berfau Flashcards
Pa fath o ferf yw ‘rhedais’?
Berf gryno
Pa fath o ferf yw ‘mae hi’n cerdded’?
Berf cwmpasog
Nodwch berf cwmpasog a berf gryno ‘rhedeg’ person cyntaf unigol
berf cwmpasog - rydw i’n rhedeg
berf gryno - rhedais
Nodwch beth yw gwrthrych yng nghyd-destun berfau
y BETH
Nodwch beth yw goddrych yng nghyd-destun berfau
y PWY
Beth yw’r rheol:
Gwrthrych berf gryno bersonol
treiglad meddal
Beth yw’r rheol:
Gwrthrych berf amhersonol
dim treiglad
Beth yw’r rheol:
Goddyrch berf amhersonol
dim treiglad
Beth yw’r rheol:
Gwrthrych berf ar ól sangiad
treiglad meddal
Beth yw sangiad?
darn yng nghanol brawddeg, mae’r brawddeg yn gallu gwneud synnwyr hebddo.
Cefais ________ pan welais y papur arholiad. BRAW
fraw
mae gwrthrych berf gryno personol yn treiglo’n feddal.
Rhoddwyd ________ ‘r prawf ar y wal. CANLYNIADAU
canlyniadau
nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.
Rhedodd ________ ar draws yr heol. DAFAD
dafad
nid yw goddrych berf gryno bersonol yn treiglo.
Rhoddaf ______ iddo pan ddaw e draw at ein bwrdd. CUSAN
gusan
mae gwrthrych berf gryno bersonol yn treiglo’n feddal.
Ysgrifennwyd, yn ol yr hanes, _____ lyfr am y digwyddiad.
ddau
mae gwrthrych berf yn treiglo’n feddal ar ol sangiad