Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) - Gwybyddol Flashcards
1
Q
Yr elfen gwybyddol
A
- Therapydd yn gweithio gyda’r cleient i adnabod y meddyliau negyddol sy’n cyfrannu at ei problemau
- Ffocysu ar newid meddyliau afresymol i fod yn resymol
2
Q
Yr elfen ymddygiadol
A
- Edrych ar ymddygiad sy’n cael effaith ar fywyd y cleient
- Gallu newid ymddygiad o fod yn annymunol i fod yn ddymunol drwy ddefnyddio dulliau gwobrwyo, defnyddio modelau i fodelu ymddygiad dymunol a gosod gwaith cartref ymddygiadol
3
Q
Perthynas rhwng therapydd a chleient
A
- Angen agor fyny gyda’r therapydd
- Angen teimlo’n saff yn ei bresennoldeb
4
Q
Dyddiadur camfeddyliau
A
- Gwaith cartref ymddygiadol
- Cleient angen cadw cofnod o’r digwyddiadau sy’n arwain at meddyliau ac emosiynau negyddol a graddio faint roedd nhw’n credu yn y meddyliau yma (0%-100%)
- Angen llunio ymateb rhesymegol a nodi maint eu cred eto ar ffurf canran
- Ail-nodi canran eu cred yn y meddyliau awtomatig
5
Q
Ailstrwythuro gwybyddol
A
- Therapydd yn gofyn cwestiynau i herio’r meddyliau afresymol
- Hyn yn cynnig i’r cleient darganfod ffyrdd newydd o ymddwyn
6
Q
Amserlennu gweithgareddau pleserus
A
- Cynnwys gofyn i’r cleient i gynllunio gweithgaredd pleserus pob diwrnod
7
Q
Ewyllys Rhydd
A
-Therapi yn galluogi i gleientiaid ddatblygu strategaethau ymdopi eu hunain
- Cydnabod ewyllys rhydd
8
Q
Goblygiadau Moesegol
A
- Pwy sy’n barnu ein meddyliau afresymol
- Niwed seicolegol yn cael ei greu wrth drafod problemau. Hunan barch yn cael ei ddinistro
- Anwybyddu digwyddiadau bywyd ni all y cleient ei reoli e.e. problemau teuluol
9
Q
Effeithiolrwydd
A
- David ac Avellino (2003) - CBT gyda’r cyfradd llwyddiant uchaf o’r holl therapiau
- Jarret et al (1999) - CBT mor effeithiol a cyffuriau gwrth-iselder
- Wampold et al (2002) - Therapi yn cael ei gymharu gyda therapiau sydd ddim gyda tystiolaeth eu bod nhw’n effeithiol
- Hollon et al (1992) - Doedd dim gwahaniaeth rhwng CBT a math o gyffur gwrth-iselder
10
Q
Gwahaniaethau unigolyn
A
- CBT yn fwy addas i rai nag eraill
- Llai effeithiol ar bobl gyda nifer uchel o gredoau afresymol