systemau cylchrediad Flashcards
beth yw system agored
Caiff gwaed ei bwmpio i geudod gwaed, yn
trochi’r organau ac yn dychwelyd yn araf i’r
galon, gydag ychydig iawn o reolaeth dros
gyfeiriad y llif. Nid yw gwaed wedi’i gynnwys
mewn pibellau gwaed.
beth yw system caeedig
gwaed yn teithio trwy bibellau gwaed gyda’r ysgogiad yn cael ei gynhyrchu gan bwmp cyhyrol neu galon.
ydi pryfed gyda haemoglobin i cludo ocsigen
na mae gen nhw haemolymff
beth yw mantais system cylchrediad caeedig
gwaed yn cael ei ddarparu’n gyflym i feinweoedd
beth yw cylchrediad sengl
Mae dwy siambr i’r galon; yr atriwm, sy’n cael gwaed dadocsigenedig o wythiennau’r corff, a’r fentrigl, sy’n pwmpio’r gwaed i’r capilarïau tagellau drwy rydwelïau afferol. Mae’r gwaed yn ennill ocsigen ac yn llifo drwy rydwelïau echddygol i’r organau.
beth yw anfantais cylchrediad sengl
gwaed yn colli pwysau o amgylch y gylchred, gan arwain at gylchrediad arafach.
beth yw cylchrediad dwbl
Mae’r gwaed yn mynd drwy’r galon ddwywaith mewn un cylchrediad o’r system. Mae ochr dde’r galon yn pwmpio gwaed i’r ysgyfaint ar gyfer cyfnewid nwyon (cylchrediad ysgyfeiniol). Mae’r gwaed yn dychwelyd i’r galon ac mae’n cael ei bwmpio allan i’r meinweoedd o’r ochr chwith (cylchrediad systemig).
beth yw manteision cylchrediad dwbl
gwaed yn cael ei ailwasgeddu (repressurized) pan fydd yn gadael yr arwyneb cyfnewid nwyon, gan roi cylchrediad cyflymach a mwy effeithlon i’r meinweoedd.
beth yw system cylchrediad pryfed
beth yw system gylchrediad pryfed genwair
beth yw system gylchrediad pysgod
beth yw system gylchrediad mamolion