Dadsensiteiddio Systematig - Ymddygiadol Flashcards
Gwrthgyflyru
Dad-ddysgu y cysylltiad rhwng y stimiwlws ac yr ymateb
Sut mae ffobia yn dod o gwmpas?
Pan mae unigolyn wedi cael profiad drwg gyda’r ysgogiad sydd yn creu ofn. Ymateb cyflyrol
Beth yw nod dadsensiteiddio systematig?
Ceisio lleihau yr ymateb cyflyrol drwy ei adleoli gyda ymateb gwahanol e.e. ymlacio
Ataliad cilyddol
Anodd i ni brofi dau stad o emosiwn ar yr un pryd
Hierarchaeth pryder
Camau bach o rydym ni’n ni’n gallu dygymod efo
Pwy dyluniodd y therapi?
Joseph Wolpe
Masserman (1943)
- Creu ffobia mewn cathod drwy rhoi sioc trydanol iddynt pan mae nhw mewn bocs
- Cath yn dechrau dangos pryder eithafol pan rhoddwyd o yn y bocs
- Pryder yn dechrau diflannu yn y diwedd oherwydd bod nhw’n dechrau cael ei bwydo yn y bocs
Ofn camaddasiadol
Ofni rhwybeth sydd ddim yn gwneud niwed i ni
1) Dysgu sut i ymlacio
- Dysgu technegau ymlacio
- Dysgu sut i ymlacio cyhyrau yn llwyr
2) Creu hierarchaeth pryder
- Therapydd yn cytuno ar hierarchaeth dadsensiteiddio gyda’r claf
- Dilyniant graddedig o stimiwli ofnus
- Cynyddu mewn pryder o leiafrif o ofn i’r mwyafrif o ofn
3) Gweithio fyny’r hierarchaeth pryder
- Claf yn mynd fyny lefelau’r hierarchaeth yn araf
- Os ydi claf yn profi unrhyw trallod, byddent yn mynd yn ol i’r stimiwlws blaenorol
- Claf yn cwblhau cam ar yr hierarchaeth mewn stad o ymlaciad, maent yn barod i symud i’r cam nesaf
4) Claf yn meistrioli’r sefyllfa maent yn ofni
- Amcan - Claf mewn stad o ymlaciad pan maent yn dod wyneb yn wyneb a’u ffobia
- Dadsensiteiddio systematig wedi cael ei gyflawni
In vitro
Cleient yn dychmygu’r amlygiad i’r stimiwli ofnus. Mwy moesegol
In vivo
Cleient yn cael ei amlygu i’r stimiwli ofnus
Menzies a Clark (1993)
Technegau in vivo yn fwy llwyddiannus na rhai in vitro