Branwen 7 - Balchder Dyn Flashcards
Beth sy’n arwain at ddinistrio gwledydd yn y pen draw?
Balchder dyn sy’n arwain at ddinistrio gwledydd yn y pendraw.
Beth sy’n cychwyn yr holl drasiedi?
Balchder Efnisien a’i gred yn ei hawliau ei hun sy’n cychwyn yr holl drasiedi, oherwydd iddo gredu dylai Matholwch fod wedi gofyn am ei ganiatad ef cyn priodi ei chwaer, Branwen. Oherwydd hyn mae’n anffurfio’i geffylau ac yn cychwyn yr holl ddigwyddiadau anffodus.
Beth sy’n arwain at y brwydro olaf yn Iwerddon?
Balchder Efnisien sy’n arwain at y brwydro olaf yn Iwerddon hefyd, oherwydd caiff ei frifo gan nad yw Gwern yn fodlon dod ato, ac felly mae’n ei daflu i’r tan.
Balchder pwy sy’n cael ei frifo?
Balchder Matholwch sy’n cael ei frifo o ganlyniad i Efnisien yn anffufio’i geffylau, ac oherwydd hynny mae’n gadael llys Bendigeidfran ac drwy wneud hynny yn ei sarhau.
Beth sy’n gwneud i Matholwch dial ar Branwen?
Balchder y Gwyddelod sy’n arwain atynt yn pwyso ar Matholwch i ddial ar Branwen am rhywbeth ddigwyddodd dros flwyddyn yn ôl.