hylif meinweol Flashcards
1
Q
beth ys swyddi hylif meinweol
A
-ymdrochi pob cell
-helpu i gynnal amgylchedd cyson o amgylch celloedd
-cyflenwi ocsigen, glwcos, hormonau ac ïonau i gelloedd
-tynnu gwastraff o gelloedd.
2
Q
beth yw hylif meinweol
A
hydoddiant o ocsigen, asidau brasterog, asidau amino, glwcos, hormonau ac ïonau.
3
Q
beth yw camau ffurfio hylif meinweol
A
- Ar ben rhydwelïol y gwely capilarïau, mae’r gwasgedd hydrostatig yn uwch na’r gwasgedd osmotig.
- Caiff dŵr a moleciwlau hydawdd bach eu gwthio drwy furiau’r capilarïau, gan ffurfio hylif meinweol rhwng y celloedd.
- Mae proteinau a chelloedd yn y plasma yn rhy fawr i’w gorfodi allan.
- Oherwydd y cyfaint gwaed is a’r lleihad mewn ffrithiant, mae’r pwysedd gwaed yn gostwng ac mae’n symud drwy’r capilarïau.
- Ar ben gwythiennol y gwely capilarïau, mae gwasgedd osmotig y gwaed yn uwch na’r gwasgedd hydrostatig.
- Mae’r rhan fwyaf o’r dŵr o’r hylif meinweol yn symud yn ôl i mewn i’r capilarïau gwaed (i lawr ei raddiant potensial dŵr). Mae gweddill yr hylif meinweol yn dychwelyd i’r gwaed, drwy’r pibellau lymff.