ADRAN B: ROL A SWYDDOGAETH ADDYSG YN Y GYMDEITHAS CYFOES Flashcards
Pa fath o gymdeithasoli yw addysg?
Pwrpas addysg yn ol nifer o gymdeithasegwyr yw cymdeithasoli disgyblion i ddeall pa ymddygiad sy’n derbyniol o fewn gymdeithas
- yn ol damcaniaeth strwythurol swyddogaethol mae sefydliadau cymdeithas yn cyfrannu at gynnal y gymdeithas honno a sicrhau consensws gwerthoedd ac mae’r teulu a’r system addysg yn enghreifftiau pwysig o’r fath o sefydliadau
- teulu = cymdeithasoli cynradd
- addysg (a gyfryngau cymdeithasoli arall) = cymdeithasoli eilaidd
- yn ol rhai damcaniaethwyr, rol y system addysg yw i rhannu unigolion i rolau penodol o fewn y gymdeithas ac mae cymdeithasoli eilaidd yn y system addysg fel dysgu cydweithio ag eraill a pharchu awdurdod yn rhan bwysig o’r broses paratoi ar gyfer byd gwaith
Cyrhaeddiad addysg ac dosbarth cymdeithasol
- cyswllt clir rhwng dosbarth a cyrhaeddiad
- plant o gefndir dosbarth canol yn tueddu i ennill cymwysterau gwell yn yr ysgol na phlant o gefndir dosbarth gweithiol
- un ffordd o fesur cyrhaeddiad addysgol plant yw cymharu canlyniadau plant sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim, a phlant nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim - mae’r duedd hon yn cael effaith ar fywydau unigolion ar ol iddynt adael yr ysgol ac ymuno a’r byd gwaith
Cyrhaeddiad addysg ac dosbarth cymdeithasol - Howard Becker (1952)
- wedi datblygu’r cysyniad o ddamcaniaeth labelu yn ei waeth i esbonio pam fod plant o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn cael canlyniadau amrywiol o fewn y system addysg
- yn ol Becker, mae plant o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn cael eu labelu gan athrawon, ar lefel isymwybydol yn blant galluog neu ddim, neu yn blant sy’n ufudd neu ddim.
- Gan adeiladu ar waith Becker, mae nifer o gymdeithasegwyr yn credu bod y system addysg yn labelu plant dosbarth gweithiol mewn modd negyddol, a bod hyn yn cyfrannu at eu perfformiad is o fewn y system addysg
- Mae marcswyr hefyd yn dadlau bod y system addysg yn trin plant o’r dosbarth gweithiol mewn ffordd lai ffafriol, a bod hyn yn ei dro yn paratoi plant o gefndiroedd dosbarth gweithiol at safle is o fewn y system economaidd,
- Yn y ddau achos hyn, gellir dadlau bod elfen o broffwydoliaeth hunangyflawnol ar waith, ble mae disgwyliadau athreawon o blant o’r dosbarth gweithiol yn dod yn wir, wrth i blant symud drwy’r system addysg i’r byd gwaith, ac i fywyd yn ehangach
Cyrhaeddiad addysgol a Rhywedd
- enghraifft o hyn yw bod merched, ar gyfartaledd yn perfformio’n well na bechgyn o fewn y system addysg
- mae hyn yn wir am gymru a hefyd yn berthnasol mewn nifer o wledydd ledled y byd. Er hynny, mae bechgyn a merched yn tueddu i astudio technoleg gwybodaeth a dylunio a technoleg, thra bod merched yn fwy tebygol o astudio ieithoedd a lletygarwch ar arlwyo
- mae’n bosib dadlau fod y gwahaniaethau hyn mewn pynciau ysgol yn deilio o’r hen arfer o annog bechgyn i astudio pynciau a fyddai’n gymorth iddynt wrth chwilio am waith, tra byddai merched yn cael eu hannog i astudio pynciau a fyddai’n eu paratoi at fywyd tu allan i’r gweithle
- mae hyn yn cael eu adlweyrchu yn astudiaeth Sue Sharp, Just a Girl (1994) a gymharodd ddisgwyliadau merched ysgol yn y 70au a’r 90au, tra oedd gan ferched ysgol y 70au yr uchelgais o briodi a chael plant, roedd merched y 90au yn llawer mwy hyderus ac uchelgeisiol gan osod eu bryd ar yrfa ac ennill cyflog dda
Cyrhaeddiad addysgol ac Ethnigrwydd
