Cristnogaeth : Credoau a Dysgeidiaethau Flashcards
Hollbresennol
Duw’n bresennol ym mhobman
Creawdwr
Creodd pob dim o ddim byd
Trosgynnol
Byw ar wahan i’w greadigaeth
Cynhaliwr
Byd yn ddibynnol arno ef
Mewnfodol
Weithredol yn y bydysawd
Hollalluog
Yn meddu ar bwer diderfyn
Hollgariadus
Caru ei greadigaeth yn ddiamod, maddeugar, trosturiol
Hollwybodus
Gwybod popeth
Genesis 1
Adroddiad o hanes creu’r bydysawd: cynllun a threfn i’r byd, creu o ex nihilo, pobl wedi creu ar ddelw Duw ac yn rheoli a chynnal y byd ar ei ran
Genesis 2 a 3
Sylw i greu dyniolaeth yn hytrach na sut creodd y byd. Pwysleisio’r berthynas rhyngddom a Duw. Dysgu cafodd Adda ei greu o bridd y Ddaear a rhoddodd Duw fywyd iddo trwy andalu i mewn iddo. Esbonio dirywiad y berthynas rhwng Duw a ni o ganlyniad i Adda ac Efa’n torri ymddiriedaeth Duw
Dehongliad llythrennol o’r creu
- Duw wedi creu y byd mewn 6 diwrnod., 24 awr yn ol y drefn Genesis
- Pawb wedi’u creu yn union fel maent heddiw
- Genesis 1-3 yn adroddiad parhaus o hanes creu’r bydysawd
- G1 = adroddiad cyffredinol
- G2+3 = manylion am darddiad bywyd dynol
- Stori’r Cwymp wedi dod a pechod i’r byd ac felly’n amhosib i ni bedio a pechu
Dehongliad creadaethwyr daear hen o’r creu
- Genesis yn wir yn y bon
- Duw wedi creu’r byd yn ol disgrifiad am Genesis
- Nid 6 diwrnod ond 6 chyfnod hirach, miloedd neu miliynau o flynydoedd
Dehongliadau rhyddfrydwyr o’r creu
- G1 yn ymgais cyn-wyddonol i esbonio tarddiad y bydysawd
- Union broses ddim yn bwysig
- Hyn sy’n bwysig yw creodd Duw popeth ac y mae popeth yn dibynnu arno ef
- Byd wedi’i greu i fodau dynol a phopeth yn dod o dan eu rheolaeth
- Fel safbwynt olwyddonol, nid oes problem derbyn damcaniaethau’r Glec Fawr / Esblygiad
Duw ymgnawdoledig
Dsygeidiaeth Gristnogol mai Duw oedd Iesu, er mae dyn ydoedd ar yr un pryd.
Enghreifftiau o’r Ysbryd Glan yn gweithio yn, drwy ac o amgylch Iesu = tystiolaeth fod Iesu’n ddwyfol e.e presennol ym medydd Iesu, cenhedlu gan yr Ysbryd Glan, cyflawni gwyrthiau trwy nerth yr Ysbryd Glan
Meseia
Cyfeirio at yr un yr oedd Duw yn ei anfon i ddod a theyrnas newydd ac i sefydlu cyfiawnder a heddwch. Awduron yr Efengylau yn honni Iesu oedd y Meseia