Prosesau afon a thirffurfiau - Termau Allweddol Flashcards
Dyddodiad
Gosod haenau o ddeunydd yn y dirwedd. Mae dyddodiad yn digwydd pan fydd y grym oedd yn cludo’r gwaddod yn lleihau.
Gylïau
Sianeli cul ffurf V, sy’n cael eu torri gan ddŵr yn llifo ar lethrau serth.
Gweithred hydrolig
Erydiad wedi’i achosi pan fydd dŵr ac aer yn cael eu gorfodi i mewn i fylchau mewn craig neu bridd.
Sbardunau pleth
Arwedd mewn dyffrynnoedd ffurf V lle mae’r afon yn troelli o un ochr i’r llall fel bod y bryniau’n plethu yn debyg i ddannedd sip.
Llwyth
Y gwaddod mae’r afon yn ei gludo.
Ystumllyn
Tro hen ystum afon sydd bellach ddim wedi’i chysylltu â sianel yr afon gan ddŵr sy’n llifo.
Plymbwll
Pwll o ddŵr ar waelod rhaeadr. Arweddion erydol yw plymbyllau, wedi’u creu gan sgrafelliad a gweithred hydrolig o’r dŵr yn plymio.
Tarddle
Man cychwyn yr afon.
Cludo
symud deunydd wrth iddo gael ei gario gan afon drwy’r dirwedd.
Erydiad fertigol
Lle mae grym y dŵr, sy’n treulio’r dirwedd, yn cael ei ganolbwyntio tuag i lawr.
Sgrafelliad
Erydiad wedi’i achosi gan ffrithiant. Mae’n digwydd pan fydd afon yn cludo tywod, graean neu gerigos a’u defnyddio i dreulio’r dirwedd.
Gorlifdir
Ardal wastad ger sianel afon sy’n cael ei gorchuddio a dŵr yn ystod llifogydd.
Erydiad ochrol
Proses lle gall afon dorri i’r ochr, sef i mewn i’w glan afon ei hun.
Encilio
Tirffurf yn symud yn raddol am yn ôl oherwydd proses erydu. Mae rhaeadr yn encilio tuag at darddle afon wrth iddi erydu.
Llethr slip
Llethr graddol ar draeth afon (bar pwynt) sy’n cael ei ffurfio drwy ddyddodi gwaddod ar dro mewnol ystum afon.