1. Culhwch ac Olwen - Chwech yn mynd trwy'r byd Flashcards
Beth yw prif themau’r chwedl?
Chwech yn mynd trwy’r byd.
Beth yw themau cyfarwydd arall?
Thema cyfarwydd arall yw stori carwr ifanc yn ceisio ennill merch y cawr yn wraig drwy gyflwawni nifer o dasgau.
Gyda phwy gwna’r tasgau gwahanol?
Gwna’r tasgau gyda chymorth 6 o gynorthwywyr sydd â galluoedd rhyfeddol, gyda’r tasgau yn cydfynd â’u galluoedd arbennig nhw.
Yn ôl Kenneth Jackson, pwy oedd y cynorthwywyr?
- Adeinion fab Erim - a allai rhedeg mor gyflym ni allodd anifal gyd-deithio ag ef.
- Hir Erwm a 3. Hir Atrwm - A allai fwyta hyd brynhawn ac yfed hyd nos a phan aent i gysgu byddent yn gallu bwyta fel pe na byddent wedi bwyta o’r blaen.
- Sugn fab Sugnedydd - A allai sugno darn o’r môr gyda 300 o longau arni nes iddo fod yn sych.
- Clust fab Clustfeiniad - A allai glywed synnau distaw ofnadwy dros ddeng milltir a deugain i ffwrdd.
- Medr fab Methredydd - A allai anelu saeth o Gelli Wig yng Nghernyw i Esgair Oerfel yn Iwerddon a taro’i target.
Ond pwy sy’n anghytuno gyda Kenneth Jackson?
Mae Rachel Bromwich yn anghytuno gyda Kenneth Jackson.
Pwy, yn ôl Rachel Bromwich, oedd y cynorthwywyr?
- Drem fab Dremhidydd - A allai weld o Gelli Wig yng Nghernyw i Ben Blathaon.
- Ôl fab Olwydd - A allai darganfod pethau e.e pan ddygwyd moch ei dad 7 mlynedd cyn i Ôl fab Olwydd cael ei geni, fe darganfyddiwyd yntau y moch hynny.
- Medr fab Methredydd - A allai anelu saeth o Gelli Wig yng Nghernyw i Esgair Oerfel yn Iwerddon a tharo’r targed.
- Clust fab Clustfeiniad - A allai glywed synnau distaw ofnadwy o dros ddeng milltir a deugain i ffwrdd.
- Sugn fab Sugnedydd - A allai sugno darn o’r môr â 300 o longau arni nes iddi fod yn sych.
Ond, beth mae Rachel Bromwich hefy’d o’r farn?! Freak…
Ond mae Rachel Bromwich hefyd o’r farn mai grwp chwerthinllyd o bobl gyda phriodoleddau ffantasïol oedd rhain.
Felly pwy mae Rachel Bromwich yn credu oedd y cynorthwywyr go iawn? 1. Cai.
Credai Rachel mai 1. Cai, a wirfoddolodd i fod yn eu mysg. Gallai Cai dal ei wynt o dan ddwr am 9 noson a 9 diwrnod a gallai peidio â chysgu am 9 noson hefyd. Gallai rhoi niwed i rhywun na fyddai’n gwella. Gallai Cai hefyd fod yr un mor dal â’r goeden uchaf pe ddymunai, a phan fyddai’n bwrw, ni fyddai’n gwlychu oherwydd ei wres.
Pwy oedd y dynion eraill a credai Rachel Bromwich oedd y gwir cynorthwywyr?
Credai cafodd y 5 gwr arall eu dewis gan Arthur ei hun.
- Bedwyr - Y dyn harddaf ar yr Ynys heb law am Arthur a Drych fab Cibddar, a gallai anafu mwy o ddynion gydag un llaw na allai 3 milwyr gyda’i gilydd.
- Cynddilig Gyfarwydd - A oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i lwybrau mewn ardaloedd dieithr.
- Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd - A wyddai’r holl ieithoedd.
- Gwalchmai fab Gwyar - Na fyddai byth yn dod adref heb y neges yr aeth arni.
- Menw fab Teirgwaed - Y swynwr a allai wneud ei hun yn anweledig.
Beth tyfodd yn aruthrol?
Fe dyfodd y chwedl yn aruthrol, ac mae’r chwedl yn rhannu’n dair elfen sef rhestru’r cynorthwywyr, rhestru’r tasgau a hanes eu cyflawni.
Beth rhestrir llawer gormod ohonynt?
Rhestrir llawer gormod o gynorthwywyr a tasgau gan mai traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am ledaenu’r chwedl, ac ychwanegodd llawer o bobl eu henwau eu hunain yn y chwedl.
Ar ddechrau’r chwedl, beth mae llysfan Culhwch yn tyngu?
Mae hi’n tyngu na chaiff Culhwch fyth wraig nes y caiff Olwen, merch Ysbadadden Bencawr, am iddo wrthod priodi ei merch hi. Dyma fotif y llysfam eiddigeddus.