System Nerfol Flashcards
Swyddogaeth y system nerfol
- ymateb i newidiadau i’r amgylchedd mewnol ac allanol
- prosesu gwybdoaeth
3.dechrau ymateb
2 Prif system nerfol
- ymennydd
- madruddyn y cefn
System Nerfol Perifferol
- gwneud parau o nerfau sy’n deillio o’r ymennydd a fadruddyn y gefn
- cynnwys nerfau synhwyraidd a echddygol
Y System Nerfol: mathau o derbynyddion
- derbynyddion golau yn y llygaid
- derbynyddion sain yn y glust
- derbynyddion blas ar y tafod
- derbynyddion arogl yn y trwyn
- derbynyddion cyffyrddiad, gwasgedd a thymheredd yn y croen
- derbynddion canfod newid sefyllfa yn y glust , cydbwysedd
Amrywiad o Dderbynyddion
- MECANODDERBYNYDDION : newid mewn symudiad, gwasgedd, tyfiant, disgyrchiant a seindonnau
- CEMODERBYNYDDION: blas, arogl
- ELECTRODDERBYNYDDION: tymheredd
- THERMODDERBYNYDDION : tymheredd
- FFOTODERBYNYDDION: goleuni, pelydrau electromagnetig
Derbyn symbyliad ac Ymateb
- TRAWSDDYGIAD: derbynyddion yn casglu gwybodaeth synhwyraidd ac yn ei thrawsnewid i ysgogiadau nerfol
- TROSGLWYDDIAD: niwronau synhwyraidd y trosglwyddo y.n. i’r brif system nerfol (PSN)
- PROSESU: PSN prosesu’r gwybodaeth fel gall yr anifail ymateb mewn modd addas i’r newidiadau yn yr amgylchedd
Gweithred Atgyrch
- DERBYNYDDION yn y croen yn cael eu symbylu wrth gyffwrdd a gwrthrych poeth
- anfon ysgogiadau nerfol ar hyd y NERF SYNHWYRAIDD i fadruddyn y gefn
- ysgogiadau’n teithio ar draws SYNAPS i NERF CYSYLTIOL yn madruddyn y cefn
- neges yn cael ei pasio ar draws SYNAPS i’r NERF ECHDDYGOL mwyaf addas
- nerf echddygol yn trosglwyddo’r neges i’r EFFEITHYDD yn y fraich sef y cyhyrau
Madruddyn y Cefn
mae gweithrediadau gwirfoddol yn cynnwys yr hemisfferau cerebrol yn cyd-drefnu a throsglwyddo gwybodaeth frwy fadruddyn y cefn
Swyddogaeth y madruddyn y cefn
trosglwyddo ysgogiadau i mewn ac allan o unrhyw bwynt penodol ar hyd y madruddyn, ac i drosglwyddo ysgogiadau i fyny ac i lawr y corff, gan cynnwys i mewn ac allan o’r ymennydd
Nerfrwydau mewn organeb syml
- nid oes gan organebau syml lawer o dderbynyddion ac effeithyddion
-Mae’r derbynyddion synnwyr yn ymateb i nifer fechan o ysgogiadau ac mae nifer yr effeithyddion yn fychan
Sarff Nawpen (hydra)
- dim ymennydd na chyhyrau fel y cyfryw
- system nerfol a elwir yn nerfrwyd
- nerfrwydau yn cysylltu golaeudderbynyddion synhwyraidd gyda nerfgelloedd sy’n sensitif i gyffyrddiad ym mur y corff ac yn y tentaclau
- Nerfrwyd yn cynnwys nerfgelloedd syml gydag estyniadau byr wedi cysylltu gyda’i gilydd sy’n canghennu i wahanol gyfeiriadau
- trosglwyddir yr ysgogiadau yn araf
3 math o niwron
- SYNHWYRAIDD: cludo ysgogiadau o’r organebau synhwyro
- ECHDDYGOL: cludo ysgogiadau o’r PSN
- CYSYLLTIOL: derbyn ysgogiadau o’r niwron synhwyraidd ac yn cludo i niwronau motor eraill
Nodweddion Nerf Echddygol
- gronigyn Nissl
- Dendridau
- Acson
- Nod Ranvier
- Cnewyllyn y gell schwann
Gronigyn Nissl
grwpiau o ribosomau sydd wedi grwpio gyda’i gilydd
ymwneud a ffurffio sylweddau niwrodrosglwyddydd
Dendridau
estyniadau sy’n derbyn ysgogiadau oddi wrth nerfgelloedd eraill ac yn cludo gwybodaeth tuag at y corffgell
Acson
estyniad cytoplasmig sy’n orchuddio’r pilen, trosglwyddo ysgogiadau o’r cellgorff
Nod Ranvier
mannau tenau sy’n bwysig o ran trosglwyddo ysgogiadau
Cnewyllyn y Gell Schwann
cynnal y niwronau
gallent tyfu o amgylch acsonau’r nerfgell i ffurfio pilen fyelin brasterog amlhaenog sy’n bresennol yn systemau nerfol fertebretau yn unig
trosglyddo wybodaeth o fewn y system nerfol
trosglwyddo ysgogiad nerfol
- trwy osod microelectrodau yn yr acsonau a mesur yr newidadau yn y wefr trydanol gwelwyd bod newidiadau yn y wefr tu fewn i bilen yr acson i gymharu a thu allan
Potensial Gorffwys
- gelwir hyn yn potensial gorffwys yr acson - sef y gwahaniaeth potensial rhwng tu mewn a thu allan pilen pan nad oes -ysgogiad nerfol yn cael ei ddargludo
- nodweddiadol mae gan potensial gorffwys gwerthoedd minws
Potensial Gorffwys: pam bod gwahaniaeth yn y wefr
1.trosglwyddir ionau Na a K ar draws y bilen yn erbyn graddiant crynodiad trwy cludiant actif
2. pympiau cyfnewid sodiwm-potasiwm sy’n cynnal y crynodiad dosbarthiad
3. mae dosbarthiad anwastad o ionau Na a K ar draws y bilen
4. Na yn symud allan o’r acson, K symud i fewn i’r acson
5. mae ionau Na yn pasio allan yn gyflymach nag mae’r ionau K yn pasio i fewn
6. gall ionau K tryledu yn ol allan yn gyflymach nag ionau Na
7.CANLYNIAD NET = tu allan i’r acson yn fwy positif na’r tu fewn
Potensial Gweithredu
- pan fydd acson yn cael ei ysgogi, fydd newid yn y potensial ar draws y bilen, o werth mewnol o -70mV i werth allanol o +40mV - POTENSIAL GWEITHREDU
- dywedir bod y bilen wedi ei dadbolaru
- Canlyniad - cynnydd sydyn yn athreiddedd y bilen i Na sef y potensial gweithredu
- mae’n caniatau i Na lifo i mewn yn sydyn, sy’n dadbolaru’r bilen
Ailbolaru
ar ol y dadbolaru hwn (llai nag eiliaid) mae’r ionau K yn tryledu allan ac mae hyn yn ailbolaru’r bilen
Cyfnod Diddigwydd
- mae gormod o K+ yn gadael wrth i’r pwmp K+/Na+ adfer y cydbwysedd ionig. Dyma’r cyfnod diddigwydd
- yn ystod hwn nid oes modd cynhyrchu potensial gweithredu arall - sicrhau bod yr ysgogiad i un cyfeiriad yn unig ac yn cyfyngu ar yr amledd
- yn ystod y cyfnod rhwng dadbolaru ac ailbolary ni all ysgogiadau goroesi
olin osgliliosgop
diagram madruddyn y cefn
diagram nerf echddygol
Deddf ‘popeth neu ddim’
er mwyn i botensial gweithredol gael ei ffurfio, mae’n rhaid i’r symbyliad gyrraedd trothwy arddwysedd arbennig
Derbyn Symbyliad ac ymateb
- derbynyddion yn trawsnewid yr egni o’r symbyliad yn botensial trydanol sydd mewn cyfranned a chryfder y symbyliad
- gelwir y potensial graddedig hwn yn botensial derbynnydd neu botensial generadu
Addasiad Synhwyraidd
wrth dderbyn symbyliad digyfnewid, bydd y mwyafrif o dderbynyddion yn peidio ag ymateb er mwyn peidio a gorlwytho’r system synhwyraidd a gwybodaeth ddiangen: addasiad synhwyraidd
- bydd y potensial generadu yn lleihau yn raddol wrth ymateb i symbyliad parhaus
- wedi iddo disgyn o dan y trothwy bydd y potensial gweithredu yn peidio
Ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflymder dargludo’r ysgogiad nerfol
- Myeliniad
- Diamedr yr Acson
Myeliniad
- cyflymu cyfradd trawsyrru ysgogiadau drwy gynyddu’r pellter lle gall y ceryntau lleol achosi dadbolaru
