Dadl Cyfoes Yr Ymagwedd Biolegol - Moeseg Niwrowyddoniaeth Flashcards

1
Q

Biolegol Mae niwrowyddoniaeth yn foesegol gan ei bod yn cynnig atebion wrth deall ymwybyddiaeth

A
  • Crick a Koch (1998) = cynnig mae’r ‘claustrum’ (haen fain o niwronau a leolir yng nghanol yr ymennydd) yw gwraidd ymwybyddiaeth, maent yn credu bod y claustrum yn gweithredu fel arweinydd cerddorfa, trwy gyfuno gwybodaeth o ardaloedd penodol o’r ymennydd
  • Koubeissi et al (2014) = menyw 54 oed oedd yn dioddef o epilepsi difrifol = yn ystod profion ar ei hymennydd, cafodd electrod oedd wedi ei osod ger y claustrum ei symbylu’n drydanol ac stopiodd y fenyw darllen, syllodd yn wag ac nid ymatebodd i gyfarwyddiadau gweledol na chlywedol. Pan beidiodd y symbyliad, daeth at ei hun ar unwaith heb unrhyw gof o’r digwyddiad
  • ac felly mae’n gallu fod yn manteisiol wrth wneud penderfyniadau am gleifion sydd mewn cyflwr diymateb parhaol, hynny yw, gellid seilio’r penderfyniad i ddod a’u bywyd i ben ai peidio ar y wybodaeth a ydynt yn dal i fod yn ymwybodol neu beidio
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Biolegol Mae niwrowyddoniaeth yn foesegol gan ei bod yn cynnig atebion wrth trin ymddygiad troseddol

A
  • Chereck et al (2002) = wedi archwilio lefelau o fyrbwylltra ac ymosodedd mewn dynion oedd gyda hanes o anhwylder ymddygiad ac ymddygiad troseddol, roddwyd plasebo i hanner y dynion am 21 diwrnod tra cafodd yr hanner arall paroxetine (gwrthiselydd), dangosodd y rheiny a gafodd paroxetine ostyngiad arwyddocaol mewn ymatebion byrbwyll a lleihad mewn ymosodedd erbyn diwedd yr astudiaeth
  • felly, gallai cynnig triniaethau ffarmacolegol i droseddwyr lleihau aildroseddu a gwneud cymdeithas yn fwy diogel i bawb
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Biolegol Mae niwrowyddoniaeth yn foesegol gan ei bod yn cynnig atebion wrth gwella gweithrediad niwrolegol

A
  • Gellid defnyddio niwrowyddoniaeth i wella galluoedd unigolion ‘normal’, fel gwella perfformiad ar dasgau academaidd cymhleth. Mae ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (transcranial direct current stimulation = TDCS) yn golygu pasio cerrynt trydanol bychan ar ddraws ardaloedd penodol o’r ymennydd
  • Kadosh et al (2012) = TDCS yn arwain at welliannau mewn galluoedd datrys problemau a sgiliau mathemategol, iaith, cof, a thalu sylw
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Biolegol Mae niwrowyddoniaeth yn foesegol gan ei bod yn cynnig atebion wrth gwella technegau marchnata

A
  • cwmni o’r enw Sands Research yn defnyddio ‘niwrofarchnata’ trwy defnyddio offer tracio llygaid wrth cyfweld a pobl wrth dyfeisio hysbyseb hynod llwyddiannus volkswagon.
  • Dywed Doug Van Praet (oedd yn rhan o’r tim creadigol y tu ol i’r hysbyseb yma) fod y hysbyseb wedi cynyddu traffig i wefan VW 50% a chyfrannu at flwyddyn o werthiant hynod o llwyddiannus i’r brand
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Biolegol Nid yw niwrowyddoniaeth yn foesegol wrth deall ymwybyddiaeth

A
  • nifer o goblygiadau e.e.
  • a ddylid tynnu unigolion sydd mewn cyflwr diymateb parhaol oddi ar system cynnal bywyd?
  • a yw’r ffaith fod claf yn anymwybodol ar hyn o bryd yn olygu fod gennym hawl foesol i dynnu gofal yn ol?
  • mae amheuaeth hefyd am gywirdeb y dystiolaeth, gan ei bod wedi ei chasglu o astudiaeth achos ar un ymennydd ‘annnormal’ (person sy’n dioddef o elepsi difrifol)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Biolegol Nid yw niwrowyddoniaeth yn foesegol wrth trin ymddygiad troseddol

