai pryderon nanoronynnau?
- ddim yn gwybod effaith hyd dymor i’r corff.
Beh yw defnyddiau clyfar?
Defnyddiadau modern sy’n gallu newid eu priodweddau wrth i’r amgylchoedd newid.
Beth mae pigmentau thermocromig yn wneud?
Newid lliw wrth i’r tymheredd newid.
Beth mae pgimentau ffotocromig yn wneud?
Newid lliw wrth i’r arddwysedd y golau newid.
Beth mae aloiau sy’n cofio siap yn wneud?
gallu i adennill siap gwreiddiol wrth gael ei wresogi.
Beth mae polymerau sy’n cofio siap yn wneud?
Gallu adennill ei siap gwreiddol wrth gael eui wresogi.
Beth yw hydrogel yn gwneud?
Gallu i amsugno/gyrru allan dwr a chwyddo/crebachu oherwydd newidiadau pH neu dymheredd.
beth yw ystyr bondio metelig?
Holl atomau’n colli rheolaeth dros yr electronau syd yn eu plisg allanol, ac o ganlyiniad, mae’r mor o electronau’n gadael yr atomau i adael ionau positif mewn strwythur a’i helwir yn dellten. Mae’r mor o electronau rhydd yma’n dadleoledig, sef yn rhydd i symud o gwmpas.
Beth yw atyniad electrostatig?
Atyniad electrostatig yw’r atyniad rhwng rhywogaethau gyda gwefrau dirgroes. Mae atyniadau electrostatig yn gryf, sy’n gwneud hi’n annodd ei wahanu gyda gwefrau dirgroes, ac yn cymryd llawer o egni i’w gwneud.