Codau Technegol Flashcards
SAETHIAD AGOS
SAETHIAD O BEN AC YSGWYDDAU I GYFLEU EMOSIWN NEU YMATEB
MISE EN SCENE
Y TERM FFRANGEG A DDEFNYDDIR AR GYFER “POPETH O FEWN FFRAM”
SAETHIAD SEFYDLU
SAETHIAD HIR IAWN SY’N CAEL EI DDEFNYDDIO I DDANGOS BLE YDYN NI, YN AML DEFNYDDIR FEL SAETHIAD AGORIADOL
SAETHIAD ONGL UCHEL
MAE’R CAMERA’N EDRYCH I LAWR AR YR OLYGFA, GAN AWGRYMU GWENDID
SAETHIAD HIR/ PELL
SAETHIAD SY’N CYNNWYS FFIGYRAU POBL AR EU HYD O BELLTER
SAETHIAD ONGL ISEL
MAE’R CAMERA’N EDRYCH I FYNY AR YR OLYGFA NEU’R CYMERIAD, GAN AWGRYMU GORUCHAFIAETH NEU BŴER
SAETHIAD CANOLIG
SAETHIAD SY’N DANGOS Y CYMERIADAU O’R WASG I FYNY
SAETHIAD-GWRTH-SAETHIAD
DEFNYDDIO GYDA SGYRSIAU, Y CAMERA YN NEWID O UN PERSON I’R LLALL AC YN ÔL ETO
SAETHIAD TROS YSGWYDD
YN AML DEFNYDDIR WRTH SGWRSIO - MAE’R CAMERA’N CAEL EI OSOD TU ÔL I’R CYMERIAD, GAN EDRYCH AR Y LLALL
SAETHIAD TREM ADERYN
SAETHIAD O UCHDER YN EDRYCH I LAWR O’R AWYR
PYLU
GOLYGU LLE BYDD Y LLUN YN PYLU’N RADDOL I DDU NEU WYN
SAIN GYNEFIN
Y MATH O SŴN SY’N DIGWYDD YN NATURIOL O FEWN STORI’R FFILM
SAIN ANGHYNEFIN
SAIN SY’N CAEL EI AROSOD AR Y FFILM E.E. TRAC SAIN GERDDOROL
PONT SAIN
SAIN SY’N PARHAU DROS OLYGIAD, GAN GREU LINC RHWNG GOLYGFEYDD