- yn ol adroddiad diweddar i lywodraeth prydayn (2021), mae lefelau cyrhaeddiad addysgol yn y DU yn dueddol o amrywio yn ol cefndiroedd ethnig disgyblion e.e. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at berfformiad is plant o gefndiroedd du carbiiaidd o’i gymharu a phlant o gefndir gwyn prydeinig ar lefel TGAU
- mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod plant indiaidd, bangladeshaidd a Du Affricanaidd yn perfformio’n well ar lefel TGAU na phlant gwyn prydeinig
Cyrhaeddiad addysgol ac Ethnigrwydd - Pwy daeth i’r casgliad fod:
- hiliaeth sefydliadol yn broblem o fewn y system addysg yn brydain, ble roedd plant o gefndiroedd gorllwein india yn cael eu trin yn llai ffafriol na phlant o gefnidroedd gwyn
- tuedd diarwybod (unconcious bias) sydd tu cefn ir modd y mae plant o gefndiroedd ethnig amrywiol yn cael eu trin yn wahanol o fewn y system addysg
Bernard coard (1971)
Cyrhaeddiad addysgol ac Ethnigrwydd - Tate a Page (2018)
- dadlau fod y cysyniad o tuedd diarwybod (unconcious bias) yn cael e defnyddio fel esgus i esbonio hiliaeth o fewn y system addysg
- dadleua Tate a Page fod hiliaeth o fewn y system addysg yn deillio, nid o arferion athrawon yn unigol, ond o strwythurau addysgol a chymdeithasol sydd yn cael eu rheoli drwy bwer pobl wyn
Cyrhaeddiad addysgol ac Hunaniaeth Rhywiol
- yn hanesyddol, roedd deddfau a pholisiau addysg yn aml wedi canolbwyntio ar normau heterorywiol tra’n gwahardd normau cyfunrhywiol
- enghraifft bwysig o hyn oedd adran 28 o ddedf llywodraeth lleol (1988) a oedd yn gwahardd hyrwyddo cyfunrhywioldeb o fewn awdurdodau addysg lleol a chynghorau sir
- roedd hynny’n golygu nad oedd modd i aelodau o’r gymuned LHDTC fyw bywydau agored o fewn y system addysg
- noda ymchwil Carlile (2019) fod angen gwaith pellach o fewn ysgolion cynradd er mwyn cydnabod a dathlu perthnasau LGBTQ+ a sicrhau addysg gynhwysol i bawb
Cyrhaeddiad addysgol ac hunaniaeth rhywiol - Judith Butler (1993)
- ysgrifennu am yr hegemoni heterorywiol a’r matrics rhywedd sy’n cymryd yn ganiataol mai perthnas heterorywiol yw’r norm cymdeithasol ac felly’n ymyleiddio unigolion o’r gymuned LGBTQ+
Cyrhaeddiad addysgol ac hunaniaeth rhywiol - ymchwil pwy oedd wedi adrodd y canlynol:
- adrodd ar homoffobia yn system addysg y DU
- rhaid i nifer o deuluoedd LGBTQ+ dod o hyd i strategaethau amgen er mwyn ceisio delio a disgwrs homoffobiaidd mewn ysgolion
Cocker et al (2019)
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth Strwythurol Swyddogaethol - Durkheim
- durkheim yn dweud fod prif rol addysg yw i drosglwyddo normau a gwerthoedd cymdeithas i’r disgyblion
- yn ol durkheim, yr ysgol yw’r gymdeithas ar raddfa fechan h.y. Mae’r sgiliau, y normau a gwethoedd a ddysgwyd yn yr ysgol yn hanfodol i ddisgyblion pan fyddant yn gadael yr ysgol
- mae’r system addysg yn sicrhau ddisgybliaeth drwy gosbi ymddygiad sydd yn torri rheolau
- mae addysg yn gofyn i ddisgyblion i barchu awdurdod a rheolau gan ddysgu sit i gydweithio = sgiliau hollbwysig er mwyn sicrhau bod yna gonsensws gwerthoedd o fewn y gymdeithas
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth Strwythurol Swyddogaethol - Parsons
- adeiladwyd Parsons ar waith Durkheim a chredai mai addysg yw un o’r prif gyfryngau gymdeithasoli sydd gan gymdeithas
- yn ol parsons, y teulu sy’n gyfrifol am gymdeithasoli cynradd a’r ysgol sy’n gyfrifol am gymdeithasoli eilaidd
- addysg yn ol parsons yw’r bont rhwng y teulu a’r gymdeithas ehangach
- roedd parsons o’r farn fod llwyddiant y gymdeithas yn dibynnol ar lwyddiant yr unigolyn, a hynny’n aml iyn cychwyn o fewn y system addysg
