uned 4 Flashcards
How to increase field strength in a solenoid?
-adding an iron core
Deddf disgyrchiant
Newton
Mae’r grym disgyrchiant rhwng dau ronyn mewn cyfrannedd
union â lluoswm eu masau, m1 ac m2 ac mewn cyfrannedd
gwrthdro â sgwâr eu gwahaniad, r2
. lle G yw’r cysonyn
disgyrchol.
Deddf Coulomb
Mae’r grym electrostatig, F, rhwng dau gorff bach mewn cyfrannedd union â lluoswm eu gwefrau, Q1 a Q2, ac mewn
cyfrannedd gwrthdro â sgwâr eu gwahaniad, r2
.
Cryfder maes
trydanol, E
Y grym i bob uned gwefr sy’n cael ei weithredu ar wefr fach
bositif a roddir yn y maes
Cryfder maes
disgyrchiant, g
Y grym i bob uned màs sy’n cael ei weithredu ar fàs a roddir yn
y maes. Uned: m s-2 neu N kg-1
Potensial trydanol,
VE
Potensial trydanol pwynt penodol yw’r gwaith a wneir i bob uned
gwefr wrth ddod â gwefr bositif o anfeidredd i’r pwynt hwnnw.
Uned: V neu JC-1
Potensial
disgyrchiant, Vg
Potensial disgyrchiant pwynt penodol yw’r gwaith a wneir i bob
uned màs wrth ddod â màs o anfeidredd i’r pwynt hwnnw.
Uned: J kg-1
.
Deddfau mudiant
planedau Kepler:
1
Mae pob planed yn teithio mewn elips â’r Haul yn un ffocws.
Deddfau mudiant
planedau Kepler:
2
Mae’r llinell sy’n cysylltu planed â chanol yr Haul yn sgubo
arwynebedd cyson mewn amser cyson.
Deddfau mudiant
planedau Kepler:
3
Mae T2
, cyfnod orbit y blaned wedi’i sgwario, mewn cyfrannedd
union â r3
, lle r yw hanner echel fwyaf yr elips.
Mater tywyll
Mater na allwn ei weld na’i synhwyro o unrhyw fath o belydriad,
ond gallwn gymryd ei fod yn bodoli o’i effeithiau disgyrchol.
Deddf Faraday
Pan fydd cysylltedd fflwcs cylched drydanol yn newid, mae
g.e.m. (emf) yn cael ei anwytho yn y gylched a’i faint yn hafal
i gyfradd newid y cysylltedd fflwcs.
Deddf Lenz
Mae cyfeiriad unrhyw gerrynt o ganlyniad i g.e.m. wedi’i
anwytho’n gwrthwynebu’r newid mewn cysylltedd fflwcs sy’n
achosi’r cerrynt.
Cadwraeth
momentwm
onglaidd
Mae cyfanswm momentwm onglaidd system yn aros yn
gyson cyn belled ag nad oes trorym allanol yn gweithredu
ar y system.
Cyfernod adfer,
e
Diffinnir y cyfernod adfer fel cymhareb y buanedd
cymharol ar ôl gwrthdrawiad i’r buanedd cymharol cyn
gwrthdrawiad h.y.
e = buanedd cymharol ar ôl gwrthdrawiad . / buanedd cymharol cyn gwrthdrawiad