Uned 2 Adran A - Cymru ar y teledu Flashcards
Pa chyfres a bennod o Gavin a Stacey ydych wedi astudio?
cyfres 3 pennod 5
Beth sy’n digwydd yn y bennod?
- dwy teulu yn mynd i’r traeth
- pawb yn mynd arno’r reids
- pawb yn mynd adref i gael BBQ
Pwy yw’r brif gymeriadau?
Gavin a Stacey
Pwy yw’r is-gymeriadau?
- Smithy
- Nessa
- Pam
- Mick
- Dave
- Doris
- Bryn
Cynulleidfa Targed
- Pobl sy’n mwynhau’r diwylliant cymraeg
- unrhyw rhyw
- pobl oedran 12+
- unrhywun sy’n mwynhau comedi sefyllfa
Pa genre yw Gavin a Stacey?
Comedi Sefyllfa (Sitcom)
Pa is-genres ydy Gavin a Stacey yn cynnwys?
- Rhamant
- Drama
Beth yw’r Damcaniaeth Genre gan Steve Neale?
Yn ôl Steve Neale mae genre yn datblygu a newid dros amser ac yn parhau i fod yn boblogaeth oherwydd beth maen nhw’n cynnig i gynulleidfa.
Mae angen i genres newid disgwyliadau ac addasi i aros yn gyfoes a ffres ac i beidio diflasu.
Beth yw’r Damcaniaeth Propp?
Mae Propp yn dadlau bod naratifau traddodiadol yn cynnwys saith math cyffredin o gymeriad, h.y.
Anfonwr
Arwr
Helpwr
Rhoddwr
Negesydd
Dihiryn (villain)
Tywysoges/ gwobr
Pa math o gymeriad yw Gavin?
Arwr
oherwydd Yn y gegin ar y diwedd mae’n dweud wrth Stacey y byddan nhw’n gosod dyddiad ac yn aros i weld a ydyn nhw’n beichiogi. Mae’n sensitif ac yn dod â nhw’n agosach at ei gilydd.
Pa fath o gymeriad yw Stacey?
Tywysoges / Helpwr
Tywysoges = y golygfeydd traeth, rydyn ni ond yn gweld stacey pan mae Gavin yn ymweld a hi, fel bod hi’n wobr i Gavin.
Helpwr = y golygfa gegin, rhoi cymorth i Gavin ac yn tawelu ei meddwl wrth dweud fod yna gobaith iddo nhw cael babi.
Pa fath o gymeriad yw Nessa?
Tywysoges / Negesydd
Pa fath o gymeriad yw Smithy?
Negesydd / helpwr
Pa fath o gymeriad yw Gwen?
Helpwr
Pa fath o gymeriad yw Bryn?
Negesydd
Pa fath o gymeriad yw Doris
Negesydd
Pa fath o gymeriad yw DIck Powell?
Anfonwr
Pa effaith mae bratiaith a thafodiaith yn cael ar y gynulleidfa?
Gallu cydymdeimlo a’r cymeriadau oherwydd mae nhw’n defnyddio’r un iaith a rydyn ni’n defnyddio o ddydd i ddydd. Mae’n fel petai nid ydyn nhw’n dilyn script, ac mae hwnna’n gallu rhoi teimlad ymlaciol i’r cynulleidfa oherwydd mae nhw’n defnyddio geiriau cryno, syml, ac ymadroddau bachog.
Beth yw’r Damcaniaeth Defnydd a Boddhad?
Mae defnyddwyr cyfryngau yn dewis mathau o gyfryngau sy’n diwallu un neu fwy o’r anghenion hyn:
-hysbysu a’u haddysgu
- uniaethu â chymeriad, syniadau a sefyllfaoedd
- defnyddio’r cyfryngau fel pwynt siarad
-ddianc o’u malu dyddiol i fydoedd neu ryngweithiadau eraill
Sut mae Gwyliadwriaeth (addysg) yn cysylltu i Gavin a Stacey?
Mae Gavin a Stacey yn trafod diwylliant Cymru yn aml iawn, ac felly mae pobl sydd eisiau gwybod mwy am Gymru yn gallu ei wylio.
Sut mae Hunaniaeth Bersonol (Uniaethu) yn gysylltu i Gavin a Stacey?
Mae pobl sydd a phroblemau’n cael plant yn gallu uniaethu a Gavin a Stacey oherwydd mae’r problem yn un difrifol a phoblogaidd. Hefyd, mae pobl sy’n byw yng Nghymru yn gallu ei wylio os mae nhw eisiau weld lleoliadau cyfarwydd iddyn nhw.
Sut mae Perthnasau bersonol (Social Interactions) yn cysylltu i Gavin a Stacey?
Mae Gavin and Stacey yn rhaglen sy’n dangos bywydau arferol pobl o ddydd i ddydd, oherwydd hyn, gall y gynulleidfa deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn sgyrsiau ac ati. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o jôcs / comedi, felly pan fydd y gynulleidfa’n chwerthin , maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n ymwneud â’r cymeriadau.
Sut mae Dargyfeirio (escape) yn cysylltu i Gavin a Stacey?
Mae’r lliwiau llachar a’r effeithiau sain ar y traeth yn dargyfeirio’r cynulleidfa i fyd ffuglen newydd sbon fel bod ganddo nhw saib o’i fywydau arferol. Mae’r hiwmor hefyd yn adloni’r cynulleidfa.