Y Cod Genynnol Flashcards
Trawsgrifiad
Mecanwaith ar gyfer trawsnewid dilyniant basau genyn ar linyn DNA yn ddilyniant basau cyflenwol mRNA
Dyblygiad Lled- Gadwrol
Moleciwl DNA yn rhannu i ddwy gadwyn un ochrog dad-ddirlwyn. Niwcleotidau rhydd yn cyfateb gyda’r basau ategol â ddatgysylltir yn ymuno â’r cadwyni drwy gymorth yr ensym DNA Polymeras
Trosiad
mRNA yn cael ei ddal gan y ribosom sydd â dau safle clymu RNA trosglwyddo
Transcriptas Cildroi
Techneg arall o gael y genyn yw echdynnu mRNA sy’n codio am brotein arbennig o gell a defnyddio’r ensym transcriptas Cildroi a DNA polymeras i greu’r genyn
Ensym DNA ligas
Mae’r ensym DNA Ligas yn gweithredu fel glud. Mae’n helpu uno 2 ddarn o DNA gyda’i gilydd. Mae pennau gludiog yn helpu’r uno
Plasmidau
Nid yw bacteria yn barod I dderbyn DNA/ genyn estron achos byddant yn ymosod ar y DNA estron gydag endomiwclysau cyfyngu gan dorri’r genyn i ddarnau.
Gellir cuddio genyn/DNA estron mewn plasmid sef cylch o DNA a welir mewn bacteria. Os cyflwynir y genyn estron mewn plasmid I facteriwm bydd yn ei dderbyn