Adeiledd A Threfnidaeth Celloedd Flashcards
Diffiniwch cell ewcariotig
Cell ag organynnau pilennog a chnewyllyn
Diffiniwch cell procariotig
Cell heb organynnau pilennog neu cnewyllyn
Enwch cydrannau y cnewyllyn
- Amlen gnewyllol sy’n cynnwys mandyllau
- Niwcleoplasm a chromatin
- Cnewyllan ble daeth yr rRNA
O fle daeth arwyneb arwyneb mawr mitochondria?
Plygiadau yn y gofod rhyngbilennol a ffurfir cristau
Beth mae mitochondria’n cynnwys?
-Matric organig a chyfansoddion
-Ribosomau 70S
-Cylch DNA
Galluogir rhain i’r mitochondra creu proteinau ei hun
Beth yw swyddogaeth mitochondria?
Cynhyrchu ATP yn proses resbiradaeth aerobig, gwelir nifer yn llefydd a chyfradd metabolaith uchel
Beth a llenwir y cloroplastau?
Yn rhydd mae ribosomau 70S a DNA cylchol, felly mae’n bosib cynhyrchu rhai o broteinau ei hyn
Disgrifiwch stroma y cloroplasyau.
Yn y stroma mae hylif a chynhyrchion ffotosynthesis, mae godennau flat o’r enw thylacoidau a ffurfir pentwr o’r enw granwm, creur arwynebedd arwyneb mawr
O fle daeth arwynebedd arwyneb y reticwlwm endoplasmig?
Plygiadau a chreur cisternau
Beth yw swyddogaeth y reticwlwm endoplasmig garw?
Maent yn dal y ribosomau ac yn cludo’r protein sy’n cael ei creu yno
Beth yw swyddogaeth y reticwlwm endoplasmig llyfn?
Heb ribosomau, maent yn cysylltiedig a synthesis a chludiad lipidau
Beth mae ribosomau yn cynnwys?
Is-uned fawr sy’n cynnwys 2 safle glynu tRNA, ac is-uned bach sy’n cynnwys un safle glynu mRNA
Beth sy’n cludo i’r organigyn golgi, a wecyn yn secretu ei cynhyrchion?
Fesigl cludo a secretu, a chaiff ei creu o deinydd y golgi ei hun
Beth yw swyddogaethau’r golgi?
- Cynhyrchu ensymau secretu
- Secretu carbohydradau
- Cynhyrchu glycoprotein
- Cludo a storio lipidau
- Ffurfio lysosomau sy’n cynnwys ensymau treulio
Beth mae lysosomau yn gwneud?
Gwagleoedd dros dro a un pilen sy’n dod o’r organynin golgi, maent yn dal ensymau treulio niweidiol oddi wrth weddill y cell, maent yn rhuddhai’r ensymau ar ol i’r cell marw a threulio’r cell
Ym mha celloedd mae centriolau’n bodoli?
Pob cell anifail, ychydig tu allan i’r cnewyllyn
Beth mae gwagolion yn gwneud yn celloedd planhigion?
Mae gan y rhan fwyaf un gwagolyn mawr pilen sengl, maent yn cynnwys cellnodd sy’n dal cemegion fel glwcos, mwynau asidau amino a phigmentau
O feth caiff cellfur ei creu?
Cellwlos, caiff ei dal gyda’i gilydd gan ficroffibrilion ac yn ffurfio mewn pectin.
Beth ydy swyddogaethau cellfur?
- Maent yn galluogi cludiant oherwydd bylchai yn y ffibrau cellwlos o’r enw’n apoplast
- Rhoi cryfder mecanyddol i’r cell a gwrthsefyll gormod o ehangi.
- Cyfathrebu rhwng celloedd, llinynnau cytoplasm fel plasmodesmata yn gallu mynd trwyddo
Beth yw meinwe epithelaidd?
Meinwe heb bibellau gwaed. Ffurfir haen parhaus i orchuddio arwynebau allanol a mewnol y corff. Eistedda ar bilen waelodol. Enghreifftiau ydy ciwbig, y cilia a chennog
Beth yw’r tri meinwe cyhyrol?
- Cyhyr ysgerbydol sy’n glynu at esgyrn a chynhyrchu symudiad. Mae’n bwerus ond yn blino’n hawdd
- Cyhyr lllyfn sy’n cyfangu’n rhythmig ond yn llai pwerus. Maent yn anrheoledig
- Cyhyr cardiaidd yn y calon, hanner fordd rhwng y dau cyhyr arall