Materion Cristnogol: Daioni a Drygioni Flashcards
Daioni
Yr hyn sy’n cael ei ystyried yn foesol gywir, neu’n fuddiol, ac o fantais i ni
Maddeuant
Rhoi pardwn am ddrygioni; rhoi’r gorau i ddrwgdeimlad a’r awydd i dalu’r pwyth yn ol i ddrwgweithredwr
Cyfiawnder
Tegwch; pan fo darpariaethau a chyfleoedd ar gael i bawb yn gyfartal ac yn derbyn beth sy’n ddyledus iddyn nhw
Cydwybod
Synnwyr moesol unigolyn ynghylch daioni a drygioni. Gall rhai pobl grefyddol gredu mai’r gydwybod yw eu harweiniad mewnol gan Dduw
Drygioni
Yr hyn sy’n cael ei hystyried yn hynod anfoesol, drwg, ac anghywir
Dioddefaint
Poen neu drallod sy’n cael ei achosi gan anaf, salwch neu golled. Gall dioddefaint fod yn gorfforol, yn emosiynol/seicolegol neu’n ysbrydol
Heddychiaeth
Y gred na ellir cyfiawnhau rhyfel a thrais
Ewyllys rydd
Y gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes dim wedi’i ragderfynnu
Moesoldeb
Egwyddorion a safonnau sy’n pennu pa weithredoedd sy’n gywir neu’n anghywir
Agweddau O BLAID y gosb eithaf
- Dilyn cyfraith yr Hen Destament- ‘Llygaid am lygiad’
- Hen Destament yn rhestri 36 trosedd sy’n arwain at y gosb eithaf e.e llofruddiaeth a chabledd
- Creu a chymeradwyo gan Dduw
- Dangos difrifoldeb y gorchymyn ‘Na ladd’
Agweddau YN ERBYN y gosb eithaf
- Crynwyr = person yn adlewyrchiad o Dduw
- Iesu’n dysgu: tosturi a maddeuant, troi’r foch arall, caru eich gelynion
- Yn erbyn sancteiddrwydd bywyd = pob bywyd yn werthfawr ac yn rhodd
- Gorchymyn ‘Na ladd’
Sut ydym yn gwneud penderfyniadau moesol?
- Gweithredoedd a chredoau eraill
- Profiadu’r gorffennol
- Rhesymeg
- Dysgeidiaeth grefyddol
- Arweinwyr crefyddol
- Y gyfraith
- Cydwybod
Dysgeidiaeth Iesu am faddeuant
- Gorchmynnodd i ni faddau
- Gweddi’r Arglwydd yn gofyn i ni faddau. Disgwyl maddeuant felly rhaid i ni ei roi
- Pregeth ar y mynydd yn pwysleisio pwysigrwydd maddau
- Geiriau Iesu ar y groes ‘maddeuwch iddynt’
Gweithredoedd Iesu am faddeuant
- Cynorthwyo Sacheus i wneud yn iawn a diwygio
- Maddeuodd gwraig a oedd yn godinebu
Dysgeidiaeth y Beibl am faddeuant
- Dameg y Gwas Anfaddeugar- dim terfyn ar sawl gwaith gallwn faddau gan fod Duw yn maddau ein holl pechodau
- 7 x 70 rhaid maddau
- Dameg y Mab Colledig - dad yn maddau i’w mab er iddo gamymddwyn
- Duw yn maddau y rhai sy’n edifarhau
- Catholigion = Cyffesu pechodau a gwneud yn iawn e,e trwy weddi