Uned 2.3 metelau ac echdynu metelau Flashcards
Electrolysis trwy cyfansoddion ionig tawdd?
Mae ïonau â gwefr bositif yn symud i’r electrod negatif (catod). Maent yn derbyn electronau ac yn cael eu lleihau.
Mae ïonau â gwefr negatif yn symud i’r electrod positif (anod). Maen nhw’n colli electronau ac yn cael eu ocsidio.
Gelwir y sylwedd sy’n cael ei ddadelfennu yn electrolyt.
echdyniad diwydiannol alwminiwm gan ddefnyddio electrolysis?
Gelwir mwyn alwminiwm yn bocsit. Mae’r bocsit yn cael ei buro i gynhyrchu alwminiwm ocsid, powdr gwyn y gellir tynnu alwminiwm ohono. Gwneir yr echdynnu trwy electrolysis. Rhaid i’r ïonau yn yr alwminiwm ocsid fod yn rhydd i symud fel bod trydan yn gallu mynd drwyddo.
Beth yw swyddogaeth y ffwrnais chwyth?
Mae haearn yn cael ei dynnu o fwyn haearn mewn cynhwysydd enfawr o’r enw ffwrnais chwyth. Mae mwynau haearn fel haematit yn cynnwys haearn(III) ocsid, Fe 2O 3. Rhaid tynnu’r ocsigen o’r haearn(III) ocsid er mwyn gadael yr haearn ar ôl. Gelwir adweithiau lle mae ocsigen yn cael ei dynnu yn adweithiau rhydwytho
Beth yw electrolysis?
yw’r broses o ddefnyddio trydan i echdynnu metel
Beth yw’r calchfaen?
Defnyddir calchfaen hefyd i gael gwared ar amhureddau o’r ffwrnais chwyth wrth wneud haearn. Mae’r amhureddau yn bennaf yn silicon deuocsid (a elwir hefyd yn dywod). Mae’r calsiwm carbonad yn y calchfaen yn adweithio â’r silicon deuocsid i ffurfio calsiwm silicad (a elwir hefyd yn slag).