Geirfa BY4 Flashcards
Ffosfforyleiddiad lefel swbstrad
Ffurfio’n uniongyrchol o gyfansoddion ffosfad a ddefnyddir yn y broses
Cydensym
Moleciwl sydd angen ar ensym i weithredu
Staen Gram
Dull o staenio bacteria i helpu i’w hadnabod nhw
Aerobau anorfod
Amgen O2 ar gyfer metabloaeth
Anaerobau amryddawn
Tyfu’n aerobig pan fo O2 ond gallu byw yn anaerobig
Anaerobau anotfod
Tyfu heb O2 yn unig
Aseptig
Proses sy’n cael ei chyflawni dan amodau di-haint
Cytref
Clwstwr o gelloedd sy’n ffurfio o un bacteriwm drwy atgynhyrchu anrhywiol
Mesur twf uniongyrchol
Amcangyfrif cyfradd twf drwy fesur diamedr cytref o facteria neu ffwng wrth iddo ledaenu o bwynt canolog
Eplesysd
Llestr sy’n cael ei ddefnyddio i feithrin micro-organebau
Metabolyn eilaidd
Cemegyn sydd ddim yn anghenreidiol ar gyfer twf y ffwng ac sy’n cael ei gynhyrchu ar ôl diwedd y cyfnod twf esbonyddol, pan fydd y glwcos wedi disbyddu
Ffotoffosfforyleiddiad
Synthesis ATP o ADP a Pi gan ddefnyddio egni golau
Sbectrwm amsugno
Graff sy’n dynodi faint o olau mae pigment penodol yn amsugno ar bob tongedd
Sbectrwm gweithredu
Graff sy’n dangos cyfradd fforosynthesis ar wahanol tonfeddi golau
Ffotosystem
Casgliad o bigmentau ategol sy’n derbyn egni golau ar wahanol tonfeddi ac yn sianelu’r egni hwn i’r ganolfan adweithio