2.1 Thermocemeg Flashcards
Diffiniwch enthalpi, H
Y gwres sy’n cael ei gynnwys mewn system ar wasgedd cyson
Diffiniwch newid enthalpi
Y gwres sy’n cael ei ychwanegu at system ar wasgedd cyson
Diffiniwch newid enthalpi ffurfiant safonol
Y newid enthalpi pan fydd un môl o sylwedd yn cael ei ffurfio o’r elfennau sy’n ei ffurfio yn eu cyflyrau safonol o dan amodau safonol
Diffiniwch newid enthalpi hylosgiad safonol
Y newid enthalpi pan fydd un môl o sylwedd yn cael ei hylosgi’n llwyr mewn ocsigen o dan amodau safonol
Diffiniwch enthalpi bond
Enthalpi sydd ei angen i dorri bond cofalent X-Y gan ffurfio atomau X ac atomau Y, pob un yn y cyflwr nwyol
Diffiniwch enthalpi bond cyfartalog
Y gwerth cyfartalog yr enthalpi sydd ei angen i dorri math penodol o fond cofalent mewn anrywiaeth o folecylau yn y cyflwr nwyol
Diffiniwch ddeddf Hess
Deddf sy’n nodi bod cyfanswm y newid enthalpi ar gyfer adwaith yn annibynnol ar y llwybr o’r adweithyddion i’r cynhyrchion
Rhowch yr hafaliad ar gyfer newidiadau enthalpi ffurfiant
ΣAfH(Cynhyrchion) - ΣAfH(Adweithyddion)
Beth yw’r cynhwysedd gwres sbesiffig?
Yr egni sydd ei angen i godi tymheredd 1g o sylwedd 1K (gwerth 4.18)
Rhowch hafaliad maint y gwres sy’n cael ei drosglwyddo
q = mcAT m yw más yr hydoddiant yn y cwpan C yw cynhwysedd gwres sbesiffig
Enwch yr amodau safonol
1 atm, 298k
Cafodd 0.100g o Mg ei ychwanegu at 50.0cm3 o hydoddiant asid sylffwrig gyda chrynodiad o 1.00moldm-3 mewn cwpan polystyren. Yn ol y cyfrifiad, uchafswm y newid tymheredd oedd 9.6oC.
Cyfrifwch y newid enthalpi ar gyfer yr adwaith:
Mg(s) + H2SO4 → MgSO4(d) + H2(n)
Cam 1: Cyfrifwch faint o wres a gafodd ei drosglwyddo yn yr arbrawf. Dim ond 50.0cm3 o hydoddiant, ac felly’r masyw 5g
q = mcAT = 50 x 4.18 x 9.6 = 2006J
Cam 2: Cyfrifwch symiau’r adweithyddion, mewn molau.
Molau Mg = 0.100/24.3 = 0.00412
Molau H2SO4 = 1 x 0.050 = 0.050
Felly, nid Mg sydd mewn gormodedd a dyna sy’n cael ei defnyddio yn y cyfrifiad
Cam 3: Cyfrifwch newid enthalpi molar
AH = -q/n = -2006/0.0014 = -486,893mol-1 = -487kJmol-1
Disgrifiwch sut y byddech yn darganfod newid enthalpi hylosgiad ar gyfer tanwydd
- Gadewch fwlch addas rhwng gwaelod y cynhwysydd metel.
- Mesurwch yn fanwl gywir faint o ddwr sy’n cael ei roi yn y cynhwysydd metel.
- Defnyddiwch thermomedr manwl gywir i fesur tymheredd cychwynnol y dwr. Pan fyddwch wedi cael gwerth sefydlog, cofnodwch y tymheredd.
- Pwyswch y llosgydd gwirodydd sy’n cynnwys y tanwydd a chofnodwch y mas cychwynnol
- Ar ol cynnau’r wic, newidiwch y bwlch rhwng y cynhwysydd metel a’r llosgydd gwirodydd os oes angen
- Gadewch i’r tanwydd wresogi’r dwr i dymheredd addas (mae cynnyd o ryw 20oC yn ddigon - y lleiaf yw’r cynnydd, y mwyaf yw’r cyfeiliornad ar y thermomedr)
- Diffoddwch y fflam a chofnodwch uchafswm y tymheredd terfynol.
- Gadewch i’r llosgydd gwirodydd oeri’n llwyr cyn ei bwyso eto a chofnodwch y mas terfynol.
Mae’r gwerth yn llai na’r gwerth gwirioneddol achos;
- Bydd rhywfaint o’r egni sy’n cael ei drosglwyddo o’r tanwydd sy’n llosgi’n cael ei golli wrth wresogi’r cyfarpar a’r amgylchedd
- Nid yw’r tanwydd yn hylosgi’n llwyr.
Diffiniwch galorimedr
Rhywbeth sy’n ynysu