2.5 - olew crai, tanwyddau a chemeg organig Flashcards
olew crai
- cymysgedd cymhlyg o hydrocarbonau a ffurfiwyd dros filiynau o flynyddoedd o weddillion organebau morol
hydrocarbon
- cyfansoddyn organig sy’n cynnwys hydrogen a carbon yn unig
distyllu ffracsiynnol
y broses o wahanu ‘ffracsiynau’ gwahanol o olew crai er mwyn cael cynhyrchion defnyddiol
beth ydi’r ffracsiynau?
alcanau gyda berwbwyntiau tebyg - nid cemegion pur
beth sy’n digwydd wrth i hyd y cadwyn cynyddu?
- lliw o’r ffracsiwn yn newid; ddi-liw → melyn → brown - mae’n anoddach i danio - mae’n llosgi’n fwy fudr (mwy o allyriadau) - mae’n fwy gludiog
effeithiau economaidd a gwleidyddol y diwydiant olew
- achosi cynhesu byd-eang a glaw asid
- nid yw cyflenwi ynni gan ddefnyddio olew crai yn gynaliadwy yn y tymor hir
- galw cynyddol yn gyrru prisiau i fyny ac yn achosi chwyddiant yn anuniongyrchol
- rhaid i bobl penderfynnu yn y pen draw rhwng llosgi’r cronfeydd olew sy’n weddill a’i ddefnyddio at ddibenion eraill (plastigion a meddyginiaethau)
- diwydiant olew yn creu llawer o swyddi
hylosgi
- adwaith cemegol lle mae sylwedd yn adweithio ag ocsigen, gan gynhyrchu gwres, golau a chynhyrchion newydd
- adwaith ecsothermig
hylosgi hydrocarbonau
- cynhyrchu carbon deuocsid a dŵr
- cyflenwad ocsigen gyfyngiedig yn creu hylosgiad anghyflawn yn cynhyrchu carbon monocsid
- nid yw hylosgiad anghyflawn yn cael ei ddefnyddio hefo tanywddau domestig gan fod carbon monocsid yn wenwynig
mesur egni sy’n cael ei ryddhau gan tanwydd
- mesur y cynnydd yn nhymheredd cyfaint hysbys o ddŵr
- egni sy’n cael ei ryddhau (J) = mas y dŵr sy’n cael ei ryddhau (g) x 4.2 x cynnydd mewn tymheredd (C)
hylosgi hydrogen
- ffurfio dwr yn unig
- hydrogen yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd roced ac mewn celloedd tanwydd hydrogen sydd bellach yn cael eu defnyddio i bweru ceir
y triongl tan
- ocsigen
- gwres
- tanwydd
cael gwared o ocsigen mewn tan
- diffoddwyr tân carbon deuocsid yn disodli ocsigen o amgylch y tân
- blancedi tân yn selio’r tân i mewn ac felly mae’r swm cyfyngiedig o ocsigen yn cael ei ddefnyddio ac yna mae’r tân yn diffodd
- cyfyngu’r ocsigen yw pam caiff drysau eu cau wrth gadael adeilad sydd ar dân
cael gwared o gwres mewn tan
- dŵr yn cael ei harllwys ar ben tân er mwyn cael gwared o wres → mae rhoi dŵr ar ben tanau trydanol yn gallu achosi sioc
- rhoi dŵr ar tanau olew; nid yw’r dŵr yn cymysgu hefo’r olew, ac yn achosi i’r olew ffurfio defnynnau (droplets), sy’n cynyddu’r arwynebedd arwyneb ac felly yn gwneud y tân yn waeth
cael gwared o danwydd mewn tan
- cael gwared ar tanwydd yn cael ei ddefnyddio i atal tanau, trwy ddefnyddio defnyddiau anfflamadwy
- dillad yn cael eu greu i fod yn wrthdan
- adrannau gwrthdan rhwng waliau neu uwchben toeau i atal tân rhag lledaenu
cracio
- gwresogi ffracsiynau sy’n dod o olew crai i dymheredd uchel ym mhresenoldeb catalydd
- achosi i’r moleciwlau hydrocarbon sy’n bresennol ddadelfennu gan ffurfio moleciwlau llai
alcan
- hydrocarbon
- bond sengl carbon
- tirlawn → llawn o hydrogen
- ddim yn adweithiol (iawn)
- fformiwla cyffredinol = CnH2n+2
alcen
- hydrocarbon
- bond dwbl carbon
- anhirlawn → gallu adio hydrogen neu elfennau arall ato
- adweithiol iawn
fformiwla cyffredinol = CnH2n
isomer
alcanau/alcenau gyda’r un fformiwla molecylaidd, ond hefo fformiwla adeiledd wahanol
prawf i ddweud y gwahaniaeth rhwng alcenau ag alcanau
- dŵr bromin yn hydoddiant oren sy’n troi’n ddi-liw wrth cael ei gymysgu hefo alcen
- alcenau’n dadliwio dŵr bromin, ond nid yw alcanau’n gallu ddadliwio dŵr bromin
- dŵr bromin yn cael ei ddefnyddio gan ei fod yn fwy diogel ac yn haws i’w drin na bromin
monomer
bond dwbl
polymer
bond sengl
luniadu hafaliad polymerau
dylai’r llythyren n fynd o flaen y monomer i ddangos bod nifer mawr iawn o fonomerau
poly(propen)
- cael ei ddefnyddio ar gyfer rhaffau a chewyll
- gwrthsefyll crynodiad
poly(finylclorid)
cael ei ddefnyddio ar gyfer pibellau draenio a fframiau ffenestri