tystiolaeth ar gyfer damcaniaeth orbital Flashcards
beth yw egni ionediddiad
fesur o’r egni sydd ei angen i dynnu un electron neu fwy o atom.
gwerth egni ioneiddiad ar gyfer pob electron sydd yn yr atom.
beth yw egni ioneiddiad. cyntaf
yr egni sydd ei angen i dynnu un môl o electronau o un môl o atomau nwyol i ffurfio un môl o ïonau nwyol 1+.
beth yw ail egni ioneiddiad
yr egni sydd ei angen i dynnu un môl o electronau o un môl o ïonau nwyol 1+ i ffurfio môl o ïonau nwyol 2+.
beth yw’r tri factor allweddol o ran atyniad effeithiol y niwclews ar yr electron dan sylw
Y mwyaf yw nifer y protonau mewn niwclews, y mwyaf yw’r tyniad ar yr electronau.
Y mwyaf yw nifer yr electronau mewnol, y mwyaf yw’r ymyrraeth ar yr atyniad rhwng y niwclews a’r electron allanol.
Y pellaf i ffwrdd y mae’r electron allanol o’r niwclews, y lleiaf yw’r grym atyniadol rhwng y niwclews a’r electron.
pam mewn grwpiau mae’r egni ioneddiad cyntaf yn lleihau wrth mynd lawr y grwp
radiws atomig cynyddol a mwy o amddiffyniad, sy’n lleihau effaith yr atyniad electrostatig.