Y Fannod Flashcards
Rhestrwch y fannod
Y, Yr, ‘r
Cyn pa eiriau daw y
Cyn gair sydd yn dechrau gyda chytsain
Cyn pa air daw ‘yr’?
O flaen gair sy’n dechrau gyda llafariad
Pryd defnyddir ‘r?
Ar ôl gair sy’n gorffen gyda llafariad
Beth sy’n treiglo’n feddal ar ôl y fannod?
Enw benywaidd unigol
Beth sy’n digwydd i enw benywaidd unigol ar ôl y fannod?
Treiglad meddal
Ydy ‘ll’ a ‘rh’ yn treiglo ar ôl y fannod?
Na
Pa lythrennau sydd ddim yn treiglo ar ôl y fannod?
Ll a Rh
Ydy rhifolion yn treiglo ar ôl y fannod?
Nac ydyn, ag eithrio dau a dwy
Pa trefnolion sy’n treiglo ar ôl y fannod?
Trefnolion benywaidd
Beth yw trefnolion
Cyntaf, Ail, Trydydd…
Beth yw rhifolion?
Un, dau/dwy, tair/tri…
Rhowch y fannod o flaen bwrdd.
Y bwrdd
Rhowch y fannod o flaen cap
Y cap
Rhowch y fannod o flaen llythyr
Y llythyr