Pennod 2 - Atgenhedlu Rhywiol Mewn Planhigion Flashcards
Disgrifiwch adeiledd ffa (Vicia faba)
Mae’n ddeugotyledonaidd ac felly mae ganddynt ddwy o’r dail hedyn neu gotyledonau sy’n amsugno’r storfa bwyd neu’r endosberm. Mae cynwreiddyn yn ffurfio’r gwreiddyn, ac mae’r cyneginyn yn ffurfio’r cyffyn
Diffiniwch ymagor
Agor yr antheri i ryddhau gronynnau paill
Eglurwch pam mae hunanbeilliad yn arwain at lai o amrywiad genynnol
Oherwydd dim ond mwtaniadau, rhydd-dosraniad a thrawsgroesi sy’n gallu achosi amrywiad genynnol
Eglurwch bwysigrwydd gwasgaru hadau
Mae’n galluogi eginblanhigion i egni i ffwrdd o’r rhiant-blanhigyn ac felly’n lleihau cystadleuaeth am adnoddau
Nodwch ofynion angenrheidiol ar gyfer eginiad y ffeuen (vicia faba)
1) Tymheredd optimwm ar gyfer actifedd ensymau
2) Dwr i symud ensymau a chludo cynhyrchion i fannau sy’n tyfu
3) Ocsigen ar gyfer resbiradaeth aerobig i gynhyrchu ATP ar gyfer prosesau celloedd fel synthesis proteinau
Diffiniwch brotandredd
Y brigerau’n aeddfedu cyn y stigmau
Nodwch y dulliau gwasgaru hadau gan enghreifftio
1) Gwynt - hadau dant y llew
2) Dwr - cnau coco
3) Anifeiliaid, yn sownd yn eu ffwr - cyngaf (burdock)
4) Anifeiliad, bwyta’r ffrwythau ac yn carthu’r hadau - ceirios
Heblaw am leihad mewn amrywiad genynnol, beth yw’r anfantais genynnol arall sy’n gysylltiedig ag hunanbeilliad?
Mwy o risg y bydd alelau enciliol niweidiol yn dod at ei gilydd
Disgrifiwch adeiledd blodyn sy’n cael ei beillio gan bryfed
1) Petalau mawr lliwgar, arogl a neithdar i ddenu peillwyr fel pryfed
2) Antheri y tu mewn i’r blodyn sy’n trosglwyddo paill i bryfed wrth iddynt fwydo ar neithdar
3) Stigma y tu mewn i’r blodyn i gasglu paill oddi ar bryfed wrth iddynt fwydo ar neithdar
4) Symiau bach o baill gludiog gyda gwaed garw i lynu wrth bryfyn
Eglurwch y newidiadau i’r mas sych y cotyledonau a’r cyfanswm mas yr hedyn yn ystod eginiad
Mae mas sych y cotyledonau’n lleihau gan fod cronfeydd bwyd yn cael eu defnyddio ar gyfer twf yr embryo. Mae cyfanswm mas yr hedyn yn lleihau i ddechrau, nes bod y cyneginyn yn gallu dechrau cyflawni ffotosynthesis
Rhowch air arall am blanhigion blodeuol
Angiosbermau
Disgrifiwch ddatblygiad y gamet benywol
Mae’r ofwlau yn cynnyws mamgell megasbor sy’n cyflawni meiosis i gynhyrchu pedair cell haploid; dim ond un o’r rhain sy’n datblygu ymhellach. Mae’n cynhyrchu wyth cell haploid ar ol tri rhaniad mitotig. Mae dwy o’r celloedd hyn yn asio i gynhyrchu cnewyllyn polar diploid, gan adael chwe chell haploid; 3 cell antipodaidd, 2 synergid ac 1 oosffer, sydd i gyd y tu mewn i’r goden embryo sydd wedi’i hamgylchynu gyda’r pilynnau
Disgrifiwch eginiad y ffeuen (vicia faba)
1) Mae’r hedyn yn amsugno dwr, gan achosi i’r meinweoedd chwyddo yn ogystal a symud yr ensymau
2) Mae’r hadgroen (cot y hedyn) yn rhwygo, mae’r cynwreiddyn yn gwthio drwodd yn gyntaf tuag i lawr, ac yna’r cyneginyn tuag i fyny
3) Mae ensym amylas yn hydrolysu startsh i ffurfio maltos sy’n cael ei gludo i’r rhannu o’r planhigyn sy’n tyfu i’w ddefnyddio yn ystod resbiradaeth
4) Yn ystod eginiad, mae’r cotyledonau’n aros dan ddaear
5) Mae’r cyneginyn yn plygu i siap bachyn fel nad yw’r blaen yn cael ei niweidio drwy grafu yn erbyn pridd
6) Pan mae’r cyneginyn yn dod allan o’r pridd, mae’n sythu ac yn dechrau cynhyrchu glwcos drwy gyflawni ffotosynthesis achos mae’r cronfeydd bwyd yn y cotyledonau nawr wedi’u disbyddu
Diffiniwch beilliad
Trosglwyddo paill o anther un blodyn i stigma aeddfed blodyn arall o’r un rhywogaeth