- credai parsons mewn meritocratiaeth = lle mae pawb yn cael yr un cyfleoedd i lwyddo gan eu bod yn cael eu trin yn gyfartal yn yr ysgol
- cred swyddogaethwyr fod aelodau’r cymdeithas yn cael eu dyrannu i swyddi ‘pwysicaf’ y cymdeithas yn ol eu teilyngdod
- ym marn y swyddogaethwyr, mae hynny’n beth cadarnhaol i’r gymdeithas gyfan
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth Strwythurol Swyddogaethol - David Hargreaves (1975)
- Bu damcaniaeth Durkheim a Parsons yn ddylanwad ar David Hargreaves (1975)
- beirniadodd hargreaves y system addysg yn ysgolion prydain am orbwysleisio gwerth yr unigolyn
- nododd fod ymrwymiad i werthoedd cyffredin yn bwysicach nag anghenion yr unigolyn
- hybodd hargreaves solidariaeth gymdeithasol drwy ennyn ymwybyddiaeth disgyblion o’u cymunedau
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth farcsaidd
Althusser (1972)
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg damcaniaeth marcswyr - pwy oedd wedi adeiladu ar y syniad Marx fod gan y dosbarth gweithiol modolaeth ymwybyddiaeth ffug s orff yn stsl nhw rhag gweld eu bod yn cael eu hecsbloetio o fewn y gymdeithas cyfalafol ac dweud:
- fod y system addysg yn rhan o gyfarpar ideolegol y wladwriaeth a oedd yn cael eu defnyddio i reoli’r dosbarth gweithiol i dderbyn y drefn cyfalafol
- nad oedd hi’n bosib i’r dosbarth rheoli dominyddu drwy rym yn unig, roedd yn llawer haws rheoli drwy reoli syniadau neu ideoleg y dosbarth gweithiol e.e. Trwy’r system addysg
- cwriccwlwm cudd yn ffocysu ar ddysgu agweddau, normau a gwerhoedd a phatrymau ymddygiad i blant
Althusser (1972)
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg damcaniaeth marcswyr - Bowles a Gintis (1976)
- daeth i gasgliad ychydig yn wahanol i Bowles a Gintis
- dweud mai dewis methu yn yr ysgol roedd plant y dosbarth gweithiol, gan ei fod yn meddwl fod addysg am blant dosbarth canol
- yn ol willis, mae plant y dosbarth gweithil yn credu mai gwaith llafurio (manual work) oedd yn eu disgwyl ar ol gadael y syste, addysg
- o ganlyniad, nid oeddent yn gweld gwerth mewn addysg gan fod cymdeithas wedi ei threfnu yn eu herbyn
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth marcswyr - Paul Willis ‘Learning to labour’ (1977)
- daeth i gasgliad ychydig yn wahanol i Bowles a Gintis
- dweud mai dewis methu yn yr ysgol roedd plant y dosbarth gweithiol, gan ei fod yn meddwl fod addysg am blant dosbarth canol
- yn ol willis, mae plant y dosbarth gweithil yn credu mai gwaith llafurio (manual work) oedd yn eu disgwyl ar ol gadael y syste, addysg
- o ganlyniad, nid oeddent yn gweld gwerth mewn addysg gan fod cymdeithas wedi ei threfnu yn eu herbyn
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth ffeministiaidd - beth mae’r damcaniaeth yn dweud?
- damcaniaeth gwrthdaro
- dynion sy’n elwa o ddominyddu merched o fewn y system addysg ac yn y gymdeithas ehangach
- cwricwlwm cudd yn dysgu merched i dderbyn trefn patriarchaidd cymdeithas
- merched yn cael ei cymdeithasoli i dderbyn triniaeth gwahanol
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth ffeministiaidd - Judith Butler
- dweud fod cymdeithas yn gorbwysleisio’r gwahaniaeth biolegol rhwng dynion a fenywod
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth ffeministiaidd - pwy dywedodd fod y system addysg yn yrru fenywod tuag at bynciau ystrydebol benywaidd e.e. Gwallt a harddwch
Sue Sharp (1994 ac 2001)
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori feirniadol hil - beth mae’r theori yn dweud?
