2.4 Cyfansoddion Organig Flashcards
Diffiniwch Hydrocarbon
Cyfansoddyn o garbon a hydrogen yn unig
Diffiniwch grwp gweithredol
Yr atom/grwp o atomau sy’n rhoi ei briodweddau nodweddiadol i’r cyfansoddyn
Diffiniwch gyfansoddyn dirlawn
Un sydd ddim yn cynnwys bondiau lluosol C i C
Diffiniwch gyfansoddyn annirlawn
Un sy’n cynnwys bondiau lluosol C i C
Diffiniwch alcanau
Hydrocarbonau dirlawn
Diffiniwch alcenau
Hydrocarbonau annirlawn
Diffiniwch halogenoalcanau
Cyfansoddion lle mae halogen(au) wedi cymryd lle un neu fwy o atomau hydrogen mewn alcan
Diffiniwch alcoholau cynradd (1*)
Cyfansoddion sy’n cynnwys -OH fel y grwp gweithredol
Diffiniwch asidau carbocsilig
Cyfansoddion sy’n cynnwys -C(=O)-OH
Rhowch nifer yr atomau carbon mae’r codau canlynol yn cyfeirio atynt;
1) Hecs
2) Meth
3) Dec
4) Non
5) Hept
6) Prop
7) Eth
8) Oct
9) Bwt
10) Pent
1) 6
2) 1
3) 10
4) 9
5) 7
6) 3
7) 2
8) 8
9) 4
10) 5