Cristnogaeth Aferion: Moesoldeb Flashcards
1
Q
Gwneud Penderfyniadau: Awdurdod dwyfol (absoliwtiaeth)
A
- Y syniad bod rheolau moesol penodol, fel ‘mae lladd yn anghywir’ neu ‘ mae cadw addewidion yn gywir’ yn egwyddorion absoliwt
- Maen nhw’n berthnasol ym mhob amgylchiad a sefyllfa
- I rai dyma’r pethau mae Duw wedi’u gorchymyn - drwy Ei orchymyn dwyfol
2
Q
Gwneud Penderfyniadau: Ymagweddau sefyllfaol (perthynolaidd)
A
- Pobl sy’n dadlau bod rhai egwyddorion moesol y mae angen eu haddasu neu eu cymhwyso i wahanol sefyllfaoedd neu amgylchiadau
- Cyfeirio ato weithiau fel moeseg sefyllfa - does dim rheolau cyffredinol neu absoliwt
3
Q
Agweddau am faddeuant
A
- Geiriau Iesu ar y groes ‘O Dad, maddau iddynt…’
- Cariad i gymryd lle casineb - ‘Car dy gymydog…’
- Dywedodd Iesu i ni faddau pobl ‘saith deg seithwaith’ = mor aml ag sydd angen
- Duw yn disgwyl i ni faddau o’r galon, fel y gwnaeth Ef faddau i ni
- Yn disgwyl maddeuant felly dylwn ei roi hefyd
- Annog i ni weddio dros y rhai sy’n ein herlid
4
Q
Trysorau ar y ddaear ac yn y nefoedd
A
- Dysgodd Iesu: gwneud gweithredoedd da yn debyg i ‘roi arian ar gadw’ mewn trysorfa neu gyfrif banc ysbrydol
- Dylwn ddefnyddio cyfoedd yn hael
- Mae peidio a rhannu cyfoeth yn gallu arwain at fywyd tragwyddol yn uffern
- Dameg y Dyn Cyfoethog a Lasarus yn dysgu nad yw cyfoeth a lwc dda o fudd o gwbl yn y bywyd ar ol marwolaeth; sut mae cyfoeth yn cael ei ddefnyddio sy’n bwysig
- Cariad agape dylai gymell penderfyniadau moesegol
- Efengyl Mathew yn dysgu i ni beidio casglu trysorau yn y byd yma ond i’w casglu yn y nefoedd
- Cyfoeth yn rhywbeth dros dro a dylwn ei ddefnyddio i wneud daioni e.e y Samariad Trugarog yn talu o flaen llaw am y dyn ag anafwyd
5
Q
Agape
A
- Cariad anhunanol. Y math uchaf o gariad
- Iesu yn cyfarwyddo ei ddisgyblion i roi lles pobl eraill cyn eich lles eich hunain, felly mae dameg y Samariad Trugarog yn ei ddangos
- Pwysleisio i ni garu ein gelynion
- ‘Car dy gymydog fel ti dy hun’
- Aberth Iesu = enghraifft o agape
6
Q
Dameg y Samariad Trugarog
A
- Cafodd Iddew ei ymodod arni gan lardon a’i adael i farw
- Daeth pffeiriaid a Lefiad heibio ond ni wnaethant dim i’w helpu
- Aeth Samariad (person nag oedd yn cael ei barchu gan yr Iddewon) ati i helpu gan rwymo ei glwyfau a thalu iddo aros mewn tafarn tra yr oedd yn gwella
- Neges:
disgwyl i Gristnogion ddangos agaoe at unrhyw un oedd ei angen
rhoi anghenion eraill cyn eich rhai chi
sicrhau gofal a darpariaeth i bawb
7
Q
Dysgeidiaeth Iesu: Y Rheol Aur
A
“Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy”
- Rhaid bod yn dda ac yn gyfiawn
- Rhaid peidio ag osgoi gwneud daioni
- Rhaid gofalu am eraill
- Duw yn gwobrwyo’r rhai sy’n gwneud y peth cywir
8
Q
Dysgeidiaeth Iesu: Teyrnas Duw
A
- Dameg y Defaid a’r Geifr yn dysgu mai’r wobr i’r rhai sy’n byw bywyd moesol da a bywyd tragwyddol yn Nheyrnas Duw ac y mae cosb tragwyddol i’r rhai sydd ddin yn byw bywyd moesol da
- Nid yn unig gwneud drygioni sy’n arwain at gosb, ond methu a gwneud da hefyd