ADRAN B: ADDYSG A FFACTORAU DYLANWADOL Flashcards
1
Q
ffactorau diwylliannol addysg yng Nghymru - ffactorau diwylliannol
A
- cyfrwng iaith addysgu yn elfen unigryw o\r system addysg yng Nghymru sydd yn wahanol i’r ddarpariaeth sydd yn cael ei chynnig yn Lloegr
- Mae’r iaith gymraeg wedi bod yn rhan orfodol o gwricwlwm ysgolion Cymru ers ‘deddf diwygio addysg’ ym 1988 lle rhoddwyd y cwricwlwm cenedlaethol ar waith
- mae ysgolion yn dilyn modelau addysgu gwahanol yng Nghymru - mae addysg yn cael ei chyfflwyno drwy’r cymraeg, saesneg ac yn ddwyieithog sy’n adlewyrchu polisiau awdurdodau addysg lleol a’r amrywiaeth ieithyddol sydd yng Nghymru
- hanes hir o brotestio ac ymgyrchu sydd wrth wraidd sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru a brwdfrydedd ac angerdd rhieni oedd yn aml yn cyfrannu at ddewisiasau addysg i’w plant
- addysg yn cymraeg ac dwyieithog yn creu siaradwyr cymraeg newydd sy’n cynyddu’r niferoedd sy’n medru’r cymraeg yng Nghymru.
Mae addysg yn elfen greiddiol o strategaeth iaith Gymraeg llywodraeth cymru, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr (Llywodraeth 2017) lle’r nod yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
2
Q
ffactorau diwylliannol addysg yng Nghymru - ffactorau materol
A
- dengys ymchwil bod dosbarth cymdeithasol a chefndir sosio-economaidd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion ysgol yng Nghymru
- Yn ol StatsCymru (2019) roedd cyrhaeddiad addysgol plant yng Nghymru a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim yn is ym mhob grwp oed na phlant oeddent yn derbyn prydau ysgol am ddim
- Mae’r data llywodraeth prydain (2018) hefyd yn awgrymu bod hyn yn cael dylanwad ar lefelau cyflogadwyedd oedolion, gan nodi bod oedolion a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim 23% yn llai tebygol o fod mewn gwaith o gymharu a’u cyfoedion nad oeddent yn derbyn prydau ysgol am ddim
- Joseph Rowntree Foundation (2018) = cyrhaeddiad addysgiol disgyblion o’r cyfnod allweddol 2 o gefndiroedd difreintiedig 16% yn is na’r rhai hynny o gefndiroedd nad oedd yn difreintiedig (deprived) - er hynny, adrodda’r ymchwil bod y bwlch wedi lleiahu o 26% yn 2004/2005
- Gruffudd et al (2017) = nodi’r berthynas rhwng cyrhaeddiad addysgol a thlodi mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac dengys yr ymchwil bod ffactorau fel diwylliant budd-daliadau, uchelgais a rhieni sy’n gweithio oriau hir am dal isel yn aml yn dylanwadu ar brofiadau a llwyddiannau disgyblion ysgol