- theori gwrthdaro
- nad nodwedd fiolegol sy’n gysylltiedig a grwp o unigolion penodol yw hil, ond categori sydd wedi’i llunio’n gymdeithasol ac sy’n cael ei defnyddio i egsbloitio unigolion
- gwynder = gweld y byd trwy persbectif pobl gwyn = gwelir hyn yn y system addysg oherwydd nad oes llyfrau yn cael eich dylanwadu neu addysgu cafodd ei ysgrifennu gan awduron du yn aml ac yyb
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori feirniadol hil - Derrick Bell a Kimberle Crenshaw
- dywed fod hiliaeth wedi cael ei fewnosod o fewn strwythurau cymdeithasol
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori feirniadol hil - Bonilla Silva (2016)
- dweud fod hiliaeth o ganlyniad i broblemau ariannol, actorion cymdeithasol, ac yr uwch dosbarth yn manipwleiddio’r is-dosbarth trwy pethau fel addysg ayyb
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori feirniadol hil - Gilborn (2005)
- system addysg y DU yn cynnal hiliaeth
- credu nad yw hiliaeth amlwg yn mor beryglus a rhagfarn pobl gwyn “on the low” tuag at pobl du
- yn ei astudiaeth, darganfyddodd fod polisiau o fewn y system addysg yn cael effeithiau negyddol ar fyfyrwyr o gefnidroedd lleiafrifoedd ethnig
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth rhyngweithio - beth mae’r damcaniarth yn dweud?
- canolbwyntio ar ymdriniaeth ficro (bach) o’r gymdeithas a rhyngweithiadau rhwng unigolion sy’n hawlio sylw ysgolheigion y persbectif hwn
- ffocysu ar ryngweithio cymdeithasol yn yr ystafell dosbarth
- trafod cymdeithasoli rhywedd a disgwyliadau athrawon o berfformiad myfyrwyr
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth rhyngweithio - Howard Becker (1952)
- athrawon yn labelu plant doabarth canol fel disgyblion da, tra fod plant doabarth gweithiol yn cael ei labelu’n negyddol
- nad oedd hyn yn seiliedig ar berfformiad y disgyblion, ond tuedd yr athrawon
- plant o gefndiroedd gwahanol yn cael canlyniadau gwahanol o fewn y system addysg oherwydd hyn
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth rhyngweithio - Merton (1948)
- broffwydoliaeth hunangyflawnol
- mae labelu dysgwyr fel llwyddiant neu fethiant yn gallu effeithio ar eu perfformiad addysgol mewn modd cadarnhaol neu negyddol
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - damcaniaeth rhyngweithio - Rosenthal a Jacobson (1968)
- astudiaeth sy’n ymdrin aa’r broffwydoliaeth hunangyflawnol yn ysgol yng Nghaliffornia
- dewiswyd sampl o ddisgyblion ar hap a dywedwyd wrth yr athrawon bod y disgyblion yma’n ddisglair ac yn siwr o ddatblygu a llwyddo’n academaidd
- ar ddiwedd y flwyddyn cyntaf gwelwyd bod y grwp yma wedi gwneud cynnyd uwch na’r disgyblion eraill, ac roedd ei sgiliau darllen hefyd wedi gwela
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori’r dde newydd - Beth mae’r damcaniaeth yn dweud?
- credu nad yw’r wladwriaeth yn gdiwallu anghenion unigolion o fewn y gymdeithas
- mae unigolion sy’n arddel persbectif dde newydd yn credu bod twf economaidd yn bwysig ac mae’r ffordd o gyflawni hynny yw cynnig y rhyddid sydd ei angen ar unigolion er mwyn cystadlu yn erbyn ei gilydd
- ysgolion yn cael eu rhedeg fel busnesau bach sy’n cystadlu a’i gilydd er mwyn denu disgyblion
- dylai ysgolion paratoi plant am y byd gwaith
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori’r dde newydd - Saunders (1990)
- addysg yn hollbwysig er mwyn i’r gymdeithas weithredu’n effeithiol
- mae addysg yn bodoli er mwyn dyrannu unigolion i safleoedd gwahanol mewn bywyd
- gwobryo unigolion yn eshsnol i’w gilydd yn eu hannog i weitthio’n galed
- credu fod y system addysg yn fetirocrataidd (fel y swyddogaethwyr) lle mae gan bawb yr un hawl i lwyddo
- mae damcaniaeth dadleol Saunders yn gwahaniaethu rhwng unigolion o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol ac yn nodi bod disgyblion o’r dosbarth canol yn fwy tebygol o gael swyddi gwell am eu bod wedi etifeddu’r gallu i weithio’n galed
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - theori’r dde newydd - Charles Murray (1996)
- aelodau o’’r tandosbarth yn tanseilio cyrhaeddiad addysgol eu plant trwy adael iddynt dangyflawni yn yr ysgol
- cred murray fod aelodau’r tandosbarth yn barod i fyw ar fudd-daliadau yn lle lwyddo mewn addysg a’r byd gwaith
- mae syniadau murray wedi bod yn dylanwadol, yn endwedig ymhlith gwleidyddion asgell dde, ac mae nhw’n cael eu defnyddio fel tystiolaeth fod angen lleihau maint y wladwriaeth lles (welfare state) gan ei bod yn creu unigolion nad ydynt yn edrych ar ol eu hunain
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth ol-foderniaeth - Beth mae’r damcaniaeth yn dweud?
