2.6 - adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig Flashcards
1
Q
adwaith cildroadwy
A
adwaith lle mae’rcynhyrchion yn gallu adweithio i gynhyrchu’radweithyddion gwreiddiol eto
2
Q
amonia
A
- amonia’n cael ei greu o nitrogen a hydrogen drwy’r proses haber
- Nitrogen + Hydrogen ⇌ Amonia
- N2(n) + 3H2(n) ⇌ 2NH3(n)
3
Q
proses haber
A
- tymheredd isel (350-450°C) a gwasgedd uchel (150-200 atmosffer) → cynnyrch uwch
- tymheredd isel yn arafu’r adwaith, felly mae rhy isel yn ddrwg
- gwasgedd rhy uchel yn rhy ddrud
- catalydd haearn yn cael ei ddefnyddio
- adwaith ecsothermig + cildroadwy
- cynnyrch yn cael ei gyfyngu i 15%-40%, gyda’r hydrogen a nitrogen dros ben yn cael ei hailddefnyddio
4
Q
adnabod amonia
A
- wresogi hydoddiant o’r ïonau gyda sodiwm hydrocsid; cynhyrchu nwy amonia.
- nwy amonia yn troi papur litmws llaith o coch i las
- trwy rhyddhau nwy hydrogen clorid oddi wrth asid hydroclorig crynodedig, gall amonia cyfuno hefo’r hydrogen clorid i wneud amoniwm clorid, sy’n ffurfio mwg gwyn
5
Q
proses gyffwrdd
A
- cynhyrchu sylffwr deuocsid (S(s) + O2(n) → SO2(n))
- cynhyrchu sylffwr triocsid (2SO2(n) + O2(n) ⇌ 2SO3(n))
- trawsnewid i fod yn asid sylffwrig (SO3+ H2SO4→ H2S2O7)
6
Q
defnyddiau asid sylffwrig
A
- gwrtaith
- paent
- llifynnau (dyes)
- ffibrau
- plastigion
- glanedyddion
7
Q
dadhydradydd
A
- asid sylffwrig yn ddadhydradydd, sy’n golygu ei fod yn dda iawn am dynnu dŵr o sylweddau eraill
- bydd asid sylffwrig crynodedig yn tynnu moleciwlau dŵr o grisialauglas copr(II) sylffad hydradol ac yn gadael powdrgwyn, sef copr(II) sylffad anhydrus
8
Q
gwrteithiau nitrogenaidd
A
- planhigion angen nitrogen; felly mae cyfansoddion amoniwm yn cael eu ddefnyddio mewn gwrtaith gan ei fod yn cynnwys nitrogen
- gwrteithiau nitrogenaidd yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn effeithiol iawn
9
Q
ewtrofigedd
A
- gwrtaith yn cael ei olchi i nentydd a llynnoedd gan y glaw
- achosi twf algaidd yn y dŵr
- yr algi yn tyfu dros wyneb y ddŵr ac yn rhwystro golau’r haul rhag cyrraedd y bywyd yn y dŵr
- dydy planhigion methu ffotosyntheseiddio ac felly methu cynhyrchu ocsigen
- mae pysgod a bywyd aerobig yn marw o ganlyniad i diffyg ocsigen
10
Q
amoniwm nitrad
A
- cael ei ddefnyddio’n amlaf mewn gwrteithiau ac yn cael ei gynhyrchu trwy niwtralu hydiddiant amonia ag asid nitrig
- NH3(n) + HNO3(d) → NH4NO3(s)
11
Q
amoniwm sylffad
A
- cael ei gynhyrchu gan adwiath niwtralu o hydoddiant amonia ac asid sylffwrig
- NH3(n) + H2SO4(d) → (NH4)2SO4(s)
12
Q
adnabod ionau amoniwm NH4
A
adio hydoddiant sodiwm hydrocsid OH‒ a’i gynhesu → rhyddhau nwy amonia