pellter, buanedd a chyflymiad Flashcards
beth mae cyfeiriad symud yn gallu dangos?
Cyferiad symud yn dangos y gwahaniaeth rhwng mesur sgalar a fector- sydd y gwahaniaeth rhwng buanedd a chyflymder gwrthrych.
beth mae grymoedd yn gallu gwneud?
Mae grymoedd yn gallu newid safle, siap neu fudiant gwrthrych a gall wneud i wrthrych newid cyfeiriad neu arafu/cyflymu.
beth yw buanedd a’r hafaliad?
mesur pa mor gyflym mae rhywbeth yn teithio.
buanedd = pellter/amser.
beth yw sgalar?
Sgalar = buanedd felly cyfeiriad ddim yn bwysig.
beth yw fector?
Fector = cyflymiad felly cyfeiriad yn bwysig.
beth yw cyflymiad?
Os yw cyflymder y gwrthrych yn newid, mae’n cyflymu.
Cyflymiad = newid cyflymder bob eiliad.
Pa ffactorau sy’n effeithio ar bellter meddwl/breicio?
- Y pellter meddwl = pellter mae’r car yn teithio wrth i’r gyrrwr ymateb.
- Y pellter breicio = pellter mae’r car yn teithio ar ol ir gyrrwr roi ei droed ar y breic.
- Pellter meddwl - buanedd, tynnu sylw e.e ffon symudol, alcohol, cyffuriau, blinder, gwelededd.
- Pellter breicio- buanedd, breiciau wedi treulio, fordd wlyb, mas y car, ffordd rhewllyd, teiars wedi treulio.
beth yw nodweddion diogelwch mewn ceir?
bagiau aer, cywasgrannau a gwregysau diogelwch ag olwyn inertia.
beth yw pellter?
pellter mae gwrthrych yn symud ar hyd u llwybr a ddilynir gan y gwrthrych rhwng ei safle dechreuol a terfynol
beth yw dadleoliad?
x- y pellter mae gwrthrych yn symud mewn cyfeiriad penodol.
beth yw cyflymder?
y pellter mae gwrthrych yn symud mewn cyfeiriad penodol mewn uned o amser
beth yw amser adwaith?
yr amser mae’n cymryd i’r gyrrwr ymateb ir’ hyn sy’n achosi iddo breicio.