- mae damcaniaeth ol-foderniaeth yn cydnabod y newidiadau mawr sydd wedi digwydd i gymdeithas
- cred ol-fodernwyr fod y gymdeithas ‘fodern’ wedi dod i ben, ac rydyn ni bellach yn byw mewn cymdeithas ‘ol-fodern’
- dyma gyfnod lle mae amrywiaeth yn ganolog i brofiad o fyw o fewn cymdeithas
- rhaid i’r system addysg felly gynhyrchu disgyblion sydd a nifer o sgiliau ac all ailhyfforddi a newid gyrfaoedd yn rhwydd
- mae ol-fodernwyr hefyd yn credu fod ysgolion fel busnesau bach sy’n trio denu disgyblion fel ‘consumers’, ac felly o ganlyniad mae ol-fodernwyr yn credu bod y system addysg yn mynd drwy broses o farchnadoli (marketisation)
Persbectifau cymdeithasegol ar addysg - Damcaniaeth ol-foderniaeth - Pierre Bourdieu
- cred Bourdieu fod rhieni dosbarth canol a dosbarth uwch yn defnyddio eu gwybodaeth am y system addysg er mwyn dewis yr ysgolion gorau i’w plant
- datblygodd bourdieu y syniad fod gan unigolion (gan gynnwys rhieni a phlant) wahanol fathau o gyfalaf, a’u bod yn gallu defnyddio’r gyfalaf hwn i’w helpu i llwyddo o fewn y system addysg
- nid cyfalaf economaidd yn unig sy’n bodoli, medd bourdieu, ond cyfalaf diwylliannol, cymdeithasol a symbolaidd
- Cyfalaf diwylliannol - y ffordd mae plant yn siarad a gwybodaeth plant am ddiwylliant
- Cyfalaf cymdeithasol - rhwydweithiau cymdeithasol y plant a’r rhieni
- Cyfalaf symbolaidd - statws uchel unigolion a theuluoedd o fewn cymdeithas a’r pwer dros eraill sydd yn dod o hynny
- canlyniad hyn yw bod y plant yn derbyn cymwysterau da o ysgolion a prifysgolion da ac o ganlyniad yn gadael y system addysg ac yn derbyn y swyddi gorau o fewn cymdeithas
- o ganlyniad cred bourdieu fod y system addysg yn ail-greu haeniad cymdeithasol ble mae’r cyfoethog yn aros yn gyfoethog, a’r tlawd yn aros yn dlawd
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - cyrhaeddiad TGAU
- pobl o grwpiau ethnig ‘chinese’ a gafodd y sgor cyrhaeddiad uchaf o’r holl grwpiau ethnig (65.5)
- disgyblion swyn sipsiwn (white gypsy) oedd a’r sgor isaf (20.3)
- y sgor cyfartaledd yn 2022/2023 oedd 46.3
- ym mhob grwp ethnig heb law am ‘travellers’, roedd y ferched yn perfformio’n well na’r fechgyn
- ym mhob grwp ethnig, roedd gan ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sgor cyfartalog yn is na’r rhai nad oeddent yn gymwys (eligible)
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - addysg bellach
- 82% o bobl gwyn = gweithio ar ol addysg pellach (y canran mwyaf o bob grwp)
- pobl chinese (£31,000) ac Affricanaidd (£26,000) yn wneud y mwyaf o arian ar ol addysg bellach na weddill y grwpiau ethnig
- pobl pakistani a gwyn = wneud y lleiaf o arian
- chinese = y grwp mwyaf o ddisgyblion cafodd AAA yn lefel A
- Black carribean = y grwp gyda’r lleiaf o AAA yn lefel A
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Cecile Wright
- ymchwilio i fewn i 4 ysgol dinal mewnol gynradd a chanfyddodd dystiolaeth fod athrawon yn trin plant o grwpiau ethnig lleiafrifol yn wahanol i blant croenwyn
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - David Gillborn
- credu fod tangyflawni ymysg grwpiau ethig lleiafrifol yn dod o ganlyniad i hiliaeth
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Bourne et al
- Mae gwaharddiadau afro-garebeaidd bedair gwaith yn uwch na disgyblion gwyn
- dywed Bourne et al fod hyn oherwydd fod athrawon yn teimlo dan fygythiad
- awgryma eraill ei fod yn deillio o ymddygiad gwael o ganlyniad i rwystredigaeth hiliaeth h.y. Panig moesol yn y cyfryngau e.e. The Sun
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Tony Sewell
- pwysau cyfoedion a diwylliant stryd fel ffactor allweddol i egluro pam fod cyrhaeddiad ddisgyblion affro-garebeaidd yn dirywio yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd
