UNED 3 Flashcards
Enwch bacteria - sffer
Coccus/ cocci
Enwch bacteria - rhoden
Bacillus
Enwch bacteria - troellog
Spirillium
Enghraifft o bacteria mewn par
DIPLOcoccus pneumoniae
Enwch bacteria - mewn cadwyn
Streptococcus
Enwch bacteria - mewn clystyrau
Staphylococcus
Lliw gram positif
Fioled
Lliw gram negatif
Coch
Cellfur gram positif
Pilen a haen trwchus o peptidoglycan/mwrein
Cellfur gram negatif
Pilen, haen denau o peptidoglycan/mwrein a haem lipopolysacarid
Bacteria gram positif
Mae’r crisialau fioled yn bondio i’r asid teichoic sydd yn y peptidoglycan, ac yn gwrthsefyll dadliwio ac felly’n rhoi’r lliw glas/porffor ar ddiwedd y broses. Mae strwythur y gellfur hefyd yn golygu bod y gwrthfiotig, penisilin, a’r ensym, lysosym, yn cael mwy o effaith arnynt nag ar facteria Gram negatif.
Bacteria gram negatif
Mae eu peptidoglycan wedi’i ategu gan foleciwlau mawr lipopolysacarid sy’n amddiffyn y gell ac yn cau llifynnau fel fioled grisial allan. Mae’n bosib dadliwio unrhyw crisialau fioled, a’i amnewid â’r staen coch safrinin, felly maent yn edrych yn goch o dan microsgop golau.
Wrth drin ag alcohol, mae cellfuriau Gram negatif yn colli eu pilen lipopolysacarid allanol, ac mae’r haen peptidoglycan denau fewnol yn agored i’r elfennau. Mae hyn yn golygu bod y cymhlygion ïodin/fioled grisial yn cael eu golchi o’r gell Gram negatif ynghyd â’r bilen allanol – maen nhw’n staenio’n goch gyda’r gwrth staen safranin.
Staenio gram
- Ychwanegu bacteria i sleid gan ddefnyddio dolen frechu a dilyn techneg aseptig.
- Ychwanegu dwr a pasiwch trwy fflam 3 gwaith
- Ychwanegwch crisial fioled i’r sleid a gadewch.
- Rinswch y sleid a dwr.
- Ychwanegwch iodin i’r sleid
- Golchi gyda alcohol (hydoddi haen lipopolysacarid)
- Staenio gyda saffranin sef gwrthstaen
Maetholion
Yn y labordy caiff maetholion eu cyflenwi mewn cyfrwng maetholion. Gallwn ni feithrin y bacteria mewn cyfrwng hylifol, sef potes maetholion, neu ar gyfrwng wedi’i galedu ag agar. Mae’r cyfryngau’n darparu dŵr ac yn cynnwys:
o Ffynhonnell carbon ac egni, glwcos fel rheol
o Nitrogen ar gyfer synthesis asidau amino, mewn moleciwlau oragnig ac ar ffurf anorganig, fel ïonau nitrad.
Ffactorau Twf
sy’n cynnwys fitaminau, e.e. biotin a halwynau mwynol e.e.Na+, Mg2+, Cl-, SO42-, PO43-.
Tymheredd
gan mai ensymau sy’n rheoli metabolaeth bacteria, mae’r amrediad 25-45˚C yn addas i’r rhan fwyaf o facteria. Mae’r optimwm i bathogenau mamolaidd tua 37 ˚C, sef tymheredd y corff dynol.
Os bydd y tymheredd yn cwympo’n isel, bydd cyfradd adwaith a gatalyddir gan ensymau yn arafu fel bod dim tyfiant, os mae’n rhy uchel bydd yr ensymau yn dadnatureiddio ac yn achosi marwolaeth. Gall rhai bacteria tyfu ar dymhereddau mor isel â –5 ˚C, a rhai eraill mor uchel a 95 ˚C .
Sycroffiliau
tyfiant ar dymhereddau o dan 20 ˚C, rhai yn parhau i dyfu hyd at 0 ˚C.
Mesoffiliau
Tymheredd optimwm o 20-40 ˚C ar gyfer tyfiant.
Thermoffiliau
Tymheredd optimwm ar gyfer tyfiant yn uwch na 45 ˚C, a rhai yn goroesi ar dymheredd uwch na 50 ˚C. Mae ganddynt ensymau sydd dim yn dadnatureiddio ar dymheredd uchel.
pH
Mae’r rhan fwyaf o facteria yn ffafrio amodau ychydig bach yn alcalïaidd (pH 7.4), ac mae ffyngau yn tyfu’n well mewn amodau niwtral i ychydig bach yn asidig. Nifer bach iawn o facteria sy’n medru goddef pH o lai na 4. (mae’r rhan fwyaf o facteria yn cael eu lladd yn stumog bodau dynol, ar pH o 2).
Aerobig rhwymedig (anorfod)
Angen ocsigen
Anaerobau amrhyddawn
Mae rhai’n tyfu orau pan fydd ocsigen yn bresennol, ond yn gallu goroesi yn ei absenoldeb
Anaerobau rhywmedig (anorfod)
Methu â thyfu ym mhresenoldeb ocsigen
Egni
Mae angen egni ar gyfer tyfiant hefyd, ac mae hyn fel arfer ar ffurf golau neu cemegau megis glwcos.