Branwen 11 - Da a Drwg Flashcards
Beth mae Efnisien yn ymgorfforiad ohono?
Mae Efnisien yn ymgorfforiad o ddrygioni. Cadarnheir hyn gyda’i enw, a’r gwrthgyferbyniad rhyngtho ef a’i frawd Nisien sy’n golygu ‘annwyl’.
Beth yw’r sillafiad arall o Efnisien?
Sillafiad arall o Efnisien yw Efnysien sydd yn gwneud mwy o synnwyr gan fod ‘efnys’ yn golygu ‘gelyniaethus’, felly cymeriad llawn cas ydyw.
Beth mae gweithredoedd Efnisies trwy’r chwedl yn cadarnhau?
Mae gweithredioedd Efnisien trwy’r chwedl yn cadarnhau ei ddrygioni: anffurfio’r ceffylau, achosi drwd deimlad rhwng y ddwy wlad a thrwy daflu Gwern i’r tân.
Ond, er hyn, sut mae Efnisien yn dangos ochr mwy dynol i’w gymeriad?
Ond, er hyn, dangosa Efnisien ochr mwy dynol i’w gymeriad drwy achub gwyr Ynys y Cedyrn wrth iddo ladd y milwyr sy’n cuddio yn y sachau, a drwy ddinistrio Pair y Dadeni. Mae Efnisien yngweld mai ef oedd yn gyfrifol am y trychineb ac, yn y diwedd, mae’n derbyn hynny.