Gerifa BY2 Flashcards
Trydarthiad
Anweddiad dŵr o’r tu mewn i’r dail drwy’r stomata ac i’r atmosffer
Gwasgedd gwraidd
Grym sy’n cael ei greu ar waelod tiwb sylem gan fewnlifiad dŵr ar hyd graddiant crynodiad
Trawsleoliad
Cludo cynhyrchion ffotosynthesis yn y ffloem o’r safle synthesis yn y dail (ffynhonnell) i rhannau arall o’r planhigyb (suddfannau)
Cylchrediad agored
Nid yw’r gwaed yn aros yn y system gylchrediad
Cylchrediad caeedig
Gwaed yn cylchredeg mewn system barhaus o diwbiau sef pibellau gwaed
Cylchrediad dwbl
Yn ystod 1 cylchrediad o’r corff mae’r gwaed yn pasio drwy’r galon ddwywaith
Myogenig
Caiff y curiad calon ei gycheyn o’r tu mewn i’r cyhyr ei hun; nid yw’n cael ei ysgogi’n nerfol
Systole
Cyhyr calon yn cyfangu
Diastole
Cyhyr y galon yn ymlacio
Affinedd
Atyniad cemegol rhwng un moleciwl a moleciwl arall
Effaith Bohr
Yr uchaf yw’r gwasgedd rhannol CO2 y pellaf bydd y gromlin i’r dde
Ffibrau Purkinje
Rhwydwaith o ffibrau yn waliau’r fentriglau
Sypyn His
Llinyn o ffibr cyhyr cardiaidd wedi’i addasu
Hylif Meinweol
Plasma heb broteinau plasma
Arwyneb resbiradol
Safle cyfnewid nwyon