Uned 2.1 bondio adeiledd a priodweddau Flashcards
Beth yw priodweddau metelau?
Ymdoddbwynt uchel Dargludydd trydan da Dargludyddion gwres da Hydrin Hydwyth
Beth yw cyfansoddyn ionig?
Cyfansoddyn ionig yw cyfansoddyn syn cael eu ffurfio gan ionau’n bondio ai gilydd trwy rymoedd electrolastig
Beth yw sylweddau cofanet enfawr?
Mae gan sylweddau cofalent enfawr ymdoddbwyntiau a berwybwyntiau uchel oherwydd mae bond cofalent yn cryf felly mae agen llawer o egni i dorri’r strwythurau mawr hyn wrth doddi a berwi.
Beth yw enghreifftau o sylweddau cofalent enfawr?
diemwnt
graffit
silicon deuocsid
Beth yw bond cofalent?
caiff bond cofalent ei ffutfio pan fydd dau atom anfetelig yn rhannu par o electronau er mwyn cael plisg allanol llawn.
Beth yw’r adeiledd o for o electronnau?
Yn y model “môr electron”, mae atomau mewn solid metelaidd yn colli eu electronau allanol ac yn ffurfio dellten reolaidd o ïonau metelaidd positif. Nid yw’r electronau allanol yn “perthyn” i unrhyw atom ond yn ffurfio pwll neu fôr o electronau dadleoli sy’n rhydd ac yn symud ar hap trwy gydol dellten sefydlog ïon positif.
Beth yw atomau?
*
**Mae atom ei hun yn cynnwys tri math bach o ronynnau a elwir yn ronynnau isatomig: protonau, niwtronau ac electronau*
Beth yw bond ionig?
Bond ionig yw pan fydd metel yn trosgwlyddo electronnau i anfetel.Mae hyn yn cael ei gwneud er mwyn cael plisgyn allanol llawn electronig.
Beth yw adeiledd inonig enfawr?
Mae adeileddau ïonig anferth yn foleciwlau wedi’u gwneud o nifer fawr o ïonau metel ac anfetel wedi’u cysylltu â bondiau ïonig. Mae’r ïonau mewn adeiledd ïonig anferth wedi’u trefnu mewn dellten reolaidd (patrwm o elfennau sy’n ailadrodd.
Fathau o bond cofalent?
Bond cofalent sengl
Bond cofalent dwbl
Bond cofalent triphlyg
Beth yw diemwnt?
Dydy diemwnt ddim yn dargludo trydan
Mae diemwnt yn fath o garbon lle mae pob atom carbon wedi’i gysylltu â phedwar atom carbon arall, gan ffurfio adeiledd cofalent enfawr. O ganlyniad, mae diemwnt yn galed iawn ac mae ganddo ymdoddbwynt uchel iawn, dros 3500oC.
Beth yw graffit?
Beth yw graffit?
Mae graffit yn dargludo trydan
Mae graffit yn fath o garbon lle mae’r atomau carbon yn ffurfio haenau. Mae pob atom carbon mewn haen wedi’i gysylltu â thri atom carbon arall .Mae pedwerydd electron pob atom carbon yn dadleoli rhwng yr haenau. Dyma pam mae graffit yn dargludo trydan.Mae’r haenau’n gallu llithro dros ei gilydd oherwydd does dim bondiau cofalent rhyngddynt. Mae hyn yn golygu bod graffit yn llawer meddalach na diemwnt. Rydyn ni’n ei ddefnyddio mewn pensiliau ac fel iraid
Beth yw nanodiwbiau?
Mae nanodiwbiau carbon yn un math o ffwleren.Mae nhwn diwbiau ar raddfa foleciwlaidd o ffurf garbon tebyg i graffit ac mae ganddynt briodweddau arbennig.Mae gan nanotiwbiau carbon ymdoddbwynt uchel iawn, gan fod pob atom carbon yn cael ei gysylltu â thri atom carbon arall gan fondiau cofalent cryf.
Beth yw ffwleren?
Allotrope o garbon yw ffwleren y mae ei foleciwl yn cynnwys atomau carbon wedi’u cysylltu gan fondiau sengl a dwbl er mwyn ffurfio rhwyll gaeedig neu rannol gaeedig, gyda chylchoedd ymdoddedig o bump i saith atom.
Beth yw graffen?
Mae graphene yn allotrope o garbon sy’n cynnwys un haen o atomau wedi’u trefnu mewn nanostrwythur dellt diliau dau-ddimensiwn.