Prif Tybiaethau Gwybyddol Flashcards
1) Prosesau mewnol y meddwl
Canolbwyntio ar sut mae ein meddwl yn gwneud synnwyr o’r amgylchedd. Defnyddio prosesau canfyddiad, sylw, cof ac iaith
Canfyddiad
Gwneud synnwyr o wybodaeth yr amgylchedd
Sylw
Canolbwyntio ar ffynonellau penodol o wybodaeth a chynnal y ffocws yma
Cof
Proses ble fyddwn yn cofio/adalw gwybodaeth. Heb y cof, ni allwn cofio dim
Esiampl Seicoleg P.M.M
Griffiths (1994)
- Ymchwilio fewn i brosesau mewnol y meddwl unigolyn sy’n gamblo drwy ddefnyddio mewnsylliad
- Canlyniadau yn dangos bod unigolyn sy’n gamblo yn defnyddio brawddegau afresymol e.e. ‘Mae’r peiriant yn fy hoffi’
Mewnsylliad
Arsylwi neu archwiliad o gyflwr meddyliol ac emosiynau eich hunain ; y weithred o edrych tu fewn eich hunain
2) Sgemau
Clwstwr o ffeithiau cysylltiedig sy’n seiliedig ar brofiad blaenorol.
Cael ei ddefnyddio i gynhyrchu disgwyliadau yn y dyfodol - gallu bod yn stereoteip
Esiampl Seicoleg Sgemau
Triad Negyddol Beck - Gwelediad negyddol o ni’n hunain, y byd a’r dyfodol
e.e. Y byd - Mae pawb yn meddwl fy mod i’n ddiwerth
Y dyfodol - Byddai byth yn dda ar bob dim
Fy hun - Dwi’n ddiwerth
3) Cymharu’r meddwl i gyfrifiadur
Cyfrifiadur wedi cael ei ddatblygu yn y 1950au, tua’r un amser cafodd yr ymagwedd ei ddarganfod
Seicolegwyr yn credu bod ein meddwl yn prosesu gwybodaeth fel cyfrifiadur
Mewnbwn
Gwybodaeth gan synhwyrau
Proses
Ffurf o gof, meddwl ac iaith
Allbwn
Ffurf o wneud penderfyniadau llafar a gweithredol
Esiampl Seicoleg C.M.I.C
Model Aml Stor Atkinson a Shiffren (1968) - Mae ein meddwl, fel cyfrifiadur, yn prosesu gwybodaeth drwy ddefnyddio mewnbwn, proses ac allbwn
Enghraifft
Ein meddwl - Gweld glaw, meddwl beth i wisgo, gwisgo
Cyfrifiadur - Teipio ar Google, prosesu’r gwybodaeth mae’n rhoi i ni, y canlyniadau