Uned 2.2 asidau basau a halwynau Flashcards
Beth yw’r Raddfa PH?
Sylweddau a ph isel (llai na 7) yn asidig
Sylweddau a ph o 7 yn niwtral
Sylweddau a ph uwch na 7 yn alcaliaidd
Beth yw alcali?
Mae alcali yn sylwedd sy’n cynhyrchu ïonau hydrocsid, OH -(d), pan gaiff ei hydoddi mewn dŵr
Beth yw asid?
Mae asid yn sylwedd sy’n cynhyrchu ïonau hydrogen, H +(d), pan gaiff ei hydoddi mewn dŵr.
Beth yw hydoddiant asidig?
Hydoddiant asidig yw un sy’n cynnwys crynodiad uwch o ïonau hydrogen o’i gymharu ag ïonau hydrocsid tra bydd gan hydoddiant alcalïaidd grynodiad mwy o ïonau hydrocsid o’i gymharu ag ïonau hydrogen. Pan fydd hydoddiant yn cael ei wanhau, mae’r crynodiad yn lleihau.
Beth yw asidau gwanedig?
Mae asidau gwanedig yn adweithio â metelau cymharol adweithiol fel magnesiwm, alwminiwm, sinc a haearn. Cynhyrchion yr adwaith yw halen a nwy hydrogen. Dyma ffordd dda i’w gofio: MASH (M+A→S+H).
Beth yw niwtraleiddio?
Niwtraleiddio yw adwaith asid gyda bas sy’n arwain at y pH yn symud tuag at 7. Mae’n broses ddefnyddiol sy’n digwydd mewn bywyd bob dydd megis wrth drin diffyg traul asid a thrin pridd asidig trwy ychwanegu calch. Mae niwtraleiddio hefyd yn symud pH alcali i lawr tuag at saith.
Beth yw’r adwaith rhwng asid a charbonad?
Yn yr adwaith niwtraliad rhwng asid a charbonad metel, mae tri chynnyrch. Mae’r ïonau hydrogen (H +) o’r asid yn adweithio â’r ïonau carbonad (CO 3 2-) i ffurfio dŵr a nwy carbon deuocsid. Mae halen yn cael ei gynhyrchu hefyd.
Niwtraliad fel adwaith ïonau hydrogen ag ïonau hydrocsid i ffurfio dŵr?
Beth yw’r hafaliad?
H+(d) + OH-(d)—>H20(h)
Sut i canfod ionau carbonad Co32-?
Ionau carbonad , CO 3 2 - gellir eu canfod mewn cyfansoddyn solet neu mewn hydoddiant. Mae asid, fel asid hydroclorig gwanedig, yn cael ei ychwanegu at y cyfansoddyn praw
paratoi grisialau o halwynau hydawdd,?
Rhowch ar faddon dŵr, a chynheswch nes bod tua hanner y dŵr o’r hydoddiant wedi’i dynnu trwy anweddiad. Rhoi’r gorau i wresogi pan fydd crisialau bach yn dechrau ymddangos o amgylch ymyl y basn anweddu. Arllwyswch yr hydoddiant sy’n weddill i wydr gwylio, a’i adael mewn lle cynnes, sych i grisialu ddigwydd.
Beth yw’r enwau halwynau sy’n cael eu ffurfio gan asid hydroclorig?
asid hydroclorig yn cynhyrchu halwynau clorid. asid nitrig yn cynhyrchu halwynau nitrad. asid sylffwrig yn cynhyrchu halwynau sylffad.
y prawf sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod ïonau SO42-?
Mae ïonau sylffad mewn hydoddiant, SO 4 2 -, yn cael eu canfod gan ddefnyddio hydoddiant bariwm clorid. Mae’r hydoddiant prawf yn cael ei asideiddio gan ddefnyddio ychydig ddiferion o asid hydroclorig gwanedig, ac yna ychwanegir ychydig ddiferion o hydoddiant bariwm clorid. Mae gwaddod gwyn o bariwm sylffad yn ffurfio os oes ïonau sylffad yn bresennol.
Beth yw titradu?
Mae titradiad yn ddull a ddefnyddir i baratoi halwynau os yw’r adweithyddion yn hydawdd. Gellir cyfrifo crynodiad a chyfeintiau adweithyddion o ditradiadau
Sut ydan ni yn paratoi grisialau halwyn?
Rydym ni yn rhoi gormodedd o copr carbonad i fewn i bicer gyda asid sylffwrig.Yna rydym ni yn troelli er mwyn iddynt adweithio.Ar ol hynny rydym ni yn cael papur hidlo er mwyn gwahanu y copr carbonad sydd heb wedi adweithio gyda’r copr sylffad a dwr.Yn olaf mae’n anweddu,mae’r dwr yn troi’r stem ac gan adael crisialau copr ocsid.