profion carbohydradau Flashcards
sut ydych yn profi am sigrau rhydwythol
- Cymysgwch yr hydoddiant prawf â’r un cyfaint o adweithydd Benedict.
- Gwresogwch y cymysgedd mewn baddon dŵr nes ei fod rhwng 70oC a 90oC am
5 munud. - arsylwi newid lliw o las i frown ar graddfa o faint mor crynodedig yw’r siwgr
beth sy’n achosi y newid lliw mewn profi siwgrau rhydwythol
cu2+ glas yn troi yn cu+ coch gan gael electron o’r siwgr rhydwythol
sut ydych yn profi am siwgrau anrhydwythol gan ei hydrolysu
Cymysgwch 2cm3 o’r hydoddiant prawf â’r un cyfaint o adweithydd Benedict.
2. Gwresogwch y cymysgedd mewn baddon nes ei fod rhwng 70oC a 90oC.
3. Arsylwch y newid lliw a’i gofnodi.
4. Rhowch 2 cm3 arall o’r hydoddiant prawf mewn tiwb berwi, ychwanegwch 2 ddiferyn o asid
hydroclorig a’i wresogi mewn baddon dŵr nes ei fod rhwng 70oC a 90 oC am 2 funud.
5. Ychwanegwch 2 ddiferyn o sodiwm hydrocsid/ sbatwla bach o sodiwm deucarbonad.
6. Ychwanegwch 2 cm3 o adweithydd Benedict.
7. Gwresogwch y cymysgedd mewn baddon dŵr nes ei fod rhwng 70°C a 90 oC am 5 munud.
8. Cofnodwch eich arsylwadau.
sut ydych yn profi am siwgrau anrhydwythol drwy defnyddio ensymau
- ychwanegu 2cm3 o’r hydoddiant, ychwanegwch ddau ddiferyn or ensym swcras. Mae swcras yn cael ei gyflenwi
fel hylif, felly mae’r unedaun diferu. - Gadewch ar dymheredd ystafell am 5 munud.
- Ychwanegu 2cm3 o adweithydd Benedict.
- Dorwch ar 70-100° (am 10 munud.)
- Os yw glas adweithydd y Benedict wedi newid lliw, mae siwgr rhydwytho wedii gynhyrchu gan y swcras.
sut ydych yn profi am proteinau
- Cymysgwch 2 cm3 o’r hydoddiant prawf â 2 cm3 o adweithydd biwret mewn tiwb berwi.
- Gorchuddiwch dop y tiwb berwi a’i droi a’i ben i lawr unwaith.
3.troi glas i piws
sut ydych yn profi am starch
Cymysgwch 2 cm3 o’r hydoddiant prawf â 2 ddiferyn o ïodin mewn hydoddiant potasiwm ïodid.
2. Cofnodwch y newid lliw brown i du las
sut ydych yn profi am brasterau ac olewau
Cymysgwch y braster neu olew â 5 cm3 o alcohol pur mewn tiwb profi.
2. Ysgwydwch y tiwb.
3. Arllwyswch y cymysgedd i diwb berwi arall sy’n hanner llawn o ddŵr oer.
4.emulsiwn gwyn yn ffurfio ar y top