ADRAN B: ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL YNG NGHYMRU Flashcards
1
Q
addysg a pholisi cymdeithasol yng nghymru
A
- Mae addysg yn faes pwysig mewn polisi cymdeithasol yng Nghymru
- adlewyrchu newidiadau cymdeithasol, economaidd, a gwleidyddol cyson o fewn y cymdeithas
- gellid dadlau bod addysg yn fater craidd i lunwyr polisi (policy makers) ac mae’n faes sy’n cwmpasu nifer o elfennau amrywiol
- mae addysg yn cwmpasu nifer o feysydd sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ymhlith disgyblion a myfyrwyr yn seiliedig ar rywedd, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, a hunaniaeth rhywiol
- cynnwys darpariaeth addysg amrywiol h.y. Darparu addysg yn y cyfnodau meithrin, cynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch
- mae addysg hefyd yn un o’r meysydd datganoledig yn Nghymru ac yn y ddau degawd ers datganoli mae polisiau addysgol yng Nghymru wedi dilyn trywydd ychydig yn wahanol i weddill gwledydd Prydain
- mae systemau addysg hefyd yn amrywio o wlad i wlad ac o fewn wledydd penodol hefyd
2
Q
Rhaglen rhyngwladol asesu myfyrwyr (PISA)
A
- ystadegau rhyngwladol yn cymharu cyrhaeddiad addysgol disgyblion ysgolion ledled y byd
- adrodd ar feysydd darllen, mathemateg, a gwyddoniaeth
- PISA 2018 = canolbwyntiwyd ar ddarllen, ac cyflawnodd disgyblion yng Nghymru sgor gymedrig o 483 mewn darllen - roedd hyn yn ystadegol debyg i gyfartaledd yr OECD (487) am y tro cyntaf
3
Q
addysg a pholisi cymdeithasol yng nghymru - addysg yng Nghymru
A
- mae’r system addysg yng Nghymru wedi profi cyfnodau amrywiol ar hyd ei hanes
- yn hanesyddol, gwelwn fod crefydd wedi chwarae rhan hollbwysig mewn cynnig addysg i drigolion Cymru cyn sefydlu system addysg ffurfiol y wladwriaeth.
- gwelwn fod cyfrwng iaith addysg yn nodwedd amlwf o’r system yng Nghymru gydag adroddiad y Comisiynwyr yn 1847 yn sefydlu’r saesneg yn brif iaith addysg yng Nghymru
- cymerodd 100 mlynedd yn union i sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg drwy sefydlu’r ysgol gymraeg gyntaf dan nawdd awdurdod addysg lleol, sef Ysgol Dewi Sant yn 1947
- mae addysg yn aml yn ymateb i newidiadau cymdeithasol amrywiol ac mae’r system addysg yng Nghymru wedi dilyn llwybr unigryw sy’n cynnwys datblygiadau arloesol gyda datblygiad pwysig i ddod cyn hir gyda dyfodiad cwriwcwlwm newydd Cymru