- cred sewell fod y ffaith fod gymaint o fechgyn yn cael eu magu mewn teuluoedd un rhiant yn ffactor, gan ei fod yn gwneud y bechgyn yn agored i bwyse cyfoedion a diwylliant stryd
- denir bechgyn at diwylliant o wyryweidd-dra sy’n tanseilio gwerth addysg a chymhwysterau
- mae affro-garebeaid yn fwy tebygol o gael eu rhoi yn y setiau isel a fel gwyddoch mae cael eich leoli yn y setiau gwaelod yn fwy tebygol o arwain at is-diwylliant gwrth-ysgol
- mae Sewell yn nodi fod yna 4 math o ddisgybl:
- Cydymffurfwyr (41%)
- Dyfeisiadwyr (35%) - derbyn gwerth addysg, dim eisiau cael ei gweld fel cydymffurfwyr
- Encilwyr (6%) - ‘loners’
- Gwrthrhyfelwyr (18%) - gwrthod ysgol ac cymhwysterau
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - pwy cafyddodd tystioleth fod hiliaeth dal yn ffactor allweddol mewn tangyflawni addysgol mewn astudiaeth o ddwy ysgol yn llundain (plant croenddu ar y lefel isaf o gyrhaeddiad)?
Gillborn a youdell
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - beth oedd Wright wedi canfu
- astudiaeth o ysgol ‘jayleigh’ fod canran uwch o blant croenwyn yn cael eu rhoi i wneud papurau haen uwch TGAU (roedd 41% o boblogaeth yr ysgol yn asiaidd)
- roedd plant croenddu yn fwy tebygol o gael eu rhoi mewn setiau isel ar ddechrau blwyddyn 7 serch fod asesiad athrawon ysgol gynradd yn eu hasesu ar lefel gyfartal a phlant croenwyn
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - effaith setio ar unigolion
- mae gan unigolion gallu cyfyngedig
- proffwyd hunan gyflawnol = pobl yn meddwl fod nhw’n twp
- gwahanu unigolion gan annog gwahaniaethu
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - problemau hiliaeth yn setiau
- DG ac pobl croenddu yn cael ei rhoi yn y setiau gwaelod
- set gwaelod = dim cymhelliant = arwain at barhad pobl DG
- gwneud yr un prawf yn ysgol gynradd ond mae pobl croenddu a canlyniadau waeth
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Athrawon croenddu yn ol Reach(2007)
- fwy o rolau model positif o fewn cymunedau y bechgyn e.e. Cyfreithwyr, meddygon, ac athrawon
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Trevor Phillips of the committee for racial equality
- dweud fod llawer o rieni croenddu yn dymuno gweld dosbarthiadau gwahanol i blant croenddu
- mae rhai athrawon afro-garebeaidd yn awgrymu byddai ‘ysgolion croenddu’ un helpu meithrin delwedd bositif o hunaniaeth ddu
- yn ur yn modd mae’r cymuned fwslimiaid yn dadlau dylai addysg fod wedi’i selio ar islam
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - modood et al
- pobl a’r lefelau isaf o gyrhaeddiad (bangladeshis, pacistanaidd a afro-garebeaidd) wedi’u lleoli ar y cyfan yn y dosbarth gweithiol
- llwyddiant pobl indiaid a tseiniaid yn dellio o’r ffaith eu bod yn fwy tebygol o fod yn y dosbarth canol
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - ystadegau a phatrymau incwm a tlodi yn ol grwp ethnig yn Cymru
- 50% o bobl sy’n dod o’r gefndir du, neu asiaidd yn fwy debygol o fyw mewn tlodi
- mae 2/3 o sipsiwn a theithwyr yn hawlio cinio ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd i gymharu gyda 18% ar gyfartaledd
- gwelir hefyd ganran uwch na chyfartalog a bangladeshi, pacistani, hil-gymysg a disgyblion afro-garebeaidd sydd a’r hawl i gael cinio ysgol am ddim
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - effaith tlodi argyrhaeddiad
- diffyg adnoddau megis bwyd, cas pensil, bag
- diffyg maeth = aniachus = dim egni
- tripiau ysgol = methu fforddio
- llai o safon yn yr ysgol = athrawon dim eisiau gweithio yna
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - ffactorau diwylliannol Desforges (2003)
- dweud fod ymglymiad rhieni yn fwy pwysig na dosbarth cymdeithasol wrth benderfyny ar gyrhaeddiad addysgol
