Hawliau Sifil 3 Flashcards
Cefnogaeth i weithredu cadarnhaol
-EEOC: equal employment opportunity comission
-roedd yn ofynnol i gontractwyr y llywodraeth yn cynnwys prifysgolion ac ysgolion roi triniaeth ffafriol i AA a lleiafrifoedd
-sylweddolodd cyflogwyr os oedden nhw am gael gwaith contract ffederal y byddai’n rhaid iddyn nhw gyflogi mwy o weithwyr AA
-parhaodd Arlywydd Nixon (1968-74) a’r gweithredu cadarnhaol gyda Orchymyn Gweithredol 11578: gwneud yn orfodol i bob cyflogwyr oedd a chontract ffederal ddraftio polisiau cadarnhaol
Y goruchaf lys a gweithredu cadarnhaol
-roedd gweithwyr gwyn yn dadlau bod gweithredu cadarnhaol mewn giwironedd yn wahaniaethu o chwith yn erbyn pobl wyn
-1978: achos prifysgol california v Bakk, gwrthododd mynediad i Allan Bakke myfyrwyr Americanaidd gwyn i brifysgol California a honnodd yntau fod ei record academaidd yn well nag un deg chwech o fyfyrwyr lleiafrifol oedd wedi’u derbyn
Adlach Pobl Wyn
-o dan Arlywydd Reagan (1981-89) lleihawyd cyllid yr EEOC
-credai Reagan fod y llywodraeth wedi bod yn hyrwyddo gwahaniaethu o chwith
-yn 1995 ceisiodd yr Arlywydd Clinton (1993-2001) droedio’r llwybr canol drwy ddadlau bod gweithredu cadarnhaol AA yn hanfodol ar ei fod yn ddiffygiol er mwyn gwrthdroi canrifoedd o wahaniaethu
Dadwahanu
-aeth dadwahanu’r ysgolion cyhoeddus yn y de yn ei flaen yn ystod gweinyddiaeth Nixon
-erbyn hyn nad oedd dadwahanu yn derbyn yr un faint o gwrthwynebiad enfawr i gymharu gyda’r 1950au a’r 1960au
-O ganlyniad erbyn 1974 dim ond 8% o blant AA oedd yn mynychu ysgolion du o’i gymharu a 68% yn 1969
-yn 1969 dyfarnodd y Goruchaf Lys yn Alexander v Bwrdd Addysg Holmes County fod rhaid rhoi dadwahanu ysgolion ar waith ar unwaith
Bysio
-niferoedd enfawr o AA yn cael eu cyfyngu i ganol y dinasoedd tra bo’r maestrefi’n bennaf yn wyn
-dechreuoedd y polisi bysio myfyrwyr i gyflawni cyfleuoedd addysgol cyfartal yn y 1960au
-roedd y polisi bysio’n hynod o amhoblogaidd gyda rhieni: cofnododd pol Gallup yn 1971 for tri allan o bob pedwar Americanwyr gwyn yn gwrthwynebu bysio
-cafwyd gwrthwynebiad mwyaf trawiadol yn Boston pan orchmynodd barnwr ffederal fod rhaid bysio myfyrwyr du a gwyn ar raddfa eang i gymdogaethau ei gilydd
-cafwyd gwrthwynebiad ffyrnig yn South Boston High gyda geiriau sarhaus yn cael eu defnyddio a cherrig yn cael ei taflu at fysiau’n cludo plant du
-tynnodd llawer o rhieni gwyn eu plant allan o’r ysgol: aeth rhai i ‘r maestrefi rhai i addysg preifat
-disgynnodd y nifer o fyfyrwyr gywn yn ysgolion cyhoeddus Boston o 45,000 yn 1974 i 16,000 yn 1987
Canlyniadau gwleidyddol a chyfreithiol (bysio)
-daeth bysio’n fater gwleidyddol yr etholiadau 1968 a 1972 gyda George Wallace a Richard Nixon ill dau’n gwrthwynebu’r arfer
-defnyddiodd Nixon ei gyfnod fel arlywydd i wneud penodiadau ceidwadol i’r Goruchaf Lys er mwyn arafu dyfarniadau rhyddfrydol
-tystiolaeth gyntaf o hyn yn 1974 gyda dyfarniad Miliken v Bradley a wnaeth ddatgan fod bysio rhwng ardaloedd yn Detroit yn anghyfansoddiadol
-hwn oedd yr achos cyntaf gan NAACP ers 20 mlynedd pan na chymeradwyodd y llys orchymyn dadwahanu
Yr Ymateb Ceidwadol yn y 1980au
-yn 1980 roedd ethol Ronald Reagan yn arlywydd yn golygu torri oddi wrth bolisiau’r 1960au ar 1970au
Roedd ei etholiad yn adlewrychu:
-amhoblogrwydd gweinyddiaeth Carter a’i methiant i ddatrys sefyllfa gwystlon Iran
-Llwyddiant Reagan yn cipio pleidleisiau mwyafrif helaeth o ddynion gwyn y de a chymdogaethau coler las y gogledd
Ailetholwyd Reagan yn 1984 gyda mwyafrif enfawr. Yn ystod ei arlywyddiaeth dros ddau dymor:
-cafwyd gostyngiadau sylweddol mewn rhaglenni cymorth ffederal fel Medicare. Roedd tua 20% o AA yn ddibynol ar y rhaglenni cymorth hyn ac felly roedd yr effaith arnyn nhw’n niweidiol ac yn anghymesur.
