Seicoleg positif Flashcards
ADDYSG +
Cred Seligman ( 2009) fod cwricwlwm seicoleg bositif ( CSB) mewn ysgolion yn gallu
1) hybu’r sgiliau a chryfderau a welir fel y rhai mwyaf gwerthfawr
2) cynhyrchu gwelliant mesuradwy mewn lles ac ymddygiad plant
3) gwella dysgu a chyrhaeddiad disgyblion
Mae un cwricwlwm o’r fath , Y Penn Resiliency Program, wedi dangos cefnogaeth i honiadau
Seligman. Gwelodd Gillam et al., 1995, bod digyblion ohono yn dioddef llai o symptomau
iselder ( 22% ohonynt ) o’u cymharu gyda’r grŵp rheoli ( 44%) 24 mis ar ôl dechrau’r rhaglen.
ADDYSG -
Mae Spence a Shortt (2007)
yn dadlau bod yr ymchwil sy’n bodoli yn fach iawn ac wedi ei gynnal dros gyfnodau byr,
ac felly ni ddylai ysgolion ddefnyddio seicoleg bositif heb fwy o ymchwil hir-dymor. Mae
Seligman ei hun yn cyfaddef bod angen mwy o ymchwil er mwyn sicrhau bod CSB yn
effeithiol gyda disgyblion o sawl cefndir cymdeithasol-economaidd a diwylliannol
gwahanol.
Problem arall yw pe bai CSB yn cael ei ychwanegu i’r cwricwlwm mewn ysgolion, fe
fyddai rhaid gollwng pynciau eraill. Gallai hyn olygu bod plant yn gadael ysgol gyda llai o
gymwysterau academaidd.
GWAITH +
Mae gwaith Mihaly Csikszentmihalyi yn dangos fod gwaith yn gallu bod yn ffynhonnell bwysig o
hapusrwydd yr unigolyn. Roedd ei damcaniaeth ‘ Llif’ yn rhagdybio y bydd ein profiadau yn fwy cadarnhaol pan fydd ein sgiliau a heriau gwaith yn uchel; mae’r person ddim yn unig yn mwynhau’r cyfnod, ond mae hefyd yn ymestyn eu galluoedd gyda’r tebygolrwydd o ddysgu sgiliau newydd a chynyddu eu lefel hunan-barch.
Gwelodd Csikszentmihalyi fod pobl yn profi ‘llif’’ 3 gwaith yn fwy aml yn eu gwaith nag yn eu
hamser hamdden. Mae hyn yn awgrymu bod ein lle gwaith yn cynnig mwy o gyfleoedd am
brofiadau positif, sy’n syndod i rai pobl! Mae Csikszentmihalyi felly’n awgrymu, pe bai pobl yn
cyfaddef i’w hunain eu bod yn gallu mwynhau eu gwaith llawn cystal â’u hamser hamdden, yna fe fyddent yn gweithio’n fwy effeithiol ac hefyd yn gwella ansawdd eu bywydau.
GWAITH -
Ysgrifenwyd y dywediad:‘choose a job you love, and you will never have to work a day in
your life’ yn 551CC. Nid yw felly yn syniad newydd. Efallai fod y syniad o gael seicoleg
bositif yn y lle gwaith felly dim ond yn fater o synnwyr cyffredin, ac mae’r rhan fwyaf o
gymdeithas yn ymwybodol ohono’n barod.
Efallai bod gwaith yn eich gwneud yn hapus, ond mae elfennau eraill ohono, fel cael mwy o arian, ddim yn ymddangos fel ei fod yn cael yr un effaith.
Ond mewn cymdeithasau ble mae pobl yn dlawd, mae arian yn bwysig ac efallai bod gwaith
yn bwysicach ar gyfer arian nag yw ar gyfer hapusrwydd. Gallai fod mai dim ond yng
ngwledydd y Gorllewin mae gennym y moethusrwydd o chwilio am hapusrwydd trwy ein gwaith.
HAMDDEN A CHYNGOR AM Y FFORDD O
FYW +
Mae Csikszentmihalyi yn argymell fod pobl yn cynyddu llif ac ansawdd eu bywydau drwy fod yn fwy ymwybodol o’u hamser hamdden a bod yn fwy actif ynddo. Mae sawl prosiect seicoleg bositif ar-lein sy’n anelu at wneud bywyd ym Mhrydain yn well e.e. Action for Happiness .
Mae’r wefan yn cynnig cynhaliaeth i bobl yn dioddef o iselder ond hefyd yn cynnig ’10 keys to
happier living’.
HAMDDEN A CHYNGOR AM FFORDD O
FYW
Efallai bod y gweithgareddau hamdden sy’n gwella profiadau ‘llif’ ddim ar gael i bawb, oherwydd diffyg amser neu arian. Mae hefyd yn anodd i fesur faint o effaith mae rhaglenni fel Action for
happiness yn eu cael am nad oes ymchwil gwrthrychol wedi ei wneud i’w mesur, ac fe fyddai angen grwpiau rheoli. Er enghraifft, efallai mai pobl cyfoethog sy’n cael eu hatynnu i raglenni o’r fath, ac mae eu cyfoeth, ac nid y rhaglen, sy’n eu gwneud yn hapus.
IECHYD +
Dilynnodd ymchwil Kubzansky a Thurston (2007) mwy na 6000 unigolyn rhwng 25 a 74
mlwydd oed dros gyfnod o 20 mlynedd. Gwelodd fod rheini oedd yn ‘emosiynol bywiog’ ( h.y. yn frwdfrydig, yn optimistaidd ac yn delio’n aeddfed gyda dirboenwyr) yn llai debygol o gael
afiechyd y galon.
IECHYD -
Mae gweld y berthynas rhwng hapusrwydd a iechyd yn anodd. Ai’r iechyd sy’n achosi’r
hapusrwydd, neu’r gwrthwyneb? Gallai seicoleg bositif fod yn ffactor, ond mae’n anodd ei
gymryd o ddifrif am fod achos ac effaith bron yn amhosibl ei gyfrifo.
GOBLYGIADAU CYMDEITHASOL
Mae’r ymagwedd positif yn edrych y tu hwnt i lles unigolion i ystyried beth sy’n gwneud
grwpiau a chymunedau tyfu a ffynnu (thrive). Yn ôl yr ymagwedd positif un nodwedd o gymuned ffyniannus (thriving) yw cael sefydliadau sy’n cefnogi unigolion i fod yn
ddinasyddion gwell . Mae’r syniad yn cael ei argymell gan y llywodraeth geidwadol ar hyn o
bryd , yn eu nod, a gyhoeddwyr yn Ebrill 2015, oedd i greu ‘gymdeithas fawr’ lle bydd yn
ofynnol i bob cwmni gyda mwy na 250 o weithwyr i gynnig 3 diwrnod o wirfoddoli bob
blwyddyn. Mae’r llywodraeth yn honni bod gwirfoddoli yn gwella morâl a lles weithwyr, a
fydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant y cwmni.