- fodd bynnag, mae eraill yn dadlau fod rhwystrau ar allu rhieni i ymwneud a addysg eu plant am resymau megis tlodi, iselder, lefelau isel o llythrennedd, a diffyg cefnogaeth gan ysgolion
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - iaith, Cassen a Kingdon (2007)
- dwued dim ond rhwystr dris-dro oedd methu siarad saesneg adref, rhywbeth oedd yn gwella erbyn i’r ddisgyblion dechrau yn yr ysgol uwchradd
- ond hefyd dywedodd fod ‘mae iaith yn helpu i egluro pam fod y gwelliant cymharol yn llai ar gyfer disgyblion du Caribïaidd na grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill’
- gwelir hefyd fod cyflawniad plant yn is yn yr ardaloedd hynny sydd a chanrannnau uchel o boblogaeeth pacistani e.e. Peterborough - sy’n tueddu i siarad Punjabi yn y cartref
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - iaith, Mac an Ghaill (1988)
- canfyddodd fod yr iaith siaredir gan afro-garebeaid yn rwystr i’w cynnydd naill ai drwy achosi camddealltwriaethau iddyn nhw neu methiant i ddeall yr athrawon
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - teulu, Pa effaith gallai cael eich magu mewn teulu un rhiant ei gael?
- diffyg modelau rol
- dim yn derbyn cymaint o sylw
- theori labelu = incwm isel (gan dim ond un rhiant) = dim yn perfformio’n dda
- cydbwysedd teuluol
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - teulu, Murray a Saunders
- awgrymu fod bywyd teuluol y caribeaid yn tynnu hyder bechgyn sy’n tyfu fyny heb tad
- hefyd, mae’r dde newydd yn nodi fod llawer o famau carebeaidd yn gweithio oriau llawn-amser ac oriau anghymdeithasol
- canlyniad hyn yw problemau ymarferol yn nhermau amser ac arian wrth geisio cefnogi addysg eu plant
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - teulu, gwerthusiad Tizzard et al
- canfu frwfrydedd mawr am lwyddiant addysgol yn y gymuned afro-garebeaidd.
- maent yn annog ysgolion sadwrn, gwelir rhain ym mron bob dinas lle mae poblogaeth afro-garebeaidd niferus
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - gwerthoedd
- mae’r gwerthoedd a roddir ar addysg yn y cartref yn gallu effeithio ar lefel o anogaeth rhieni a chymhelliad plant
- yn ol y niferoedd sydd yn mynd ymlaen i addysg bellach mae’r mwyafrif o grwpiau ethnig yn rhoi gwerth uchel ar addysg
- un rheswm gynigir am lwyddiant plant o gefndir asiaidd yn yr ysgol yw oherwydd y gwerth uchel a roddir ar addysg o fewn y teuluoedd
- gyda llawer o\r genhedlaeth gyntaf wedi symud i Brydain yn y lle cyntaf er mwyn rhoi gwell cyfleoedd addysgol i’w plant
Cyrhaeddiad addysgol ac ethnigrwydd - Rhesymau dros llwyddiant plant tseiniaidd yn ol y guardian 2011
- rhieni yn rhoi pwyslais fawr ar addysg
- pobl tseiniaidd sy’n derbyn bwyd ysgol am ddim yn perfformio’n well yn TGAU = eisiau cael incwm da yn y dyfodol? Rhieni eisiau nhw wneud yn well na nhw?
- cymryd addysg yn difrifol yn rhan o fynegi hunaniaeth tseiniaidd
- tseina yn pwysleisio ‘ymarfer’ fel un o werthoedd mawr nhw fel diwylliant
y system addysg a feritocratiaeth - awgrymodd A H Halsey fod yno 2 brawf o a yw cyfartaledd wedi’i gyflawni drwy’r system addysg
- Cyfartaledd cyfle = os oes gan bawb yr un hawl i gael yr un cyfleoedd (ar y cyfan mae prydain wedi ennill cyfartaledd cyfle e.e. Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg)
- Cyfartaledd canlyniad = a yw pobl yn ymddangos mewn sefydliadau i’r un graddau a’u cynrychiolaeth yn y gymdeithas eang (mae prydain yn methu’r prawf yma, mae ystadegau yn dangos fod pobl sy’n perthyn i grwpiau arbennig yn fwy tebygol o fynd ymlaen i gael swyddi da a safleoedd pwerus yn y gymdeithas)
y system addysg a feritocratiaeth - Cefndiroedd elitaidd, pa canran o beirniadwyr mwyaf uchel y DU oedd wedi mynd i ysgol roedd rhaid talu am?
