Biolegol Flashcards
Trin ymddygiad troseddol
- Posib i ni ddod o hyd i driniaeth ar gyfer ymddygiad troseddol wrth ei ddefnyddio
- Ymddygiad troseddol yn deillio o lefelau annormal o niwrodrosglwyddyddion e.e. serotonin, dopamin. - Posib dod o hyd i driniaeth o’r berthynas achos ac effaith drwy ddefnyddio niwrowyddoniaeth
Trin ymddygiad troseddol - Tystiolaeth
Cherek et al (2002)
- Ymchwilio i lefelau byrbwylltra gyda ymddygiad ymosodol mewn dynion gyda hanes o anhwylder ymddygiad troseddol
- Casgliad - Lefelau uwch o fyrbwylltra ac ymddygiad ymosodol mewn dynion gyda hanes o anhren ymddygiad ac ymddygiad troseddol
Deall ymwybyddiaeth
- Methu gwarantu na fydd niwed neu niwed pellach i’r ymennydd
- Astudiaeth Koubeissi - Menyw gyda epilepsi difrifol oedd yr unig cyfranogwr. Methu cyffredinoli
- Ansicr os ydi niwrowyddoniaeth yn mynd i gael effaith ar bobl gyda anhwylderau eraill
Deall ymwybyddiaeth - Tystiolaeth
Koubeissi (2014)
- Ymchwilio fewn i niwrowyddoniaeth ar fenyw 54 oed gyda epilepsi difrifol
- Electrod yn cael ei osod wrth y ‘claustrum’
- Wrth ysgogi - Dynes yn stopio darllen a syllu’n syn. Dim yn clywed gorchmynion clywedol na gweledol
- Ysgogi’n stopio - Menyw yn ennill ei ymwybyddiaeth yn syth. Dim yn cofio beth ddigwyddodd
Gwella gweithrediad niwrolegol
- Niwrowyddoniaeth yn gallu gwella galluoedd niwro-nodweddiol
- Defnyddio technoleg gyda’r gallu i wella perfformiad unigolion ar dasgau academaidd cymhleth e.e. arholiadau
- Defnyddio TDCS yn gallu cyflawni hyn - Pasio cerrynt trydanol ar draws rhannau penodol o’r ymennydd
- Ysgogi’r ymennydd i ddod yn fwy egniol
Gwella gweithrediad niwrolegol - Tystiolaeth
Kadosh et al (2012)
- TDCS yn arwain at welliannau mewn datrys problemau a galluoedd mathemategol, iaith, cof a sylw
- Wedi cael ei profi i gynorthwyo myfyrwyr wrth astudio ar gyfer arholiadau
Gwella technegau marchnata
- Nid yw cael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac ymddygiad defnyddwyr yn newydd
- Niwrofarchnata yn rhoi mynediad i’n meddyliau mewnol
- Torri ein ewyllys rhydd, dileu ein gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a ydym yn prynu cynnyrch neu beidio
Gwella technegau marchnata - Tystiolaeth
Wilson et al (2008)
- Niwrofarchnata yn caniatau hysbysebwyr i gyflwyno negesuon unigol
- Ewyllys rhydd ni’n cael ei fanipiwleiddio gan frandiau mawr
Goblygiad moesegol
- Defnyddio niwrowyddoniaeth mewn trosedd a chosb
- Seilio system farnwrol ar wybodaeth ragarweiniol yn codi pryderon moesegol
- Gwneud i ni gwestiynu a ddylem dynnur bobl sydd gyda strwythurau ymennydd annormal o gymdeithas ar gyfer atal llofruddiaethau posib
Goblygiad moesegol - Tystiolaeth
Raine et al (1997)
- Seilio y system farnwrol ar wybodaeth ragarweiniol yn codi pryderon moesegol
Goblygiad economaidd
- Defnyddio niwrowyddoniaeth i helpu gwella anhwylderau yn gallu arbed biliynau o filoedd i economi Prydain
- Disodli triniaeth cyffuriau gyda thriniaethau eraill niwrowyddoniaeth gyda siawns o arbed llawer o arian i economi’r DU
- Niwrowyddoniaeth yn gallu bod yn ffordd rhatach o wella anhwylderau meddwl
Goblygiad economaidd - Tystiolaeth
Thomas a Morris (2003)
- Iselder oedolion wedi costio £9.1 biliwn i economi Prydain yn 2000
- Costau triniaeth uniongyrchol yn £370 miliwn o’r swm canlynol
- Wedi colli 109.7 miliwn o ddiwrnodau gwaith, 2,615 o farwolaethau oherwydd iselder
Goblygiad cymdeithasol
- Cymdeithas yn gallu bod yn le mwy diogel os all troseddwyr cael eu trin yn seiliedig ar ganlyniadau niwrowyddoniaeth