A
  • Farah (2004) yn dadlau, os bydd y llysoedd yn defnyddio ymyrraeth niwrolegol, bod hyn yn arwydd o warafun rhyddid unigolyn, rhywbeth sydd heb ei warafun i garcharion, hyd yn oed, yn y gorffennol, h.y. Rhyddid i fod a;ch personoliaeth eich hun ac i feddwl eich meddyliau eich hun
  • (Farah (2004) argues that if the courts use neurological intervention, that this is a sign of a violation of an individual’s freedom, something that has not been prohibited for prisons, even, in the past, i.e. Freedom to be your own personality and to think your own thoughts)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Biolegol Nid yw niwrowyddoniaeth yn foesegol wrth gwella gweithrediad niwrolegol

A
  • Kadosh et al = rhybuddio ynghylch cyfyngiadau moesegol technoleg TDCS
  • yn gyntaf, nid oes hyfforddiant na rheolau trwyddedu ar gyfer ymarferwyr (there are no training or licensing rules against practioners), gallai hyn arwain at weld clinigwyr anghymwys yn achosi niwed i ymennydd cleifio
  • er ei fod yn gymharol rhad, nid yw offer TDCS ar gael i bawb, gallai fod yn anheg i ganiatau i rai unigolion elwa o driniaeth sydd ddim ar gael i bawb
  • Ddylen ni ystyried gwahardd y defnydd o dechnolegau niwro-wella yn yr un modd ag y gwaherddir sylweddau gwella perfformiad mewn chwaraeon? Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig wrth defnyddio\r driniaeth gydag ymennydd ifanc sy’n dal i datblygu
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Biolegol Nid yw niwrowyddoniaeth yn foesegol wrth gwella technegau marchnata

A
  • Nid yw cael mynediad i wybodaeth am hoff dewiiadau ac ymddygiadau defnyddwyr yn rhywbeth newydd, ond, mae gwahaniaeth; mae niwrofarchnata yn golygu cael mynediad i’n meddyliau personol
  • Cred Wilson et al (2008) y bydd integreiddio gwaith ymchwil niwrofarchnata yn fasnachol yn caniatau i hysbysebwyr drosglwyddo negeseuon personol i’r unigolyn, lle caiff ein hewyllys rhydd, o bosibl, ei chamdefnyddio gan y brandiau mawrion. Hynny yw, ydyn ni wir am i gorfforaethau allu cynhyrchu negeseuon marchnata fydd yn diddymu ein gallu i lunio penderfyniadau deallus ynghylch prynu cynnyrch neu beidio?
  • Nelson (2008) = 5% o’r sganiau o’r ymennydd a gofnodwyd gan cwmniau marchnata wedi cynhyrchu ‘cafnyddiadau damweiniol’. Er enghraifft, efallai y bydd ymchwilwyr yn gweld tystiolaeth o diwmor ar yr ymennydd neu ryw broblem arall , ac gan nad yw’r ymchwilwyr yn gweithio am fwrdd penodol fel GIG, nid oes gorfodaeth arnynt i lynu at brotocolau moesegol priodol e.e. Hysbysu’r (notify) person am eu canfyddiadau
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Biolegol goblygiadau moesegol, cymdeithasol ac economaidd o moeseg niwrowyddoniaeth

A
  • Nuffield Trust (2014) = wedi gweld cynnydd yn y nifer o wrthiselyddion sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn ers i’r argyfwng ariannol gychwyn yn 2008
  • Thomas a Morris (2003) = cyfanswm cost iselder mewn oedolion yn lloegr yn unig yn £9.1 biliwn yn 2000
  • gallai niwrowyddonwyr sy’n helpu i drin, neu hyd yn oed iachau, yr anhwylderau hyn arbed biliynau o bunnoedd i economi’r DU
  • mae cyfrifoldeb ar niwrowyddonwyr i sicrhau bod y cymdeithasau y maent yn gweithio ynddynt yn cael eu hysbysbu (notify) am oblygiadau eu gwaith a’u bod yn ymwybodol ohonynt
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly