Homeostasis ac Arennau Flashcards
Ystyr Homeostasis
rheoli amgylchedd mewnol y corff
Pa nodweddion ydy’r corff angen rheoli er mwyn cadw amgylchedd mewnol y corff yn gyson
- Crynodiad Carbon Deuocsid
- Wrea
- Crynodiad Ionau
- Cyfaint Dwr
- Crynodiad Siwgr
- Tymheredd
Sylweddau gwastraff sydd angen eu hysgarthu
CO2: cynhyrchu gan resbiradaeth, gadael trwy’r ysgyfaint
Wrea: cynhyrchu yn yr afu wrth dorri lawr asidau amino, ysgarthu gan yr arennau
Amodau mewnol sydd angen eu rheoli
Tymheredd: cynyddu drwy grynu, gostwng drwy chwysu
Cynnwys Ionau: cynyddu drwy fwyta, gostwng drwy chwysu a wrin
Cynnwys Dwr: cynyddu drwy yfed, gostwng trwy chwysu a wrin
Glwcos Gwaed: cynyddu a gostwng gyda hormonau
Adborth Negatif: Homeostasis
- pwynt gosod ffactor yw’r norm lle mae’r system yn gweithredu
- derbynnydd yn canfod lefel y ffactor ac unrhyw wyriad oddi wrth y pwynt gosod
- mae’r derbynnydd yn anfon cyfarwyddiadau at gyd drefnydd neu rheolydd
- mae’r cyd-drefnydd yn cyfathrebu ag un neu fwy o effeithyddion h.y. cyhyrau a chwarennau
- mae’r ffactor yn mynd yn ol i’r lefel normal, wedi’i monitro gan y derbynnydd ac mae’r effeithyddion yn cael adborth i ddweud wrthyn nhw am stopio gwneud y cywiriad
Dwy prif swyddogaeth yr aren
- Ysgarthu: cael gwared ar wastraff metabolaidd nitrogenaidd o’r corff
2.Osmoreolaeth: rheoli potensial dwr hylifau’r corff drwy reoli cynnwys dwr, ac felly grynodiad hydoddion
Cynhyrchu Wrea
- protein o’r deiet yn cael ei dreulio i ffurfio asidau amino sy’n cael eu cludo i’r afu/iau ac yna o gwmpas y corff
- mae unrhyw ormodedd asidau amino’n cael ei ddadamineiddio yn yr afu/iau gan drawsnewid y grwp amino i’r wrea
Ble mae Uwch Hidlo yn digwydd
Cwpan Bowman
Uwch Hidliad
- gwaed yn cyrraedd yng nghapilariau’r glomerwlws o’r rhydweliyn afferol
- gwaed sy’n mynd i’r glomerwlws yn cael ei wahanu oddi wrth y gofod y tu mewn i gwpan bowman
- mae’r pwysedd gwaed uchel yng nghapilariau’r glomerwlws yn gorfodi hydoddion a dwr drwy ffenestri’r capilariau, drwy’r bilen waelodol a thrwy’r agennau hidlo rhwng y pedicelau i mewn i geudod cwpan bowman
- hidlo dan wasgedd uchel yw uwch-hidlo
Uwch Hidliad: hydoddion a’r dwr sy’n cael ei gorfodi i mewn i’r cwpan bowman sy’n gwneud hidlif glomerwlaidd
- Dwr
- Glwcos
- Halwynau
- Wrea
- Asidau Amino
Addasiadau ar gyfer uwch hidliad
- haen cyntaf o gelloedd ym mur y capilari: cynnwys nifer o fylchiau
- pilen waelodol: ymddwyn fel hidl
- pilen waelodol: ffurfio rhwystr detholus rhwng y gwaed ac mae’n neffron yn ymddwyn fel gogr moleciwlaidd
- ail haen o gelloedd yn ffurfio mur y cwpan bowman: podocytau
- podocytau: alldyfiannau fel traed sy’n gafael yn y bilen waelodol ac mae bylchiau bach rhyngddynt sy’n cynorthwyo broses o hidlo
Cynorthwyo uwch hidlo
GWASGEDD
- gwasedd hydrostatig y gwaed yn capilariau’r glomerwlws
- pibellau gwaed echddygol yn cyl a hefyd gan potensial dwr y gwaed a gynhyrchir gan broteinau plasma coloidaidd
Adamsugniad Detholus
broses o adamsugno cynhyrchion defnyddiol megis glwcos a halwynau i mewn i’r gwaed wrth i’r hidlif lifo ar hyd y neffron
Y tiwbyn troellog procismol
- holl glwcos a’r rhan fwyaf o’r dwr a’r halwyn yn cael eu hadamsugno yn y tiwbyn troellog procsimol
- caiff glwcos eu hadamsugno trwy gludiant actif
Piben Arennol Agosaf
- 80% o adamsugniad yn digwydd yn y rhan yma o’r neffron gan fod y glwcos a’r asidau amino yn tryledu i fewn i’r celloedd epithelial: yna cludo’n actif i fewn i’r hylif meinweol ac yna’n tryledu i’r capilariau
- Ionau Na+ a Cl- cludo’n actif i mewn i’r celloedd epithelial sy’n achosi i ddwr symud i mewn drwy osmosis
Adamsugno dwr a hyddoddion eraill
Yn ogystal â glwcos, bydd y tiwbyn arennol agosaf yn adamsugno asidau amino, fitaminau, hormonau, ionau sodiwm, mwynau hydawdd eraill a dwr
Adamsugniad Pellach
Caiff ychydig iawn o ddwr a halwyn ei hadamsugno yn y tiwbyn troellog pen pellach ond caiff y rhan fwyaf o ddwr sydd ar ol ei adamsugno yn y dwythell gasglu gan fecanwaith sy’n gysylltiedig ar ddolen Henle