Prif Tybiaethau Ymddygiadol Flashcards
Tabula rasa
Llechen lan yn Lladin
Llechen lan
Y gred bod unigolion yn cael eu geni gyda meddwl agored a bod magwraeth yn datblygu credoau ac agweddau ar bersonoliaeth
Beth mae John B. Watson a John Locke yn ei gredu?
Bod pawb yn gyfartal ar ol genedigaeth, ac mai ffactorau amgylcheddol sy’n siapio ni
Beth yw cyflyru clasurol?
Dysgu ymddygiad drwy cysylltiad
Esiampl Seicoleg - Cyflyru Clasurol
Ci Pavlov
Ci Pavlov - Camau
- I ddechrau, roedd Pavlov yn cyflwyno bwyd (US) i’r cŵn oedd yna yn gwneud i’r ci ddechrau glafoerio.
- Yna wnaeth Pavlov gyflwyno’r gloch (NS) a doedd yna ddim ymateb.
- Dechreuodd Pavlov gyflwyno’r bwyd yr un pryd â chyflwyno’r gloch, oedd yn achosi’r ci i glafoerio
- Erbyn y diwedd, roedd y ci yn dechrau cysylltu sŵn y gloch (CS) gyda bwyd (CR). Felly pan oedd yr anifail yn cllywed sŵn y gloch yn canu, roedd o’n dechrau glafoerio (UR)
Beth yw cyflyru gweithredol?
Ymddygiad yn cael ei ddysgu drwy ddefnyddio cosb ac atgyfnerthiad
Beth yw atgyfnerthiad positif?
Ymddygiad sy’n cael effaith da sy’n achosi’r ymddygiad i gael ei ailadrodd
Beth yw atgyfnerthiad negatif?
Ymddygiad sy’n cael effaith da oherwydd mae’n golygu ein bod ni’n osgoi rhywbeth drwg
Beth yw cosb?
Ymddygiad sy’n cael effaith drwg
Esiampl Seicoleg - Cyflyru Gweithredol
Bocs Skinner
Anifail (llygoden fawr neu colomen) yn pwyso’r lifer oedd yn rhoi bwyd yn ddamweiniol
- Skinner yn sylwi wrth iddynt dod i ddeall bod yna fwyd ar gael iddynt, dechreuodd yr anifail bwyso’r lifer yn fwy aml
- Yr enw am hyn yw atgyfnerthiad positif.
Bocs Skinner
Bocs mecanyddol oedd gyda’r gallu i berfformio amrywiaeth o ymatebion
Esiampl - Bodau dynol ac anifeiliaid yn dysgu mewn ffyrdd tebyg
Ci yn cysylltu sŵn y gloch gyda bwyd - Pavlov
Bodau dynol - Cysylltu sŵn gloch yn yr ysgol gyda’r ffaith bod hi’n amser i fynd yn ôl i’r wers.