Dosbarthiad a bioamrywiaeth- Terminoleg Flashcards
Rhywogaethau estron
Rhywogaeth sy’n cael ei chyflwyno i ardal (lle na fyddai’n cael ei chanfod fel arfer) er mwyn rheoli plâu neu bathogenau penodol
Bacteria
Math o bathogen ungellog a phrocaryotig
Addasiadau ymddygiadol
Addasiadau yn ymddygiad organeb i gynyddu ei siawns o oroesi
Bioamrywiaeth
Amrywiaeth a nifer y gwahanol rywogaethau mewn ardal
Dal-ail-ddal
Dull o amcangyfrif maint poblogaeth
Dosbarthiad
Grwpio organebau sydd fel arfer yn seiliedig ar debygrwydd mewn nodweddion morffolegol , nodweddion ymddygiadol, a patrwm DNA
Cystadleuaeth
Pan fydd organebau gwahanol yn cystadlu am yr un adnoddau (e.e. bwyd, lloches a ffrindiau) mewn ecosystem. Mae’n cyfyngu ar faint y boblogaeth
Cadwraeth
Cadw a rheoli’r amgylchedd neu adnoddau naturiol yn ofalus
Clefyd
Salwch sy’n effeithio ar iechyd anifeiliaid neu blanhigion
Ecosystem
Y gymuned o organebau a chydrannau anfyw ardal a’u rhyngweithiadau
Amrywiaeth ecosystemau
Yr amrywiaeth o wahanol ecosystemau mewn ardal
Ecodwristiaeth
Twristiaid sy’n cael ei yrru tuag at amgylcheddau naturiol er budd cynlluniau cadwraeth lleol
Rhywogaeth mewn perygl
Rhywogaeth sydd mewn perygl o farw allan yn llwyr
Planhigion blodeuol
Grwp o blanhigion sy’n blodeuo
Ffyngau
Math o organeb sy’n ewcaryotig ac yn gallu bod yn ungellog neu’n amlgellog