Opsiwn A: Imiwnoleg a Chlefydau Flashcards
Diffiniwch endemig
Clefyd sy’n digwydd yn aml, ar gyfradd rydym ni’n gallu rhagfynegi, mewn lleoliad neu boblogaeth benodol
Diffiniwch docsin
Moleciwl bach sy’n cael ei wneud mewn celloedd neu organebau, sy’n achosi clefyd ar ol dod i gysylltiad ag ef neu ei amsugno. Mae tocsinau’n aml yn effeithio ar facromoleciwlau megis ensymau, derbynyddion arwyneb cell
Diffiniwch gludydd
Unigolyn neu organeb arall sydd wedi’i heintio, sydd ddim yn dangos unrhyw symptomau ond sy’n gallu heintio eraill
Diffiniwch gronfa clefyd
Organeb letyol tymor hir pathogen, sydd heb lawer o symptomau neu ddim symptomau, sydd bob amser yn ffynhonnell bosibl i gychwyn clefyd
Diffiniwch haint
Clefyd sy’n gallu cael ei drosglwyddo, yn aml drwy fewnanadlu, llyncu neu gyffyrddiad corfforol
Diffiniwch fath antigenig
Unigolion gwahanol o’r un rhywogaeth bathenogenaidd gyda gwahanol broteinau ar eu harwynebau, sy’n arwain at gynhyrchu gwrthgyrff gwahanol
Diffiniwch epidemig
Clefyd heintus yn lledaenu’n gyflym i nifer mawr o bobl o fewn cyfnod byr
Diffiniwch bandemig
Epidemig dros ardal eang iawn, sy’n croesi ffiniau rhyngwladol ac yn effeithio ar nifer mawr iawn o bobl
Diffiniwch antigen
Moleciwl sy’n achosi i’r system imiwnedd gynhyrchu gwrthgyrff yn ei erbyn. Mae antigenau’n cynnwys moleciwlau unigol a moleciwlau ar firysau, bacteria, sborau neu ronynnau paill. Maen nhw’n gallu ffurfio y tu mewn i’r corff, e.e. tocsinau bacteria
Diffiniwch fector
Unigolyn, anifail neu ficrob sy’n cludo pathogen heintus ac yn ei drosglwyddo i organeb fyw arall
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd colera
- Yn cael ei achosi gan y bacteriwm gram negatif Vibrio Cholera
- Mae’n endemig mewn rhai rhannau o’r byd
Symptomau:
- Mae’r bacteria’n rhyddhau tocsin sy’n achosi rhydd dyfrlyd a ddiffyg hylif
Trosglwyddiad:
- Heintiad o ganlyniad i fwyta neu yfed bwyd/diod sydd wedi’i halogi
- Mae’r bobl heintus yn cludyddion ac yn ymddwyn fel cronfeydd i’r clefyd
Triniaeth:
- Rhoi dwr glan ac electrolytau
- Trin yr haint gyda gwrthfiotigau
- Gall atal y clefyd trwy gael carthffosiaeth well a thrin dwr yn well
- Golchi dwylo
- Mae brechlyn ar gael
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd twbercwlosis (TB)
- Y basilws Mycobacteriwm tuberculosis yn ei achosi
Symptomau:
- Mae celloedd yn yr ysgyfaint yn cael eu niweidio, gan ffurfio tiwbercylau neu gnepynnau
- Poen yn y frest, gwaed yn y poer, tywmyn
- Gallu bod yn angheuol heb driniaeth o ganlyniad i’r niwed difrifol i’r ysgyfaint
Trosglwyddiad:
- Mewnanadlu defnynnau dwr o besychu a thisian pobl wedi’u heintio
Triniaeth:
- Cwrs hir (6 mis) o wrthfiotigau, ond mae rhai rhywogaethau’n dangos ymwrthedd iddynt
- Brechlyn BCG ar gael; yn cynnwys math gwanedig o’r bacteriwm sy’n perthyn, sef M. bovis
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd brech wen
- Yn cael ei achosi gan y firws Variola major
Symptomau:
- Achois haint a phoenm gyda brech a phothelli llawn hylif
- Gallu achois dallineb ac achois anffurfiadau i’w haelodau (limb deformities)
Trosglwyddiad:
- Yn mynd i’r pibellau gwaed bach yn y croen a’r geg, ac mae’n lledaenu o gwmpas y corff yn gyflym
Triniaeth:
- Cyffuriau lleddfu poen a therapi cyflenwi hylif
- Gwrthfiotigau
- O ganlyniad i frechlyn wedi’u wneud o’r firws Vaccina cafodd y frech wen ei dileu’n llwyr erbyn 1979
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y ffliw
- Tri is-grwp i firws ffliw, sy’n cynnwys firysau gyda mathau antigenig gwahanol
- Nid yw’r system imiwn yn gallu amddiffyn rhag pob math o’r ffliw gan arwain at epidemigau
- Pandemig yn bosibl (Sbaen, 1918-20, laddodd dros 50 miliwn o bobl ledled y byd)
Symptomau:
- Ymosod ar y pilenni mwcaidd yn y rhan uchaf y llwybr resbiradu gan achosi twymyn, dolur gwddf a pheswch
Trosglwyddiad:
- Mewn defnynnau o bresychu a thisian
Triniaeth:
- Golchi dwylo, defnyddio hancesi papur wrth disian a phesychu
- Brechlynnau’n cael peth effaith, gan dibynnu ar i ba raddau mae’r antigenau firaol wedi mwtanu
- Cyffuriau gwrth-firaol megis Tamiflu
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd malaria
- Yn cael ei achosi gan y parasit protoctistaidd Plasmodium falciparum a Plasmodium vivax
- Y mosgito benywol yn fector wrth fwydo ar waed
- Endemig mewn rhai ardaloedd istrofannol
- Epidemig yn ystod y tymhorau gwlyb
Symptomau:
- Celloedd coch yn byrstio, achosi twymyn
Trosglwyddiad:
- Mosgito benywol yn bwydo ar waed dynol
- Y parasit yn mynd i’r afu lle mae’n datblygu cyn cael ei ryddhau i heintio celloedd coch y gwaed ac achosi iddynt fyrstio
Triniaeth:
- Amrywiad o gyffuriau / cyfuniadau o gyffuriau
- Atal trwy ddefnyddio ymlidyddion mosgitos a rhwydni gwely gyda phryfleiddiad ynddynt
- Draenio dwr llonydd lle mae mosgitos yn dodwy eu hwyau
- Rhyddhau mosgitos gwrywol anffrwythlon
- Cyflywno pysgod sy’n bwyta larfau mosgitos
Diffiniwch wrthfiotig
Meddygiaeth sy’n atal twf bacteria neu’n eu dinistrio nhw
Diffiniwch firws
Parasit mewngellol sy’n defnyddio llwybrau metabolaidd y gell letyol i atgynhyrchu