mathau o belydriad Flashcards
pam fod atom yn ymbelydrol?
Diffyg cydbwysedd rhwng niferoedd y protonau a’r niwtronau sy’n gwneud niwclysau yn ansefydlog. - allyru ymbelydredd ac egni er mwyn dod yn sefydlog.
beth yw’r tri fath o ymbelydredd?
alffa, beta a gamma.
Beth yw Alffa?
atom heliwm gyda 2 proton a 2 niwtron gyda gwefr o 2+ yw Alffa.
caiff ei allyru o niwclews trwm fel wraniwm.
lleiaf treidiol a gellir stopio gan ddarn tenau o papur.
beth yw risgiau alffa?
ddim yn gallu mynd trwy croen ond gall achosi niwed mawr os caiff ei mewnanadlu gan bod yn cael ei amsugno’n hawdd gan gelloedd ein corf- nid yw’n gallu dianc o’r corff ac mae ganddo pwer ioneiddio cryf oherwydd fod ganddo wefr 2+.
Beth yw beta?
electron cyflym iawn yw gronyn beta gyda gwefr -1 - caiff ei saethu allan o’r niwclews wrth niwtron yn y niwclews newid i proton ac electron.
bydd ychydig filimetrau o alwminiwm neu bersbecs yn stopio beta.
Beth yw hafaliad cael alffa?
tynnu’r atom gyntaf gyda’r ail i gael 4 a 2.
Beth yw hafaliad cael beta?
mae’r top yn aros yr un peth, y gwaelod yn cynyddu gan 1.
Beth yw ton gama?
Tonnau electromagnetig egniol iawn a gydag amledd uchel iawn a does dim gwefr ganddo.
Pelydriad mwyaf treiddiol- sawl cm o plwm yn lleihau’r pelydriad, ond ddim yn llawn.
dim niwed gan bod mor dreiddiol- mynd syth trwy’r corff.
sut ydym yn storio gwastraff ymbelydrol?
storio mewn cynwysyddion arbennig o dur
dur yn amsugno rhan fawr o’r ymbelydredd sy’n cael ei allyru felly defnyddir tuniau cryf o ddur i storio gwastraff niwclear.
caiff y tuniau yma ei rhoi mewn pwl dwr wedi ei ddal mewn adeilad cryf o gonrcit trwchus sydd hefyd yn amsugno peth o’r ymbelydredd.
Pelydriad cefndir?
ioneiddio o’n cwmpas yn naturiol
atomau ymbelydrol ymhobman yn dafeilio i allyru pelydriad alffa, beta neu gama
gall dod o fwyd, adeiladau a’r ddaear yn ogystal a’r gofod- pelydrau cosmig
dyn yn cyfrifol am rhai ffynonellau- meddygaeth niwclear, pelydrau x, pwer niwclear a ffatrioedd ailbrosesu gwastraff a ffrywdradau arfau niwclear.
sut ydym yn mesur pelydriad?
defnyddio rhifyddion geiger i canfod lefel yr ymbelydredd sy’n dod o ffynhonnell
rhaid cywiro ar gyfer pelydriad cefndir i ddarganfod yr ymbelydredd sy’n dod o ffynhonnell
gyntaf mae’n rhaid mesur y pelydriad cefndir wedyn rhaid mesur lefel y pelydriad gyda’r ffynhonnell a tynnu gwerth pelydriad cefndir i ffwrdd i gael lefel y pelydriad o’r ffynhonnell.
sut i darganfod pa ymbelydredd syn cael ei allyru?
pwer treiddio gwahanol
gyntaf- mesur y pelydriad cefndir i a cymryd y mesuriad yma i ffwrdd o bob mesuriad
rhowch papur, 5mm o alwminiwm a 2cm o blwm yn eu tro rhwng y ffynhonnell a’r canfodydd a mesurwch y cyfradd cyfrif
os yw mesuriad yn lleihau gan bapur- alffa
mynd trwy papur ond 5mm o alwminiwm yn ei lleihau- beta
mynd trwy’r 2 arall ond lleihau gan 2cm o blwm- gama.
beth yw niwclews?
Ardal fach iawn yng nghanol yr atom sy’n cynnwys protonau a niwtronau, a bron holl fas yr atom.
pa rhif yw’r rhif mas a beth yw e?
y rhif top- adio’r nifer o protonau a’r niwtronau at ei gilydd
pa rhif yw’r rhif atomig ac beth yw e?
yr rhif ar y gwaelod- nifer y protonau a’r electronau (yr un peth).