-yn 1986 ynghyd a phenodiadau eraill ceidwadol i’r goruchaf lys arafodd y dyfarniadau oedd yn cefnogi hawliau sifil
-hanes hir i wrthwynebiad Reagan i ddeddfwriaeth hawliau sifil. Roedd wedi gwrthwynebu Deddf Hawliau Sifil 1964 a Deddf Hawliau Pleidleisio 1965. Hefyd yn gwrthwynebu penderfyniad i nodi pen-blwydd MLK
Y De Newydd a Dadwahanu
-yn ystod y 1970au dychwelodd nifer cynyddol o AA i daleithiau’r de ar ol canrif o fudo
duedd newydd hon i fudo’n ol:
1.twf economaidd. wrth i ddiwydiannau’r gogledd ddirywio ffynodd economi’r de. Roedd cwmniau yn cael ei denu i’r de a alwyd bellach yn yr Ardal Haul mewn cyferbyniad ag Ardal Rhwd y gogledd gyda’i trethi is, cyflogau is, rheoleiddio ysgafnach a thir rhatach
2.gyda dileu deddfau Jim Crow roedd llai o arwahanu yn y De Newydd. Doedd amgylchiadau yng ngetos y gogledd ddim yn gwella’n ddigon cyflym ac -roedd y cyfleuoedd economaidd yn y De Newydd
3.roedd y cynnydd gwleidyddol a wnaed gan AA wedi arwain at ethol canran uwch o AA i swyddi gwleidyddol uchel yn y de
Y Profiad Americanaidd Affricanaidd
-yr hawl i bleidleisio wedi’i gwarantu
-miloedd o AA bellach mewn swyddi cyhoeddus. -Erbyn 1992 roedd 69 o gyngreswyr yn AA.
-Twf dosbarth canol. Erbyn 1980 roedd traean o weithwyr AA yn dal swyddi coler gwyn proffesiynol yn rheolwyr ac yn swyddogion - ddwywaith gymaint a’r gyfran yn 1960
-rhwng 1970 a 1976 cafwyd cynnydd o 9% yn y nifer o Americanwyr gwyn oedd yn byw yn y maestrefi, a chynnydd o 36% o AA oedd yn byw yno
Fodd bynnag roedd rhai agweddau pwysig o’r profiad AA yn parhau fwy neu lai yr un fath:
-yn 1989 graddiodd 77% o fyfyrwyr gwyn o’r ysgol uwchradd o’i gymharu a 63% o AA. Roedd bwlch hefyd yn y ffigurau ar gyfer addysg uwch gyda 21% o bobl wyn yn graddio o brifysgolion o’i gymharu a 11% o AA
-roedd isddosbarth mawr yn y getos. Yn 1990 o 31 miliwn o AA, roedd 9 miliwn yn byw dan y llinell tlodi. Roedd diweithda 5% yn uwch ymhlith AA na phobl wyn yn 1998
-erbyn 2000 roedd y nifer o AA oedd yn y carchar wyth waith yn uwch nag Americanwyr gwyn
Erbyn 1990 roedd bywydau AA wedi gwella ac roedd eu rol mewn gwleidyddiaeth, adloniant, chwaraeon, addysg uwch, y lluoedd arfog, diwydiant a masnach wedi cynyddu ond roedd anghydraddoldeb parhaus yn dal i fod.