Ymddygiadol Flashcards
Defnyddio technegau cyflyru yn yr ysgol
Athrawon yn defnyddio technegau cyflyru clasurol a gweithredol yn yr ysgol
- Cael ei brofi i fod yn effeithiol pan mae’n dod i reoli ac addasu ymddygiad plant yn yr ysgol
- Hyn yn sicrhau bod eu hymddygiad yn dda a’u bod yn ymddwyn yn dda
Defnyddio technegau cyflyru yn yr ysgol - Tystiolaeth
McAllister et al (1969)
- Darganfod bod defnyddio cymeradwyaeth ac anghymeradwyaeth yn arwain at leihad mewn siarad anaddas yn yr ysgol uwchradd.
Defnyddio technegau cyflyru ar unigolion bregus
- Wedi cael ei feirniadu oherwydd ei fod o’n gostus ac yn ddiangen
- Symptomau yn unig mae’r technegau cyflyru yn eu trin
- Gall yr ymddygiad annymunol ddychwelyd unwaith bydd yr atgyfnerthu yn dod i ben
Defnyddio technegau cyflyru ar unigolion bregus - Tystiolaeth
Lovaas (1987)
- Pobl yn beirniadu’r dull
- Meddwl bod ganddo nifer o broblemau
- Lovaas yn awgrymu bod 40 awr o gyswllt yn ddigon er mwyn allu gweld gwellhad arwyddocaol
Anderson et al (1987)
- Darganfod bod 20 awr o gyswllt yr wythnos yn ddigon i weld gwelliannau.
Canfyddiadau Lovaas ddim yn hollol dilys
Defnyddio technegau cyflyru adre
- Plant yn cael dysgu gwerth arian
- Os ydynt yn cwblhau tasgau nid ydynt yn hoff gwneud, bydd nhw’n cael eu gwobrwyo’n ariannol
- Dysgu sgiliau bydd yn bwysig ar gyfer datblygu ein annibynniaeth.
Defnyddio technegau cyflyru adre - Tystiolaeth
Gill (1998)
- Darganfod bod talu plant i gwblhau tasgau cartref yn golygu eu bod yn perfformio 20% o’r holl dasgau cartref
- Dangos ei fod o’n strategaeth llwyddiannus
- Gill yn gofyn i rieni annog eu plant i gwblhau gorchwylion gwaith ty trwy dalu arian boced (atgyfnerthiad positif) neu ohirio arian poced (cosbi)
Defnyddio technegau cyflyru - Cyfoedion
- Dylanwadu cylch cyfoedion yn rhai cadarnhaol
- Ymchwil Bricker et al (2006) yn dangos nad yw angen plentyn am atgyfnerthu cadarnhaol gan eu cylch cyfoedion bob amser yn opsiwn iach
Defnyddio technegau cyflyru - Cyfoedion - Tystiolaeth
Bricker et al (2006)
- Plant mor ifanc a 10 mlwydd oed yn fwy tebygol o roi cynnig ar ysmygu os oedd aelodau o’u cylch cyfoedion yn ysmygu
Goblygiad Cymdeithasol
- Plant diamddifyn yn gallu elwa’n arbennig o dechnegau cyflyru
- Wrth wneud eu hymddygiad yn fwy “normal”, maent yn fwy tebygol o gael eu derbyn o fewn cymdeithas
- Galluogi iddynt gymryd rhan lawn o fewn cymdeithas, gan arwain at gyflogaeth
Goblygiad cymdeithasol - Tystiolaeth
Levitt et al (2010)
- Cynnwys adolygu rhaglen lle cynigiwyd cymhellion ariannol i blant wella
- Hyn yn arwain at welliannau mewn perfformiad
Goblygiad moesegol
Dau fater yn codi :
- Caniatad dilys
- Gweithio gyda unigolion bregus
- Plant yn cael eu cyflyru gan oedolion heb eu caniatad
- Methu tynnu eu hunain o sefyllfaoedd sy’n peri niwed seicolegol iddynt.
Goblygiad moesegol - Tystiolaeth
Morris (2014)
- Honni bod y ‘cam drwg’ yn gallu cael effaith emosiynol yn hir dymor
Goblygiad economaidd
- Os yw plant yn fwy disgybledig, maent yn fwy tebygol o lwyddo yn yr ysgol
- Hyn yn arwain iddynt gael swydd gwell
- Gallu helpu cryfhau’r economi - Wrth i fwy o bobl gwneud arian, mae mwy o bobl yn talu trethi ac yn gwario ar fusnesau eraill
Goblygiad economaidd - Tystiolaeth
Levitt et al (2010)
- Arian yw’r prif gymhelliant i bobl ifanc a phlant