- mae myelin yn atal colli gwefr/ symudiad ionau o’r acson gan hefyd ynysu ac atal dadbolaru
- mae bylchau rhwng celloedd Schwann o’r enw nodau Ranvier. Nid oes myelin yn bresennol yn y nodau
- dim ond ar nodau Ranvier mae dadbolaru yn bosibl
- dim ond ar y nodau/ lle nad oes myelin y gall potensial gweithredu ffurfio
- dim ond yn y nodau y gall sianeli agor a chau
- potensial gweithredu yn neidio o un nodyn i’r llall ac yn gwneud cylchedau lleol yn hirach gan trawsyrru ysgogiad nerfol yn gyglymach
Diamedr yr Acson
- po fwyaf yw diamedr yr acson, mwyaf yw cyflymder y trawsyriad
- mae cyflymder y trawsyrriad yn dibynnau ar hyn - fwyaf y diamedr, lleiaf y gwrthiant gan fod yr arwynebedd yn fwy sy’n caniatau mwy o gyfnewid ionau
- mae angen ATP ar gyfer y broses (cludiant actif)
Synaps
- nid oes gan niwronau gysylltiad uniongyrchol a’i gilydd - gwahanu gan fylchau bach o’r enw synapsau
- prif swyddogaeth y synaps - trawsyrru gwybodaeth rhwng niwronau, trosglwyddo ysgogiadau i un cyfeiriad yn unig, gweithredu fel cysylltau a ddidoli ysgogiadau lefel isel
Adeiledd Synaps
- rhan fwyaf o gysylltau rhwng niwronau ar ffurf synapsau cemegol
- canghennau acsonau yn gorwedd yn agos at ddendridau niwronau eraill ond nid yn cyffwrdd a’i gilydd: bwlch o tua 20nm rhyngddynt
- pan fydd ysgogiadau yn cael eu trawsyrru, mae’r bwlch hwn yn cael ei groesi gan niwro-drawsyrrydd sy’n cael ei secretu o bilen yr acson, ac sy’n tryledu ar draws y bwlch i symbylu pilen y dendriau
Trawsyriant Synaptig
- pan fydd ysgogiadau yn cyrraedd y bwlyn synaptig mae’r athreiddedd yn newid, gadael i ionau calsiwm fynd i mewn iddo
- mewnlifiad ionau calsiwm gwneud i’r fesigl synaptig asio gyda’r bilen rag-synaptig
- pan fydd y trawsyrrydd yn tryledu ar draws y hollt synaptig mae’n cydio wrth safle derbyn ar y bilen ol-synaptig gan ei dadpolaru
- hyn yn cychwyn ysgogiad yn y niwron nesaf
- bilen ol-synaptig cynnwys derbynyddion protein penodol ac mae’r moleciwlau’r trawsyrrydd yn cyfuno a’r rhain
- unwaith iddynt cyfuno, sianeli protein agor y bilen gan adael i ionau sodiwm, dryledu o’r hollt i’r niwron ol-synaptig
- os bydd y bilen yn cael ei dadpolaru ddigon, caiff potensial gweithredu ei gychwyn yn acson y niwron ol-synaptig
- pan caiff asetylcolin ei ryddhau, mae’n cael ei ddinistrio’n gyflym gan ensymau yn yr hollt synaptig
- felly mae ei effaith yn gyfyngiedig ac yn rhwystro ysgogiadau rahg rhedeg i’w gilydd
- os nad oes digon o asetylcolin yn cael ei ryddhau ni fydd y bilen ol-synaptig yn cael ei hysgogi
- adwaith cynhyrchu colin ac asid ethanoig rhain yn tryledu ol ar draws yr hollt synaptig ar gyfer cael eu defnyddio eto
- sylwedd trawsyrru arall yw naroadrenalin. ceir hwn ynghyd ag asetylcolin yn y system nerfol awtomatig
Effaith Cyffuriau
- dau fath o gyffuriau sy’n ymyrred a thrawsyriant synaptig:
1. CYFFURIAU CYNHYRFOL - cynyddu proses trawsyriant synaptig. Creu mwy o weithrediadau potensial yn y pilen ol-synaptig e.g. tobacco, cannabis, cocaine, heroin, ecstasi
2. CYFFURIAU ATALIOL - atal trawsyriant synaptig: llai o weithrediadau potensial yn mhilenni ol-synaptig e.e. pryfleiddiad