Arddodiaid Flashcards
Pa dreiglad sydd ar ôl am, ar, at…?
Treiglad meddal
Pa treiglad sydd ar ôl yn (in)?
Treiglad trwynol
Pa dreiglad sydd ar ôl â, gyda, tua?
Treiglad llaes
rhestrwch yr arddodiaid
am, ar, at, dan, dros, drwy, wrth, hyd, gan, heb, i, o
rhestrwch y llythrennau sydd yn treiglo yn y Gymraeg
P, T, C, B, D, G, Ll, M, Rh
rhestrwch dabl treiglad meddal
P - B
T - D
C - G
B - F
D - Dd
G - /
Ll - L
M - F
Rh - R
rhestrwch dabl treiglad trwynol.
P - Mh
T - Nh
C - Ngh
B - M
D - N
G - Ng
rhestrwch dabl treiglad llaes.
P - Ph
T - Th
C - Ch
Beth mae arddodiaid yn dangos?
y berthynas rhwng gair ac enw neu ragenw sy’n dilyn
 yw’n bosib gorffen brawddeg gydag arddodiad?
Nac ydy, mae’n rhaid rhedeg yr arddodiad hwnnw.
Beth mae’n rhaid rhedeg arddodiad cyn?
Cyn rhagenw
Mae dros _____ o _______ yn byw yma (mil/pobl)
fil, bobl
Ar _________ y flwyddyn bydd profion (diwedd)
ddiwedd
Cerddais at ________ y gwely. (cornel)
gornel
Rhedais i’r ysgol heb __________ fy ffordd. (colli)
golli
Bydd fy nhad yn mynd i __________ (Llangollen).
Langollen
Es i i’r ysgol heb _______. (côt)
gôt
Mae rhywun o ___________ yma. (Caernarfon)
Gaernarfon
Rydw i’n siarad am ___________ Siôn. (brawd)
frawd
Pa arddodiad sydd yn dilyn ‘edrych’?
am
Pa arddodiad sydd yn dilyn ‘sôn’?
sôn am
Pa arddodiad sydd yn dilyn ‘gweiddi’?
gweiddi ar
Pa arddodiad sydd yn dilyn ‘ysgrifennu’?
ysgrifennu at
Wyt ti eisiau siarad ͏͏͏____ fi?
â