Ensymau Ac Adweithiau Biolegol Flashcards
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng adwaith anabolig a chatabolig?
- Yn adweithau anabolig caiff dau moleciwl ei cyfuno i greu un mwy cymleth.
- Yn adwaith catabolig caiff moleciwl ei torri i ddarnau llai cymleth.
Beth yw ensymau?
Proteinau crwn sy’n gweithredu fel catalyddion biolegol ac yn cyflymu adweithiau heb gymryd rhan uniongyrchol. Mae ganddynt rhif trosiant uchel, nad ydynt yn dod i ben neu newid. Maent yn cynnwys safle actif sy’n siap tebyg i ei moleciwl penodol.
Pa tri safle mae ensymau yn gweithredu ynddynt?
- Yn allgellog, felly wedi’ secretu o gell trwy ecsocytosis.
- Yn mewngellol yn hydoddianr e.e. yn y cytoplasm.
- Yn mewngellog ynghlwm a bilen, e.e. yn mitochondria ar y cristau.
Beth yw’r datganiad cyntaf am ensym?
Y model allwedd a chlo, felly mae gan ensym safle actif a siap penodol all ei swbstrad clymu i greu’r cymlyghyn ensym swbstrad.
Beth ydy ail damcaniaeth ensymau?
Y model ffit anwytho yw bod yr ensym yn newid siap bach er mwyn gallupgi i’r swbstrad ffitio.
Sut mae ensym yn cyflymu cyfradd adwaith?
Mae gan adwaith egni actifadu sydd angen ei cyflawni i alluogi i’r adwaith digwydd, mae ensymau yn lleihau’r egni actifadu yma.
Pa ffactorau sy’n effeithio ar actifedd ensymau?
- Mae gan ensymau pH a tymheredd optimwm.
- Mae crynodiad swbstrad yn cael effaith nes pwynt ble mae pob safle actif yn llawn.
- Mae crynodiad yr ensym yn cael effaith posatif.
Sut mae atalyddion cystadleuol yn gweithio?
Maent yn siap tebyg i’r swbstrad, a mae’n llenwi’r safle actif, mae hyn yn gwrthod y swbstrad ac yn stopio’r cymlighyn ensym swbstrad rhag ffurfio.
Sut mae ataliadau anghystadleuol yn gweithio?
Maent yn cysylltu a safle alosterig, sef safle nid yw’r safle actif, a mae’n achosi i siap y safle actif i newid, felly nad ydy’s swbstrad yn ffitio pellach a nad ydy’s cymlyghyn ensym swbstrad yn ffurfio.
Beth yw ensym ansymudol?
Ensym wedi gosod ar fatrics anadweithiol megis capswl jel.
Beth yw manteision ensymau ansymudol?
- Mwy o sefydlogrwydd a gweithredur dros amrediad pH a htymheredd mwy.
- Dim yn halogi’r cynhyrchion.
- Hawdd aildefnyddio’s ensymau.
- Gallu creu dilyniant o golofnau oherwydd amrediad mwy.
- Hawdd ychwanegu a thynnu ensymau.
Beth yw defnyddiau ensymau ansymudol?
- Creu llaeth heb lactos.
- Creu biosynhwyryddion.
- Cynhyrchu syryp corn a llawer o ffrwctos.