74%
y system addysg a feritocratiaeth - faint o’r ‘cabinet presennol’ yn gwleidyddiaeth oedd wedi cael gradd yn Oxford?
47%
y system addysg a feritocratiaeth - pa canran o ddoctoriaid oedd wedi derbyn addysg preifat?
61%
y system addysg a feritocratiaeth pa canran o boblogaeth y DU sy’n mynd i ysgolion preifat? Beth mae hyn yn olygu?
- 7%
- mae incwm 100% o’r boblogaeth gan y 7% hynny
y system addysg a feritocratiaeth mae’r system addysg yn prydain ers yr ail rhyfel byd wedi gwrithredu o dan yr egwyddor o ddarparu cyfle cyfartal i bob plentyn. Ym mha ffyrdd gellir uwcholeuo hyn:
- disgwylir i bob ysgael cael polisi cyfle cyfartal (e.e. ACAC sy’n cadw golwg ar y system arholiadau ym mhrydain)
- tynnodd aflonyddwch cymdeithasol (e.e. hiliaeth) y 1960au sylw at y ffaith nad oedd gan rai grwpiau cymdeithasol yr un mynediad at hawliau cyfartal ag eraill = arweiniodd hyn at basio deddfau yn amddiffyn hawliau unigolion yn y gwaith a llefydd cyhoeddus e.e:
- Deddf gwahaniaethu ar sail rhyw (1975) = anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail gender
- Deddf perthnasoedd hil (1976) = dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i waredu gwahaniaethu ar sail hil ac i hybu cyfartaledd rhwng pobl o wahanol grwpiau ethnig
- Deddf gwahaniaethu anabledd (1995)
y system addysg a feritocratiaeth mae’r system addysg yn prydain ers yr ail rhyfel byd wedi gwrithredu o dan yr egwyddor o ddarparu cyfle cyfartal i bob plentyn. Fodd bynnag, nad yw pob ysgol yn gyfartal:
- mae gan rai ysgolion adnoddau gwell
- caiff ei dderbyn fod dewis y rhiant o ysgol yn dylanwadu ar answadd yr addysg a dderbynir
- mae gan brydain sector addysg breifat lle mae rhieni yn medru talu am le i’w plentyn a redir yr ysgol fel busnes
y system addysg a feritocratiaeth - ymchwil pa 2 ymchwilydd oedd wedi dangos fod rhai rhieni yn dweud celwydd er mwyn cael lle i’w plant yn ysgolion sy’n ‘gwell’ na eraill?
Reay a Lucey
y system addysg a feritocratiaeth - ymchwil Karl Turner ar ysgolion sydd gyda chanran uchel o blant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim
- dangos fod ysgolion oedd a chanran uchel o blant yn derbyn cinio ysgol am ddim yn anhebygol o gael adroddiadau arolygon da
y system addysg a feritocratiaeth ysgolion ‘gwell’
- roedd yr ysgolion gyda’r canlyniadau arholiadau gorau yn tueddu i fod yn ysgolion ferched yn unig
- mae gan ysgolion ffyrdd i wella eu canlyniadau arholiadau e.e. Annog plant galluog i sefyll mwy o arholiadau neu gwahardd ddisgyvlion isel eu gallu o sefyll arholiadau
y system addysg a feritocratiaeth ffactorau cartref a dewis rhieni
- mae yna cysylltiad clir ac amlwg rhwng incwm cartref a chanlyniadau arholiadau = mae plant o gartrefi tlotach yn tueddu i wneud yn waeth yn yr ysgol na phlant o gefndiroedd mwy cyfoethog
- mae Feinstein yn dadlau gall plant o gefndiroedd tlotach fod tua blwyddyn tu ol i blant mwy cyfoethog hyd yn oed cyn iddynt dechrau yn yr ysgol
- Hibbert et al (1990) = canfu fod cysylltiad clir rhwng presenoldeb isel a chanlyniadau gwael yn yr arholiadau, mae presenoldeb isel hefyd wedi arwain at ansefydlogrwydd teuluol a throseddu yn eu bywydau pan roeddent yn dod yn oedolion